Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyflogaeth plant


Y cyfraith

Mae rheolau a rheoliadau caeth yn ymdrin â chyflogaeth plant i sicrhau bod y bobl ifanc wedi'u cofrestru'n iawn ac nad ydynt yn cael eu hecsbloetio neu'n ymgymryd â gwaith a allai niweidio eu hiechyd, eu rhoi mewn perygl corfforol neu gael effaith andwyol ar eu haddysg.

Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw'r dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol y mae'r disgybl yn 16 oed.

Cyn y dyddiad hwn, rhaid i bobl ifanc rhwng 13 ac 16 oed gael trwydded waith os ydynt yn dymuno gwneud gwaith rhan-amser.

Rhaid i ffurflen gais gael ei llenwi a'i llofnodi gan y rhieni a'r cyflogwr, a'i chyflwyno i'r Gwasanaeth Cynhwysiad Addysg i'w chymeradwyo.

Mae'r holl gyflogaeth nad yw wedi'i chofrestru, lle nad oes Trwydded Gyflogaeth mewn grym, yn anghyfreithlon.

Cyfrifoldebau’r cyflogwyr

Mae’n rhaid i unrhyw blentyn o oedran ysgol sydd â swydd ran amser yn gweithio i gyflogwr a hynny gyda thâl neu’n wirfoddol fod wedi’i gofrestru ag awdurdod lleol Ynys Môn a bod â thrwydded waith. Cyfrifoldeb y cyflogwr yw gwneud cais am drwydded waith er mwyn cyflogi’r plentyn.

Mae’n rhaid i gyflogwyr ystyried y rheolau a’r rheoliadau sy’n rheoli faint o oriau y gall y plentyn weithio, sut fath o waith gall y plentyn ei wneud a’r math o leoliad fydd y plentyn yn gweithio ynddo.

Dyletswydd y cyflogwr yw cynnal Asesiad Risg Person Ifanc penodol o unrhyw beryglon mewn perthynas â chyflogaeth y plentyn ac i hysbysu’r rhiant/gwarcheidwad o ddeilliant yr asesiad. Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i’r cyflogwr sicrhau bod dillad ac esgidiau cywir yn cael eu gwisgo, a bod hyfforddiant, arweiniad a goruchwyliaeth gywir yn cael ei rhoi i’r plentyn, ynghyd â chael yswiriant priodol.

O fewn 7 diwrnod o’r plentyn yn cychwyn gweithio, mae’n rhaid i’r cyflogwr gwblhau ffurflen gais cyflogaeth plant y mae’n rhaid i’r cyflogwr a rhiant/gwarcheidwad y plentyn ei harwyddo. Mae’r ffurflen gais hon yn rhoi manylion y plentyn, oriau o waith, lleoliad gwaith a’r math o waith i’w ymgymryd ag ef. 

Rheolau i gyflogwyr

Dim ond rhai o’r rheolau a’r rheoliadau yn ymwneud â chyflogi plant yw’r uchod, ac mae’r cyfrifoldeb arnoch chi, fel cyflogwr, i sicrhau eich bod yn llawn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth cyflogi plant a bod unrhyw blentyn a gyflogwch yn gyflogedig yn gyfreithlon.

  • Ei bod yn anghyfreithlon cyflogi plentyn dan 13 oed
  • Ei bod yn anghyfreithlon cyflogi plentyn heb fod wedi cael Trwydded Cyflogaeth Plentyn
  • Gellir ond cyflogi plant am fathau penodol o waith (nodir isod)
  • Ni all unrhyw blentyn weithio ar unrhyw amser rhwng 7pm a 7am (Llun i Sadwrn)
  • Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddiwrnod ysgol
  • Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7am ac 11am
  • Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 12 awr yn ystod unrhyw wythnos y mae gofyn iddynt fynychu’r ysgol
  • Gall plentyn 13 neu 14 oed weithio hyd at 5 awr ar ddydd Sadwrn neu mewn gwyliau ysgol, a mwyafswm o 25 awr yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol
  • Gall plentyn 15 neu 16 oed weithio am hyd at 8 awr ar ddydd Sadwrn neu mewn gwyliau ysgol, a mwyafswm o 35 awr yr wythnos yn ystod gwyliau ysgol
  • Mae’n rhaid i blentyn sy’n gweithio am 4 awr gael egwyl o 1 awr o leiaf
  • Mae’n rhaid i blentyn gael o leiaf 2 wythnos o wyliau olynol y flwyddyn

Gwybodaeth ar drwyddedau gwaith cyflogaeth plant

Os ydych yn dymuno siarad â rhywun yn ymwneud â thrwyddedau gwaith cyflogaeth plant, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiad Addysg ar 01286 679 007 neu e-bostiwch GweinyddolADYaCh@gwyneddllyw.cymru