Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymorth a rhaglenni rhiantu


Flying Start logo high resolutionMae llawer o ffyrdd y gallwn ni helpu i’ch cefnogi chi yn y gwaith pwysig hwn o fod yn rhiant.

Mae gweithwyr teulu yn cynnig cymorth 1:1 yn eich cartref yn ogystal â’r gymuned. Eu rôl yw eich cefnogi chi a’ch teulu gyda rheolaeth o ddydd i ddydd, rhoi help gyda sgiliau bywyd a darparu rhwydwaith i’ch cefnogi.

Mae amrywiaeth o grwpiau a chyrsiau i rieni yn cael eu cynnig gan y gweithwyr teulu. Mae’r rhaglenni i rieni yn cael eu cyflwyno mewn grwpiau bach o rieni mewn lleoliad cymunedol yn eich cymuned leol.

Caiff gwasanaeth portage hyblygei gynnig i rieni, mae hyn yn golygu cefnogi datblygiad y plentyn ar sail chwarae, cyfathrebu a pherthnasu ym mywyd pob dydd.

Gwybodaeth bellach

Darllenwch y daflen Tîm Gweithwyr Teulu a Gwasanaeth Portage am wybodaeth bellach.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o’r rhaglenni rhiantu neu os ydych eisiau gwybod mwy am y cymorth i deuluoedd, cysylltwch â Thîm Gweithwyr Teulu.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.