Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Presenoldeb yn yr ysgol


Manteision presenoldeb rheolaidd

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cydnabod bod gan bresenoldeb ysgol rheolaidd effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc, ac effaith gref ar ddeilliannau, safonau a dilyniant dysgwyr.

Mewn perthynas â hyn, mae presenoldeb rheolaidd yn cefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd, a’r ddealltwriaeth gysyniadol sydd ei hangen ar gyfer astudiaethau pellach a llwyddiant yn y gweithle.

Mae dadansoddi’n dangos bod gan ganlyniadau addysgol gyswllt cryf â chyfraddau presenoldeb, er enghraifft, lle gall cynnydd bach mewn absenoldeb ostwng canlyniadau. Gall colli gwersi olygu colli gwybodaeth, sgiliau a syniadau allweddol. Gall bod yn hwyr yn rheolaidd hefyd achosi problemau cymdeithasol yn ogystal â rhai academaidd.

Sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch: lles

Mae presenoldeb da hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar les. Mae sefydlu patrymau presenoldeb da o oed ifanc yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol.

Er enghraifft, y mwyaf o amser y mae plentyn yn ei dreulio â phlant eraill yn y dosbarth ac fel rhan o weithgareddau ehangach a drefnir gan yr ysgol, y mwyaf o gyfle sydd ganddynt i wneud ffrindiau, i deimlo wedi eu cynnwys ac i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch.

Mae effeithiau negyddol iawn yn dod o absenoldeb ysgol

Ar y llaw arall, mae absenoldeb estynedig o’r ysgol yn gysylltiedig â phroblemau ymddygiadol a chymdeithasol.

Gall yr effeithiau hyn barhau am yn hir a gallant effeithio ar iechyd meddwl person a’u cyfleoedd bywyd tymor hir.

Gall absenoldebau ddechrau cylch negyddol, lle mae dysgwyr yn cychwyn bod yn absennol am resymau megis bwlio neu beidio ag ymdopi â gwaith ysgol, gydag absenoldeb hirfaith dim ond yn debygol o wneud y sefyllfa’n anoddach i’w datrys.

Ystyrir bod y berthynas rhwng presenoldeb a lles mor gryf bod presenoldeb yn aml yn cael ei ystyried fel mesur dirprwyol ar gyfer llesiant dysgwyr. Gofynnwn i rieni godi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl gyda’r ysgol ac i ymgysylltu â’r ysgol i wella presenoldeb.

Ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu cefnogaeth i ysgolion, dysgwyr a rhieni i sicrhau presenoldeb rheolaidd ac i fynd i’r afael â phroblemau mewn perthynas ag absenoldeb.

Mae’r gwasanaeth yn cysylltu ag asiantaethau eraill ac yn darparu cysylltiad pwysig rhwng y cartref a’r ysgol, gan gynorthwyo rhieni ac athrawon i weithio mewn partneriaeth.

Gan amlaf, mae ysgolion yn cyfeirio achosion at y Gwasanaeth Lles Addysg. Fodd bynnag, gall blant a theuluoedd hunangyfeirio’n uniongyrchol naill ai drwy gysylltu â’r Swyddog Lles Addysg yn yr ysgol leol, drwy ffonio 01286 679 007 neu drwy e-bostio GweinyddolADYaCh@gwynedd.llyw.cymru .

Beth allwch chi ei wneud fel rhiant

Cymerwch ddiddordeb

Cymrwch ddiddordeb gweithredol ym mywyd a gwaith ysgol eich plentyn. Siaradwch â’ch plentyn yn rheolaidd am yr ysgol a sut maent yn teimlo am yr ysgol. Darganfyddwch a ydyn nhw'n cael trafferth mewn unrhyw ffordd a chynnig eich cefnogaeth. Maent yn fwy tebygol o fynychu os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a bod eu poenau’n cael eu clywed. Os na allwch eu helpu, siaradwch gyda’r ysgol a gadewch iddynt wybod am unrhyw drafferthion.

Mynychwch nosweithiau rhieni a digwyddiadau ysgol eraill pan fo’n bosibl.

Sicrhewch fod eich plentyn ar amser

Sicrhewch fod eich plentyn yn brydlon i’r ysgol neu i ddal y cludiant i’r ysgol. Rhowch ganmoliaeth am bresenoldeb da; hyd yn oed llwyddiannau bach fel mynd i mewn yn brydlon, hyd yn oed pan mai’r wers gyntaf yw eu cas wers.

Arferiad

Byddwch yn gyfarwydd â’r diwrnod ysgol er mwyn osgoi problemau, er enghraifft, a oes ganddynt eu cit addysg gorfforol (PE)?

Rhoi wybod am absenoldeb

Ffoniwch yr ysgol ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb i ddweud wrthynt pam bod eich plentyn yn absennol, a pha bryd mae disgwyl iddynt ddychwelyd.

Os yw eich plentyn i ffwrdd am resymau eraill fel apwyntiad doctor neu ddeintydd, gadewch i’r ysgol wybod o flaen llaw a dangoswch gopi o neges destun neu gerdyn apwyntiad iddynt.

Gall rhoi rhif ffôn yr ysgol yn eich ffôn arbed amser i chi.

Sicrhewch eich bod gwybod trefn yr ysgol ar gyfer eich hysbysu o absenoldeb.

Archebu gwyliau yn ystod amser ysgol

Osgowch archebu gwyliau teulu yn ystod amser ysgol. Os na ellir osgoi hyn, yna mae’n rhaid i chi wneud cais am y gwyliau a derbyn ateb cyn archebu’r gwyliau.

Os oes problem gyda phresenoldeb eich plentyn

Siaradwch â'ch plentyn

Tra dylech sicrhau bod eich plentyn yn gwybod nad ydych yn eu cymeradwyo i golli’r ysgol am unrhyw reswm, byddwch yn wyliadwrus am unrhyw resymau penodol dros beidio â mynychu. Os oes problem gyda phresenoldeb eich plentyn, siaradwch yn bwyllog â'ch plentyn a gwrandewch ar eu hesboniad. Mae yna esboniad bob amser. Efallai na fydd yn creu argraff arnoch chi, ond roedd yn cyfrif digon i’ch plentyn i'w wneud yn driwant. 

Byddwch yn arbennig o wyliadwrus a chefnogol cyn unrhyw brofion, a byddwch yn ymwybodol o ddyddiadau cyflwyno gwaith cwrs.

Cynorthwywch eich plentyn â gwaith maent wedi’i golli, gan nad yw diwrnod wedi’i golli yn gorfod golygu gwaith wedi’i golli.

Mae mynd ar drywydd y rheswm dros beidio â mynychu’n bwysig.

Os ydych yn amau bod eich plentyn yn colli’r ysgol neu’n anhapus yn yr ysgol, gallwch gysylltu â’r ysgol neu’r Gwasanaeth Lles Addysg y gall helpu i fynd i’r afael â thrafferthion a chynnig cyngor cyfeillgar.

Siaradwch â'r ysgol - nid ydych chi ar eich pen eich hun

Siaradwch â’r ysgol os ydych yn pryderu bod eich plentyn yn anfodlon mynychu’r ysgol. Efallai y byddant yn gallu eich cynorthwyo a’ch cefnogi chi a’ch plentyn i ddatrys problemau. Efallai y byddant hefyd yn gallu cyfeirio at y Gwasanaeth Lles Addysg am fwy o gefnogaeth ar gyfer eich plentyn a chithau. Nid ydych ar eich pen eich hun.

Mae’n bwysig eich bod yn ceisio cael help am broblemau presenoldeb cyn gynted â phosibl cyn i’r pryderon fynd yn fwy ac yn anoddach i’w datrys.

Byddwch yn ymwybodol

Os nad oes rhesymau dilys dros ddiffyg presenoldeb, yna mae camau cyfreithiol y gellir eu cychwyn. Gallai’r rhain gynnwys cyhoeddi Rhybuddion Cosbau Penodedig (FPN) ac/neu erlyniadau Deddf Addysg ysgol.

Eto, os oes gennych bryder am unrhyw un o’r materion hyn, cysylltwch â’r ysgol neu’r Gwasanaeth Lles Addysg cyn gynted â phosibl.