Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Plant mewn adloniant


Gall plant sy'n cymryd rhan mewn adloniant megis teledu, ffilm, theatr, modelu, sioeau dawns, pantos, dramâu amatur, grwpiau cerddoriaeth a chwaraeon cyflogedig, boed yn broffesiynol neu'n amatur, fod angen trwydded berfformio a hebryngwr trwyddedig.

Y gyfraith

Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw'r "gwaith" yn peryglu lles ac addysg y plentyn. Caiff hyn ei reoleiddio o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a Rheoliadau Plant (Perfformiad a Gweithgareddau) (Cymru) 2015.

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu plant mewn adloniant yn cynnwys plant o'u genedigaeth hyd at oedran gadael ysgol statudol (y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin y flwyddyn ysgol y mae plentyn yn cyrraedd 16 oed).

Trwydded perfformiad plentyn

Mae angen trwydded perfformiad plentyn:

  • ar gyfer pob plentyn o’u genedigaeth i ddiwedd eu haddysg orfodol. Diffinnir hyn fel y dydd Gwener diwethaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd y maent yn troi’n 16
  • pan fydd tâl mewn perthynas â’r perfformiad. Mae hyn yn cymhwyso yn dibynnu a yw’r perfformwyr yn cael eu talu ai peidio
  • pan fydd y perfformiad yn digwydd mewn lleoliad â thrwydded neu mewn clwb cofrestredig
  • pan fo’r perfformiad yn cael ei recordio i gael ei ddarlledu neu ei arddangos (er enghraifft ar y teledu, radio, ffilm, y we)

Trwydded hebryngwr

Mae’n rhaid i blant sydd ynghlwm ag adloniant megis teledu, ffilm, modelu â thâl neu weithgareddau chwaraeon gael eu goruchwylio gan hebryngwr wedi’i gymeradwyo gan y cyngor oni bai eu bod dan ofal eu rhiant, gwarcheidwad cyfreithiol neu dan rai amgylchiadau, athro.

Caiff hyn ei reoleiddio dan y Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933/63 a’r Rheoliadau Plant (Perfformiad a Gweithgareddau) 2015.

Rôl hebryngwr

Rôl yr hebryngwr yw gweithredu ym muddiant gorau’r plentyn, gan gynnwys eu hiechyd, eu lles a’u haddysg drwy gydol amser y perfformiad neu’r gweithgaredd.

Mae’n rhaid i hebryngwyr aros gyda’r plentyn bob amser a bod â golwg o’r plentyn pan fyddant ar y llwyfan, ar set neu’n perfformio. Bydd y dyletswyddau penodol tra bod y plentyn ym man y perfformio neu’r gweithgaredd yn amrywio yn dibynnu ar y math o berfformio neu weithgaredd.

Fodd bynnag, eu prif ddyletswyddau yw sicrhau bod y plentyn/plant yn cael eu goruchwylio’n briodol pan nad ydynt yn perfformio a’u bod yn cael prydau bwyd, seibiannau a hamdden digonol. Mae’n rhaid i hebryngwyr hefyd sicrhau bod cyfleusterau newid addas yn cael eu trefnu gan y cwmni neu’r lleoliadau, gydag ystafelloedd newid ar wahân i fechgyn a merched dros bump.

Gall hebryngwr oruchwylio hyd at 12 o blant. Fodd bynnag, oherwydd galw’r perfformiad, neu oedran, rhywedd neu anghenion arbennig y plant, gall Awdurdod Lleol Ynys Môn benderfynu bod hebryngwr ond yn gyfrifol am nifer lai o blant i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu’n briodol.

Gwneud cais

I wneud cais i fod yn hebryngwr, bydd angen cwblhau’r canlynol:

  • Cwblhau ffurflen gais
  • Bydd angen ffotograff maint pasbort
  • Mynychu cyfweliad
  • Bydd angen geirda gan ddau ganolwr
  • Tystysgrif Datgelu a Gwahardd (DBS) manwl
  • Hyfforddiant diogelu hebryngwr perthnasol

Gwybodaeth pellach

Am wybodaeth a ffurflenni cais hebryngwyr, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg ar 01286 679 007 neu e-bost GweinyddolADYaCh@gwyneddllyw.cymru