Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynys Môn Dementia Gyfeillgar

Ein nod yw creu Ynys Môn sydd yn ddementia gyfeillgar. Bydd yn creu Ynys Môn sy’n lle gwell i bobl sy’n byw â dementia, eu gofalwyr, a’u teuluoedd.

Bydd y prosiect Ynys Môn Dementia Gyfeillgar yn gweithio gyda chymunedau lleol i wireddu cyfres o weithredoedd fydd yn mynd i’r afael â blaenoriaethau a nodwyd yn lleol.

Mae'r blaenoriaethau hyn yn cynnwys gweithio gyda gwahanol gymunedau trwy nodi’r ardaloedd yn eu cymunedau lle mae angen cyfleuster neu adeilad cymunedol dementia gyfeillgar a byddwn yn adnabod unigolion a fyddai’n hoffi mynychu sesiwn ymwybyddiaeth ar ddementia. Bydd y prosiect yn cynnwys gweithio gyda gwahanol sefydliadau a busnesau, ynghyd â gweithio gyda grwpiau strategaeth a gwirfoddolwyr trwy gwblhau tasgau amrywiol, gweithio ar wahanol brosiectau a gweithio ar y cyd i greu Ynys Môn sydd yn ddementia gyfeillgar.

Cliciwch i ymweld a'r dudalen

Prosiectau

Rhestr o brosiectau Ynys Môn Dementa Gyfeillgar i weithio gyda'r gymuned leol.

Cliciwch i ymweld a'r dudalen

Cymryd rhan

Dod yn Gymuned Dementia Gyfeillgar neu ymunwch gyda'r cynllun Dementia Actif Môn

Cliciwch i ymweld a'r dudalen

Dementia Actif Môn

Mae Dementia Actif Môn yn helpu pobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i raglenni ymarfer corff sy'n helpu i wella iechyd a lles.

 

Logo Cyngor Sir Ynys Môn, Dementia Actif Môn, Bwrdd Partneriaeth Ehanbarthol Gogledd Cymru a Dementia Gogledd Cymru: Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia