Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hysbysiad preifatrwydd: ymgynghoriad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA)


Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae’r hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r data yr ydym yn ei gadw amdanoch, sut yr ydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’r data a’r mesurau diogelu sydd ar waith i’w amddiffyn.

Mae’r hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn gwerthfawrogi eich bod yn ymddiried ynom i ymddwyn yn gyfrifol pan fyddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol i ni. Golyga data personol neu wybodaeth bersonol, unrhyw wybodaeth ynglŷn ag unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw.

Mae’r Cyngor wedi ei chofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae manylion llawn o’r cofrestriad ar gael ar gofrestr yr ICO o reolyddion data. Mae’r Cyngor, fel y rheolydd data, yn gyfrifol am data personol unigolion.

Y categorïau o wybodaeth disgyblion yr ydym yn ei phrosesu 

  • dynodwyr a manylion cyswllt personol (megis enw, cyfeiriad e-bost) 

Pam yr ydym yn casglu a defnyddio gwybodaeth unigolion 

Mae’r data personol a gesglir yn hanfodol er mwyn i’r Cyngor allu ymgynghori a cwrdd â gofynion statudol yn gysylltiedig a’r ymgynghoriad ar y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg er mwyn datblygu’r Strategaeth ym mhellach. 

  • casglu barn ar ymgynghoriad 

Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion nad ydynt yn gydnaws â pham y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf, oni bai ein bod yn ystyried yn rhesymol ein bod angen ei defnyddio am reswm arall a bod y rheswm hwnnw yn gydnaws â’r pwrpas gwreiddiol. Noder os gwelwch yn dda efallai y bydd rhaid i ni brosesu data personol heb i chi fod yn ymwybodol a heb eich caniatâd lle mae hyn yn ofynnol neu os caniateir hyn gan y gyfraith. 

Rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol oherwydd bod gennym un o’r seiliau cyfreithiol canlynol dros brosesu 

  • i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Erthygl 6(1)(c) o’r UK GDPR
  • i berfformio gorchwyl diddordeb y cyhoedd o dan Erthygl 6(1)(e) o’r UK GDPR 

Sut yr ydym yn storio data unigolion

Caiff data personol ei storio yn unol â’n Polisi Diogelu Data y Cyngor. 

Fe fydd y wybodaeth yma yn cael ei gadw am gyfnod o ddim mwy na 6 mis ac yna’n cael ei ddileu. 

Sut yr ydym yn edrych ar ôl gwybodaeth 

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae’n rhaid i ni amddiffyn unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych. Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith ac wedi gweithredu safonau a rheolyddion diogelwch i atal data personol rhag mynd ar goll, cael ei ddefnyddio neu ei gyrchu’n ddamweiniol mewn ffordd anawdurdodedig, ei altro neu ei ddatgelu. 

Bydd yr wybodaeth yr ydych wedi ei darparu yn cael ei storio’n ddiogel. Yn ogystal â hyn, rydym yn cyfyngu mynediad at data personol i’r gweithwyr, contractwyr a thrydydd partïon eraill sydd angen mynediad ato. Byddant ond yn prosesu data personol ar ein cyfarwyddyd ni ac maent yn destun i ddyletswydd cyfrinachedd. 

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw ddigwyddiadau diogelwch data a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol sy'n ymwneud â’r digwyddiad lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny. 

Eich hawliau diogelu data

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawliau fel testun data.  Nid yw’r hawliau yn absoliwt ac efallai fydd rhain ond yn berthnasol o dan rhai amgylchiadau:

Eich hawl i gael gwybod bod gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio

Eich hawl i fynediad – mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol (gweler ‘gwneud cais am fynediad at eich data personol’ isod am fwy o fanylion). 

Eich hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth y credwch ei bod yn anghywir. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth y credwch ei bod yn anghyflawn.  

Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu’r prosesu sy’n digwydd i’ch gwybodaeth personol dan amgylchiadau penodol.  

Eich hawl i wrthod prosesu – mae gennych yr hawl i wrthwynebu i’r prosesu sy’n digwydd i’ch data personol dan amgylchiadau penodol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i brosesu sy’n digwydd i’ch data personol sy’n debygol o achosi, neu sydd yn achosi difrod neu drallod.

Dan rai amgylchiadau, mae gennych yr hawliau canlynol hefyd: 

  • i atal prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol
  • i wrthwynebu penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn awtomatig
  • i geisio iawndal, un ai drwy’r ICO neu drwy’r llysoedd 

Gwneud cais am fynediad at eich data personol 

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gan unigolion yr hawl i wneud cais am fynediad at wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanynt. Adnabyddir hyn yn gyffredin fel “cais gan wrthrych y data”. Mae hyn yn galluogi i chi dderbyn copi o’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch ac i wirio ein bod yn ei brosesu’n gyfreithlon. 

Er mwyn gwneud cais am eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â swyddfa’r Gwasanaeth Dysgu. 

Cysylltu 

Manylion y Cyngor fel y rheolydd data yw’r canlynol: 

Swyddog Diogelu Data y Cyngor 

E-bost: dpo@ynysmon.gov.uk 

Cyfeiriad: Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW 

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw amser i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data. Os oes gennych bryder neu gŵyn ynglŷn â’r ffordd yr ydym yn casglu neu’n defnyddio eich data personol, dylech godi eich pryder gyda ni yn y lle cyntaf fel y gallwn geisio datrys unrhyw broblemau. 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) 

E-bost: https://ico.org.uk/concerns/ 

Rhif ffôn: 0303 123 1113 

Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF 

Mae cyngor ac arweiniad ar gael ar eu gwefan www.ico.org.uk 

Newidiadau i’n hysbysiad preifatrwydd 

Rydym yn cadw ein hysbysiad preifatrwydd dan adolygiad parhaus a byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiwygiadau.