Gweithio mewn Partneriaeth
Pwy sy’n ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel
Athrawes Dechrau Deg
Mae’r lleoliadau yn cael eu cefnogi gan athrawes Dechrau'n Deg sy’n gyfrifol am gynnig cefnogaeth ac i arwain ar arferion gorau i sicrhau bod anghenion unigol pob plentyn yn cael eu diwallu. Bydd yr athrawes yn ymweld â phob lleoliad yn rheolaidd i sicrhau bod darpariaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu a bod y staff yn cael eu cefnogi.
Yn dilyn trafodaeth gyda rhieni bydd yr athrawes hefyd yn trafod strategaethau priodol gyda'r staff er mwyn cefnogi unrhyw blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Bydd yr athrawes yn gyfrifol am drefnu/darparu hyfforddiant staff gan alluogi'r staff i gefnogi pob plentyn yn llawn.
Mae'r athrawes hefyd yn cysylltu â'r ysgolion dalgylch i feithrin perthynas bositif ac i sicrhau bod pob plentyn yn trosglwyddo yn ddidrafferth wrth adael Dechrau'n Deg.
Ymwelwyr iechyd
Mae gan leoliadau gofal plant ac athrawes Dechrau'n Deg gysylltiad agos â'r ymwelydd iechyd dynodedig. Bydd yr ymwelydd iechyd yn dod i'r lleoliad gofal plant o bryd i'w gilydd i gefnogi a chynghori staff.
Therapydd iaith a lleferydd
Mae gennym hefyd therapydd iaith a lleferydd sy'n rhoi cyngor i staff ar sut i gefnogi datblygiad iaith y plentyn.
Cydlynydd iaith a chwarae
Gall y cydlynydd ymweld â’r lleoliadau i gefnogi staff gyda’r sgrin WellComm. Efallai y byddwch yn cael deunyddiau gan y gofal i gefnogi datblygiad iaith eich plentyn yn y cartref.
Gweithwyr teulu a iechyd
Mae gennym dîm rhagorol o weithwyr teulu ac iechyd a all weithio gyda chi a'ch plentyn yn y cartref.
Bydd yr arweinydd gofal plant yn trafod gyda chi os oes ganddynt bryderon neu'n meddwl byddai’r gefnogaeth yn helpu eich plentyn.
Gall y cymorth helpu gyda phethau fel arferion bwyta, hyfforddi i ddefnyddio’r toiled a rheoli ymddygiad. Mae gennym hefyd lawer o gyrsiau i’ch cefnogi chi fel rhiant, megis coginio, codi hyder, sgiliau a chymwysterau newydd, cyllideb, rheoli ymddygiad plant bach.
Cadwch lygad allan am bosteri neu daflenni ac edrychwch ar ein tudalen Facebook.
Cyfarfodydd trosglwyddo
Cyn bod eich plentyn yn cychwyn ac yna ar ddiwedd pob tymor ar ôl hynny bydd cyfarfodydd trosglwyddo yn cael ei gynnal rhwng yr Arweinydd Gofal Plant a thîm staff Dechrau'n Deg. Mae hyn er mwyn sicrhau bod anghenion eich plentyn yn cael eu diwallu a’n bod yn gwneud popeth a fedrwn i gefnogi eich plentyn i gyrraedd eu potensial. Os byddwn o’r farn y gall cefnogaeth bellach fod o fantais i’ch plentyn bydd yr Arweinydd Gofal Plant yn siarad â chi cyn y cyfarfod. Gallwn drefnu cyfarfod llai gyda chi, er mwyn i chi allu dweud wrthym y math o gymorth hoffech chi i'ch plentyn dderbyn a phwy fyddai’r person gorau i wneud hynny.
Bydd aelodau o dîm staff Dechrau’n Deg yn bresennol yn y cyfarfodydd trosglwyddo yn ogystal ag Athrawes Dysgu Ychwanegol yr awdurdod. Ar ddiwedd cyfnod eich plentyn yn y gofal plant bydd Athrawes Dechrau’n Deg yn rhannu gwybodaeth trosglwyddo gyda lleoliad addysgol nesaf eich plentyn.
Manylion cyswllt
Swyddog Gofal Plant |
Sian A Jones |
Athrawes |
Bethan Dixon |
Cydlynydd Iaith a Chwarae |
Anne Owen |
Ffôn: 01407 767786
E-bost: FlyingStart@anglesey.gov.wales
Tîm Iechyd
Llangefni: 01248 750 633
Caergybi: 01407 767 786
Cyfeiriad
Dechrau’n Deg Ynys Môn, Canolfan Jesse Hughes, Lôn Kingsland, Caergybi LL65 2SY
Hysbysiad preifatrwydd
Enw plentyn:
|
|
Dyddiad geni:
|
|
Enw rhiant/gofalwr pennaf:
|
|
Cadarnhaf fy mod wedi derbyn a darllen y ddogfen ‘Gwybodaeth Gofal Plant i Rieni: Gweithio mewn Partneriaeth’ sy’n rhoi gwybodaeth am bwy y gallem rannu eich gwybodaeth tra bod eich plentyn yn mynychu gofal plant Dechrau’n Deg.
Mae Hysbysiad Preifatrwydd i Rieni Dechrau’n Deg ar gael i chi ddarllen sy’n cynnwys manylion ynglyˆn â sut mae rhaglen Dechrau’n Deg Ynys Môn yn diogelu, cadw a rhannu’r wybodaeth a roddir i ni (o dan y Ddeddf Diogelu Data 2018).
Llofnod rhiant/gofalwr:
|
|
Dyddiad:
|
|
Lawrlwytho dogfennau
Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch