Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth ac arweiniad iechyd


Flying Start logo high resolutionMae Tîm Iechyd Dechrau’n Degyn cynnig gwasanaeth ymwelwyr iechyd dwys i deuluoedd sydd â phlant o dan oedran ysgol hyd at 4 mlwydd oed yn ardaloedd Dechrau’n Deg Ynys Môn.

Mae'r tîm yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Meithrin Cymunedol sy'n cydweithio â theuluoedd, bydwragedd, meddygon teulu, gwasanaethau plant, lleoliadau gofal plant a'r tîm Dechrau'n Deg ehangach i gynnig cymorth ac arweiniad cyn geni a thrwy flynyddoedd cyntaf eich mywyd plentyn.

Mae’r tîm yn cynnig sesiynau 1 i 1 yn y cartref a lleoliadau cymunedol gan ddarparu cymorth mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft:

Cymorth cyn-geni

Cadw eich hun yn iach yn ystod beichiogrwydd, gwybodaeth am offer a allai fod o ddefnydd i chi, cymorth yn y dyddiau cyntaf.

Cynllun cychwyn iach

Ffeindiwch allan os oes gennych hawl i gael talebau Cychwyn Iach ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres a fitaminau

Cyngor ar fwydo ar y fron

Cyngor a chymorth gyda materion bwydo o’r fron, eich helpu i fwydo’ch baban yn iawn.

Diddyfnu

Maint prydau, bwydydd diddyfnu cyntaf, bwyd y teulu a sut i ddatblygu maeth eich plentyn.

Cymorth gyda diogelwch yn y cartref

Cyngor ar sut i sicrhau bod eich cartref yn addas i blant er mwyn lleihau nifer y damweiniau.

Clybiau babis

I rhoi cymorth i famau a thadau newydd. Mae'r clybiau'n cynnig sesiynau tylino babanod, cyngor ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd, er enghraifft bwydo eich babi, cysgu'n ddiogel, iechyd deintyddol yn ogystal â gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i annog a chefnogi datblygiad eich babi.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch llyfryn Tîm Iechyd (PDF) am wybodaeth pellach.

Os ydych eisiau gwybodaeth bellach am y gwasanaeth cysylltwch â Thîm Iechyd Dechrau’n Deg.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.