Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Teleofal - beth sydd ar gael?


Gwybodaeth ar y math o wasanaethau sydd ar gael i chi o Teleofal.

Larwm Teleofal cludadwy yw peiriant galw a fedr dderbyn negeseuon Teleofal.

Beth yw peiriant galw?

Mae’n dangos nid yn unig y math o synhwyrydd a ysgogwyd, ond hefyd leoliad y synhwyrydd ac / neu enw’r person y mae’r synhwyrydd wedi ei neilltuo iddo/iddi.  Mae hyn yn golygu y gellir rhoi gwybod yn sydyn i ofalwyr ar safleoedd am unrhyw ddigwyddiadau, fel bod modd iddynt ddarparu lefel uchel o ofal gan sicrhau’r effeithlonrwydd gorau posib.  Bydd hefyd o gymorth i leihau’r effaith ar ffyrdd o fyw gofalwyr anffurfiol gan ganiatáu iddynt arwain bywydau mwy annibynnol.

Sut mae’n gweithio?

Mae synwyryddion Teleofal yn cael eu neilltuo ymlaen llaw ar gyfer peiriant galw ac yn cael eu clustnodi i leoliad o fewn adeilad e.e. lolfa gymunedol neu i breswylydd penodol e.e. Mrs Smith Fflat 1.  Pan fydd y synhwyrydd Teleofal yn cael ei ysgogi, bydd y teclyn peiriant galw yn dirgrynu, yn bipian ac yn goleuo sgrin lachar i roi gwybod i’r gofalwr bod rhywbeth wedi digwydd.  Gall gofalwyr wedyn weld pa synhwyrydd sydd wedi achosi i’r larwm ganu a gweld ar gyfer pa ystafell / preswylydd y mae’r synhwyrydd wedi ei neilltuo ynghyd â dyddiad ac amser y larwm fel bod modd iddynt gymryd camau priodol ar fyrder.

I bwy y mae o?

Mae peiriant galw wedi ei ddylunio i gefnogi gofalwyr lleol i ddarparu gofal o safon uchel sydd ddim yn ymwthiol.  Mae’n eithriadol o hawdd i’w ddefnyddio a’i gludo, ac mae’n ffordd i ofalwyr sy’n gweithio neu sy’n byw ar y safle i gael negeseuon ar unwaith o amrediad o synwyryddion Teleofal.

O ganlyniad, gall gofalwyr ar safleoedd gael gwybod yn sydyn am unrhyw ddigwyddiadau.  Mae’n ddatrysiad Teleofal sy’n gost-effeithiol iawn ac mae’n osgoi’r angen am wasanaeth canolfan fonitro neu linell ffôn nad oes raid ei gael yn aml pan fo gofal amser llawn (24 awr) yn cael ei ddarparu.

Oherwydd bod y signal radio yn effeithiol am hyd at 300 o fedrau (llinell weld), mae’n arbennig o addas ar gyfer gwasanaeth gofal dementia arbenigol bychan, gofal canolraddol, anableddau dysgu, cartrefi preswyl a gofal a chyfleusterau gofal ysbaid.  Gall hefyd fod o fantais sylweddol i unigolion preifat a’u gofalwyr anffurfiol y byddai’n well ganddynt, efallai, beidio â bod wedi eu cysylltu â chanolfan fonitro 24 awr.

Mae’r Synhwyrydd Codwm yn cael ei wisgo am yr gwddf ac fe’i  cynlluniwyd i nodi codwm difrifol sy’n arwain at i’r defnyddiwr/y ddefnyddwraig fod yn anymwybodol neu fethu symud, ac yn dilyn darganfod codwm o’r fath, bydd yn anfon galwad awtomatig i’r ganolfan fonitro.

Mae gan hwn nifer o wahanol ddefnyddiau a gellir ei ddefnyddio os dymunir fel larwm lladron.  Fel arall, gellir ei ddefnyddio i ganfod a yw rhywun wedi crwydro y tu allan i’w cartref ar adeg amhriodol.

Gellir ei ddefnyddio hefyd i ganfod symudiad mewn ystafell benodol bob bore, er mwyn sicrhau bod  defnyddwyr ar eu traed ac o gwmpas eu pethau.

Bydd y botwm hwn fydd wedi’i osod ger y drws yn rhoi sicrwydd os ceir galwyr annisgwyl.  Gellir ei ddefnyddio hefyd i alw am gymorth neu fe ellir rhoi cyfarwyddyd llafar drwy’r uned Llinell Fywyd. 

Bydd digwyddiadau o’r fath yn cael eu recordio yn awtomatig ac fe allant gael eu defnyddio fel tystiolaeth; ar gyfer y math hwn o wasanaeth, bydd yn rhaid i’r uned sylfaen fod wedi’i lleoli’n agos at y drws.

Mae’r synhwyrydd arbennig hwn yn monitro arwyddion hanfodol y defnyddiwr gan gynnwys cyfradd curiad y galon a phatrymau anadlu i ganfod ystod o ffitiau epileptig. 

Mae’r synhwyrydd yn dileu’r angen i ofalwyr wneud archwiliadau corfforol, ac yn hybu annibyniaeth ac urddas.

Mae’r synhwyrydd hwn yn rhoi rhybudd cynnar bod y defnyddiwr wedi codi o’r gwely neu gadair a heb ddychwelyd o fewn cyfnod penodol, ac yn nodi y gall y person fod wedi cwympo.

Mae’r synhwyrydd hwn yn canfod lleithder ac mae’n gweithredu pan mae tapiau’n cael eu gadael ymlaen yn ddamweiniol neu fath yn gorlifo trwy roi gwybod i’r ganolfan fonitro am lifogydd posibl yn y cartref.

Mae’r synhwyrydd yn peri bod larwm clywadwy yn seinio yn y cartref ac mae’n darparu diogelwch ychwanegol trwy anfon larwm ar unwaith i’r ganolfan fonitro e.e. ffliw / simnai wedi blocio neu offer diffygiol a lle mae lefelau monocsid carbon yn y cartref wedi cynyddu.

Bydd y synhwyrydd mwg radio yn peri bod larwm clywadwy yn seinio yn y cartref a bydd hefyd yn rhoi diogelwch ychwanegol trwy anfon galwad larwm ar unwaith i’r ganolfan fonitro.

Mae hyn yn cael ei ddarparu gyda phob pecyn Teleofal ac yn gynwysedig yn y pris.

Gellir gwneud galwad o unrhyw le yn y cartref neu’r ardd o fewn radiws o 300 metr wrth wasgu’r botwm - gellir ei wisgo o amgylch y gwddf neu’r arddwrn ac y mae’n dal dŵr

Mae swyddogaeth atgoffa’r Llinell Fywyd yn hysbysu’r defnyddiwr am wybodaeth allweddol, e.e. gall aelod o’r teulu recordio neges i atgoffa’r defnyddiwr/y ddefnyddwraig i gymryd meddyginiaeth ar adeg benodol.  Os nad yw’r defnyddiwr/y ddefnyddwraig wedi cadarnhau ei fod/ei bod wedi derbyn y neges, bydd rhybudd yn cael ei anfon i’r ganolfan fonitro, a all wedyn roi galwad ragweithiol i sicrhau fod popeth yn iawn.