Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Prosiectau: Ynys Môn Dementia Gyfeillgar


Cymunedau dementia gyfeillgar

Crynodeb o'r prosiect

Gweithio’n agos gyda chyfleusterau cymunedol, busnesau, cyfleusterau hamdden a siopau amrywiol i asesu eu lleoliad a chyfleusterau i weld sut y gallant wneud eu cyfleusterau’n rhai dementia gyfeillgar. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar wahanol arwyddion, unrhyw sticeri ar y llawr, a matiau drysau.

Partneriaid allweddol

Canlyniadau'r prosiect

  1. Gweithio gydag o leiaf 70% o fusnesau a sefydliadau o safbwynt eu hadeiladau.
  2. Diwrnodau/sesiynau ymgysylltu cymunedol.
  3. Darparu a gosod arwyddion angenrheidiol yn y cyfleusterau.

Amcanion y cynllun

Creu cyfleusterau a chymunedau dementia gyfeillgar ar yr ynys. Darllenwch fwy ar gymryd rhan.

Ymgyrch wrando gymunedol

Crynodeb o'r prosiect

Bydd yr ymgyrch hon yn cynnwys gweithio gyda gwahanol gymunedau ar yr ynys i fapio a nodi’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy’n byw â Dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd. Bydd y prosiect hwn hefyd yn canolbwyntio ar fynychu ymgyrchoedd gwrando cymunedol, cyfarfod a thrafod materion yn y gymuned a nodi’r hyn y mae angen i ni weithio arno.

Partneriaid allweddol

Canlyniadau'r prosiect

  1. Mapio’r gwasanaethau presennol yn y cymunedau ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
  2. Canfod beth fyddai aelodau’r gymuned yn dymuno i ni ei flaenoriaethu a gweithio arno.
  3. Asesu a chasglu adborth am ansawdd y gofal cymunedol sydd ar gael i bobl sy’n byw â dementia.

Amcanion y cynllun

Sefydlu’r asedau a’r gwasanaethau presennol ac adborth cymunedau a gwella gwasanaethau a gofal yn y gymuned.

Codi ymwybyddiaeth

Crynodeb o'r prosiect

This project will include working with members of the public, organisation staff, public sector staff, local businesses staff and emergency workers staff to raise awareness of dementia. It will involve delivery of variety of information sessions.

Partneriaid allweddol

Canlyniadau'r prosiect

  1. Mapio’r gwasanaethau presennol yn y cymunedau ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
  2. Canfod beth fyddai aelodau’r gymuned yn dymuno i ni ei flaenoriaethu a gweithio arno.
  3. Asesu a chasglu adborth am ansawdd y gofal cymunedol sydd ar gael i bobl sy’n byw â dementia.

Amcanion y cynllun

Sefydlu’r asedau a’r gwasanaethau presennol ac adborth cymunedau a gwella gwasanaethau a gofal cymunedol.