Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Dementia Actif Môn


Mae Dementia Actif Môn yn helpu pobl sy'n byw gyda dementia.

Mae hyn yn cynnwys teulu a gofalwyr. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i raglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth o ansawdd uchel sy'n helpu i wella iechyd a lles.

Mae'r ymarferion yn hwyl ac yn rhoi boddhad. Gallant ddod yn rhan o fywyd bob dydd.

Ariennir Cynllun Dementia Actif Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gofal Integredig Rhanbarthol Cymru.

Gweithgareddau

Mae ystod eang o weithgareddau, sef:

  • seiliedig yn y gampfa
  • seiliedig ar ddosbarth
  • rhaglenni cartref/rhithwir
  • sesiynau cymdeithasol, gan gynnwys garddio a gweithgareddau i ofalwyr

Mae'r gweithgareddau ar gael i chi am 16 wythnos.

Manteision

  • Mae’r galon a’r ysgyfaint yn dod yn gryfach ac yn fwy effeithlon.
  • Mae cryfder cyhyrol yn cynyddu.
  • Mae cymalau’n dod yn gryfach.
  • Gellir oedi dechrau osteoporosis.
  • Gall braster corfforol a gor-bwysau gael eu lleihau.
  • Gallai ymlacio a chwsg wella.
  • Bod yn fwy abl i weithredu gweithgareddau byw bob dydd.
  • Teimlo’n fwy effro ac egnïol.
  • Cynnal ystum corff da.
  • Cynorthwyo i normaleiddio pwysedd gwaed.
  • Lleihau’r risg o ddatblygu clefyd siwgwr.
  • Llai o risg o’r gwaed yn ceulo.
  • Lleihau iselder a phryder.
  •  Gwella hyder a hunan-barc.
  • Gwella gwybyddiaeth - mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall ymarfer corff wella cof ac arafu dirywiad meddyliol.
  • Gwella hyder.
  • Lleihau'r risg o gwympo trwy wella cryfder a chydbwysedd.

Sut i ymuno

Mae 4 ffordd o gael eich cyfeirio at y Cynllun Dementia Actif Môn.

Ar-lein

Gwneud cais am Dementia Actif Môn

E-bost

dementiaactifmon@ynysmon.llyw.cymru

Ffôn

01248 752 957

Trwy ofyn proffesiynol

Giofynnwch i'ch gweithiwr iechyd proffesiynol, cyswllt cymorth cymunedol, Cymdeithas Alzheimer, cynghorwyr dementia neu drwy'r Ganolfan Dementia.

Cynllun Môn Actif 60+: Sesiynau ffitrwydd a llesiant

Mae’r Cynllun Môn Actif 60+ yn cynnig wyth wythnos o sesiynau ffitrwydd am ddim yn eich canolfan gymunedol neu neuadd bentref.

Bydd hyfforddwr cymwys yn darparu sesiwn ffitrwydd a fydd yn addas ar gyfer eich anghenion.

Byddwyn yn talu gost y hyfforddwr. Ein nod yw gweithio gydag 8 lleoliad cymunedol rhwng Hydref-Rhagfyr 2023, gydag 8 cymuned arall ym mis Ionawr 2024.

Dywedwch wrthym pam fod eich canolfan yn haeddu lle
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.