Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Addysg ddewisol yn y cartref


Yng Nghymru, mae addysg yn orfodol ond nid yw mynychu ysgol yn orfodol.

Cyfrifoldeb rhiant

Os addysgir plentyn o’r cartref, mae rhwymedigaeth ar rieni i sicrhau bod eu plentyn yn derbyn addysg lawn amser ‘effeithlon’ ac ‘addas’ - ceir hyd i’r rhwymedigaeth hon yn adran 7 o Ddeddf Addysg 1996.

Mae’n rhaid i rieni sy’n penderfynu addysgu eu plentyn o’r cartref fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb lawn a gall hyn fod â goblygiadau ariannol.

Costau ariannol

Mae’n rhaid i rieni sy’n dewis addysgu eu plant o’r cartref fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb ariannol llawn, gan gynnwys y gost o unrhyw arholiadau cyhoeddus. 

Cyfrifoldeb y cyngor

Dan adran 436A o Ddeddf Addysg 1996, mae’n rhaid i Awdurdod Lleol Ynys Môn wneud trefniadau i adnabod plant yn eu hardal sydd o oed ysgol gorfodol nad ydynt yn derbyn addysg addas. Mae adran 436A o Ddeddf Addysg 1996 yn nodi:

'A local authority must make arrangements to enable them to establish (so far as it is possible to do so) the identities of children in their area who are of compulsory school age but

(a) are not registered pupils at a school, and

(b) are not receiving suitable education otherwise than at a school.' 

Mae Awdurdod Lleol Ynys Môn yn nodi y dylid dehongli’r cafeat yn adain 436A ‘so far as it is possible to do so’ fel y dylai’r awdurdod lleol wneud popeth sy’n rhesymol, yn ymarferol ac yn briodol i adnabod plant. 

Mae addysg gartref yn amodol

Nid yw’r hawl i addysgu o’r cartref yn un sylfaenol.

Mae’n amodol ar rieni’n rhoi addysg ‘effeithlon’ ac ‘addas’ i’w plentyn. Gall rhieni addysgu eu plant o gartref yn amodol arnynt yn cwrdd â’r gofynion

'Suitable education': diffiniad

Mae adran 436(A)(3) yn nodi bod ‘suitable education’, mewn perthynas â phlentyn, yn golygu addysg lawn amser sy’n addas ar gyfer ei oed, ei allu a’i ddawn ac i unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd o bosib gan y plentyn.

Rhagor o wybodaeth am addysg ddewisol yn y cartref

Os ydych yn ystyried addysg ddewisol yn y cartref ac yn dymuno trafod ymhellach, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiad Addysg ar 01286 679 007, neu gallwch e-bostio GweinyddolADYaCh@gwyneddllyw.cymru