Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Gwasanaeth Teleofal Ynys Môn


Mae Gwasanaeth Teleofal wedi ei lunio er mwy galluogi pobl hyn, pobl ag anableddau neu bobl fregus i barhau i fyw yn annibynnol, diogel a chydag urddas yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Teleofal yn darparu’r modd i fonitro patrymau byw ac argyfyngau trwy gyfrwng synwyryddion awtomatig a chyswllt ffon i ganolfan alw Galw Gofal.

Mae’r pecyn sylfaenol yn cynnwys yr uned ‘lifeline’ a sbardun personol gellir codi galwad o unrhyw le yn y cartrefneu’r ardd o fewn radiws o 300 metr trwy bwyso botwm. Mae synwyryddion amgylcheddol a gofal personol hefyd ar gael, gan gynnwys synhwyrydd epilepsi, synhwyrydd presenoldeb gwely, larwm carbon monocsid.

Os ydych yn dymuno derbyn asesiad neu restr lawn o synwyryddion, dylid cysylltu â ni.

Mae’r gwasanaeth Teleofal wedi’i gynllunio i alluogi pobl hŷn, pobl ag anableddau neu oedolion bregus a phlant i barhau i fyw’n annibynnol, yn ddiogel a chydag urddas o fewn eu cartrefi eu hunain am gyhyd ac y bo modd. 

Mae Teleofal yn darparu’r modd i fonitro argyfyngau o ran ffordd o fyw ac amser gwirioneddol trwy ddefnyddio synwyryddion awtomatig yn y cartref a chyswllt ffôn i’r ganolfan fonitro Galw Gofal.

Bydd offer Teleofal arbennig yn cael ei osod yn y cartref gyda synwyryddion a gynlluniwyd i fonitro a rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â byw’n annibynnol fel:

  • problemau amgylcheddol e.e. tân, monocsid carbon yn cronni o declyn oherwydd bod y cartref yn rhy boeth (e.e. popty wedi’i adael ymlaen)
  • problemau personol e.e. cwympo a methu codi, cwympo yn ystod y nos ar ôl dod allan o’r gwely, problemau ag epilepsi neu fod wedi gadael y cartref ar adeg amhriodol

Mae’r pecyn Teleofal yn cael ei deilwrio gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol ynghyd â’r Ymgynghorydd Teleofal i siwtio anghenion unigol y client.

Bydd system sylfaenol yn cynnwys Llinell Fywyd, sef yr uned sylfaen sy’n cysylltu â’r ganolfan alwadau drwy cerdyn SIM.

Bydd sbardun personol sy’n cael ei wisgo am y gwddf/arddwrn a synhwyrydd mwg hefyd yn cael eu darparu; yn dilyn asesiad manwl, efallai y bydd synwyryddion ychwanegol yn cael eu hargymell a’u gosod.

Mae’r synwyryddion wedi eu rhaglennu i roi gwybod i’r ganolfan fonitro Galw Gofal trwy gynhyrchu galwad ffôn gan uned Llinell Fywyd.  Mae’r ganolfan ar agor 24 awr trwy gydol y flwyddyn.  Bydd aelod o’r tîm wedyn yn cyfathrebu dros uchelseinydd a’r neges yn cael ei hanfon trwy’r Llinell Fywyd, ac mae hyn yn caniatáu ar gyfer sgwrs ddeuffordd o gryn bellter i ffwrdd o’r uned; byddant wedyn yn cymryd camau priodol e.e. galw aelod o’r teulu, gofalwr neu anfon am y gwasanaethau brys.

Mae cyflymder yr ymateb a’r gwasanaeth personol yn rhoi sicrwydd a thawelwch meddwl llawn.

Mae’r costau yn amrywio yn ôl y pecyn Teleofal a ddarperir ac anghenion personol yr unigolyn. 

Mae’r holl gostau yn cynnwys costau llogi offer, monitro 24 awr, cynnal offer a chost gosod. 

Gweler gwybodaeth am ffioedd a thaliadau y cyngor.

Pecynnau

Pecyn sylfaenol 1: Bydd pecyn Teleofal sylfaenol sy’n cynnwys uned Llinell Fywyd, sbardun personol a wisgir o gwmpas y gwddf a synhwyrydd mwg.

Pecyn sylfaenol 2: Bydd pecyn Teleofal sylfaenol fel yr uchod ynghyd ag unrhyw synwyryddion amgylcheddol ychwanegol ac/neu unrhyw synwyryddion personol e.e. synhwyrydd epilepsi.

Gwybodaeth ar y math o wasanaethau sydd ar gael i chi o Teleofal.