Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cymryd rhan: Ynys Môn Dementia Gyfeillgar


Dod yn Gymunedau Dementia Gyfeillgar

Nod Cymuned Dementia Gyfeillgar yw sicrhau fod pobl sy’n byw â dementia yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cefnogi i fyw bywyd annibynnol cyhyd â phosib. Mae’n bwysig fod pobl sy’n byw â dementia yn teimlo eu bod yn rhan o’u cymuned a’u bod yn cael eu grymuso i barhau i gyfrannu’n hyderus

Dylai ystyriaethau gynnwys:

  • Pobl: ymwneud, cyfathrebu a chefnogi pobl sy’n byw â dementia, a’u gofalwyr.
  • Lle: symud o un lle i’r llall, hygyrchedd, a goresgyn rhwystrau amgylcheddol er mwyn caniatáu i bobl fwynhau a chael profiad cadarnhaol o leoedd cyhoeddus a phreifat.
  • Proses: gweithdrefnau, systemau ac isadeiledd sefydliadol. Gall prosesau alluogi yn ogystal â chreu rhwystrau i bobl a lleoedd o ran cefnogi unigolion sy’n byw â dementia yn y gymuned.

Am ragor o wybodaeth ac i ymuno â’r cynllun Cymunedau Dementia Gyfeillgar cysylltwch â: DementiaActifMon@ynysmon.llyw.cymru
01248 752957

Cynllun Dementia Actif Môn

Mae Dementia Actif Môn yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd ledled yr Ynys. Am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen Dementia Môn Actif.