Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg: ymgynghoriad


Daeth yr ymgynghoriad i ben 31 Ionawr 2022

Ymgynghoriad gwreiddiol

Cyhoeddwyd strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' ym mis Awst 2017 gyda’r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae gan Awdurdod Lleol Ynys Môn ddyletswydd statudol i ddatblygu a chyhoeddi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) sydd yn gosod ein gweledigaeth i dargedu saith Blaenoriaeth Weinidogol (Deilliannau).

Bydd y cynllun hwn yn egluro sut y byddwn yn datblygu ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ar draws y sector addysg gyfan.

Beth yw eich rôl chi?

Mae Cylch Gorchwyl CSGA Môn a rhanddeiliaid perthnasol, wedi cynnal cyfarfodydd drwy is-baneli deilliannau er mwyn datblygu drafft CSGA Môn 2022 i 2032.

Os hoffech gael copi caled, cysylltwch â ni.

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.

Mae’r rheoliadau'n nodi bod angen ymgynghoriad cyhoeddus o ddim llai nag 8 wythnos cyn cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo erbyn 31 Ionawr 2022 fan bellaf.

Rydym yn gofyn yn garedig i chi am eich sylwadau ynghylch ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg er mwyn datblygu'r cynllun a chyfoethogi cynlluniau gweithredu'r saith deilliant.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd cyn dweud eich dweud.

Dweud eich dweud