Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Plant ar goll o'r system addysg (CME)


Ystyrir bod plentyn ar goll o’r system addysg yn Ynys Môn os ydynt o oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt ar gofrestr ysgol, cofrestr awdurdod lleol (ALl), nac yn cael eu haddysgu gartref gan eu rhieni (Addysg Ddewisol yn y Cartref).

Y cyfraith

Mae adran 436A o Ddeddf Addysg 1999 fel y'i diwygiwyd gan adran 4 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt sefydlu (i'r graddau y bo modd gwneud hynny) hunaniaeth plant yn eu hardal nad ydynt yn derbyn addysg addas.

Mae llawer o resymau pam fod plant a phobl ifanc yn 'disgyn allan' o'r system addysg ac mewn perygl o 'fynd ar goll'. Mae'r rhain yn amrywio o fethu â dechrau mewn ysgol newydd neu ddarpariaeth addysg briodol i beidio ag ailgofrestru mewn ysgol newydd pan fyddant yn symud i'r sir.

Os oes gennych wybodaeth am blentyn sy'n colli addysg

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am blentyn yr ydych yn credu sydd ar goll o'r ysgol ac nad ydynt yn derbyn addysg addas, cysylltwch â Gwasanaeth Dysgu Ynys Môn ar 01248 752901 neu e-bostiwch AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru