Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Yn poeni am eich cof?

Neu yn teimlo eich bod yn cael problemau gwneud pethau

  • Problemau gydag iaith.
  • Penbleth gydag amser a lle.
  • Trafferth i resymu pethau.
  • Problem cadw trac ar bethau.
  • Camosod pethau.
  • Newidiadau mewn hwyliau ac ymddygiad.
  • Cael trafferth deall gwybodaeth weledol a gofodol.
  • Cilio’n ôl o’r gwaith neu’n llai cymdeithasol.

Ewch i weld eich meddyg teulu (GP)

Bydd yn cynnal asesiadau ac yn cytuno ar ganlyniad gyda chi.

Canlyniadau

Dim angen triniaeth feddygol

Cyngor ar yr hyn yn gallwch ei wneud i fyw bywyd iachach a lleihau eich risg o ddementia a chyflyrau cronig eraill.

Neu

Trin unrhyw beth arall

Trin unrhyw beth arall a allai fod yn effeithio eich cof neu achosi problemau eraill er enghraifft haint wrinal, meddyginiaeth, straen.

Neu

Atgyfeiriadi’r Clinig Cof

Atgyfeiriadi’r Clinig Cof lle byddwch ynymuno â’r Llwybr Cymorth Cof.

Clinic Cof a'r Llwybr Cymorth Cof

Yn y Clinig Cof byddwch chi ac aelod o’r teulu/ffrind yn cael eich gweld gan arbenigwr a fydd yn cynnal asesiadau pellach.

Bydd yr holl asesiadau ac ymgynghoriadau pellach yn cael eu cynnal yn yr iaith rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn cyfathrebu.

Yn ystod y broses hon byddwch yn cael mynediad iLwybr Cymorth Cof. Trwy’r Llwybr hon byddwch yn cael y cyfle i gael gwybodaeth a chyngor am ddim yn eich cymuned i sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi i fyw cystal â phosibl, cyn ac ar ôl unrhyw ddiagnosis o ddementia.

Dal yn bryderus ond ddim yn sicr?

Dal yn bryderus ond ddim yn sicr mai nawr yw’r amser i fynd i gael sgwrs gyda’ch meddyg teulu (GP)?

Yna cysylltwch ag un o’r canlynol am gyngor:

Llwybyr Cymorth y Cof 01492 542 212

Canolfan Dementia Ynys Môn 07943 419 787

Gwasanaethau Dementia Cyngor Sir Ynys Môn 01248 752 957

Beth yw manteision defnyddio'r llwybr cof?

  • Cewch fynediad i wybodaeth a chefnogaeth amserol.
  • Gall gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ymarferol fod o gymorth i aelodau o’r teulu.
  • Gall eich arwain at ddiagnosis cynnar o ddementia a fydd yn agor y drws i chi gael cymorth emosiynol ac ymarferol.
  • Eich helpu i gynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch eich gofal, cymorth, a materion ariannol a chyfreithiol.
  • Eich helpu i reoli eich cyflwr, cynllunio ar gyfer eich dyfodol a byw cystal â phosibl yn dilyn diagnosis.

Yr hyn y mae pobl sydd wedi cael diagnosis cynnar wedi’i ddweud

"Roedd yn rhyddhad i mi dderbyn y diagnosis, roeddwn yn gwybod fod rhywbeth o’i le. Rŵan rydym yn cael cefnogaeth ac mae ein bywyd cymdeithasol wedi gwella!"

"Dylwn i fod wedi mynd yn gynt at y meddyg teulu, dw i nawr ar feddyginiaeth sy’n gallu arafu’r dementia rhaggwaethygu ond dwi’n gwybod nad yw hwn ar gael ibawb. Pe bawn i wedi mynd yn gynt yna byddai hyn wedi bod o mwy o fudd i mi."

Lawrlwytho dogfennau

Efallai na fydd y ffeiliau yma'n hygyrch