Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gofal plant ar gyfer plant 2 i 3 oed gyda Dechrau'n Deg


Flying Start logo high resolutionGall Dechrau’n Deg ddarparu gofal plant o ansawdd uchel wedi’i ariannu yn ystod tymor yr ysgol am 2½ awr y dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.

Mae ar gael o’r tymor ysgol ar ôl ail ben-blwydd y plentyn, hyd at y tymor ysgol ar ôl eu trydydd pen-blwydd mewn darpariaeth yn eich ardal sydd wedi’i gofrestru i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg.

Cymhwysedd

Mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati fesul cam i Ehangu ar Ofal Plant Dechrau’n Deg ledled Cymru.

Mae hyn yn golygu nad yw pob cyfeiriad Ynys Môn yn gymwys ar hyn o bryd, ond bydd hyn yn newid yn y dyfodol.

Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld a ydych yn gymwys.