Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd - 2 Mai 2024


Bydd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael ei chynnal ar 2 Mai, 2024.

Rôl y comisiynydd heddlu a throsedd

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn gwneud yn siŵr bod anghenion plismona eu cymunedau yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddod â chymunedau yn nes at yr heddlu, magu hyder pobl yn y system ac adfer ffydd pobl. 

Mae’r Comisiynydd yn rhoi llai i’r cyhoedd ar y lefel uchaf bosib’, ac yn rhoi’r gallu i’r cyhoedd sicrhau bod eu heddlu yn atebol. 

Pwy sy’n sefyll yn yr etholiad?

Bydd manylion yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad yma ar gael ar wefan Choose My PCC ar ôl 5 Ebrill.

Sut rydych chi'n pleidleisio yn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throsedd

Mae angen ID ffotograffig

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig er mwyn pleidleisio yn etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ar Ddydd Iau 2 Mai 2024.

Sut i gofrestru i bleidleisio

Darganfyddwch sut i gofrestru i bleidleisio, os nad ydych wedi cofrestru.

Pleidleisiau post a dirprwy

Gallwch wneud cais am bleidleisio drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy.

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Mae arweiniad ac adnoddau helaeth i ymgeiswyr ac asiantwyr ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cynnwys:

  • yr hyn sydd arnoch angen ei wybod cyn sefyll mewn etholiad
  • gwariant yr ymgeiswyr
  • ymgyrchu 
  • enwebiadau
  • pleidleisiau post
  • diwrnod pleidleisio
  • dilysu a chyfrif
  • ar ôl yr etholiad

Dogfennau briffio ymgeiswyr

Mae’r Swyddfa Gartref hefyd wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau briffio yr hoffai ymgeiswyr Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru gyfeirio atynt fel ffynhonnell gyfeirio efallai.

Dyddiadau allweddol

  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (cyn yr enwebiadau): Dydd Mawrth, 27 Chwefror, 2024
  • Hysbysiad o etholiad: Dydd Llun, 25 Mawrth, 2024
  • Dosbarthu papurau enwebu: Dydd Mawrth, 26 Mawrth 26, 2024 – Dydd Gwener, 5 Ebrill, 2024 (rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith)
  • Dyddiad cau ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl: Dydd Gwener, 5 Ebrill, 2024 (erbyn 4pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer hysbysiad penodiad cynrychiolwyr etholiadol: Dydd Gwener, 5 Ebrill, 2024 (erbyn 4pm)
  • Datganiad am y Sawl a Enwebwyd: Dydd Llun, 8 Ebrill, 2024 (erbyn 4pm)
  • Sesiwn briffio Ymgeiswyr ac Asiantwyr (ar ôl yr enwebiadau):  Dydd Mawrth, 9 Ebrill, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru: Dydd Mawrth, 16 Ebrill, 2024
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn neu addasu ceisiadau pleidlais drwy'r post: Dydd Mercher, 17
    Ebrill, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr: Dydd Mercher, 24 Ebrill, 2024 (erbyn 5pm)
  • Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau dirprwy: Dydd Mercher, 24 Ebrill, 2024 (erbyn 5pm)
  • Cyhoeddi Hysbysiad Pleidlais: Dim hwyrach na dydd Mercher, 24 Ebrill, 2024 (erbyn 5pm)
  • Diwrnod y Bleidlais: Dydd Iau, 2 Mai, 2024
  • Proses Wirio a Chyfrif Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: Dydd Gwener, 3 Mai, 2024 (dechrau am 9am) os yw’n etholiad unigol; neu ddydd Sul, 5 Mai, 2024 (dechrau am 9am) os yw wedi’i gyfuno ag Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU

Y Cyntaf i'r Felin

Ar 2 Mai, os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, byddwch yn gallu pleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (PCC) ac am y tro cyntaf bydd y pleidleisiau yn cael eu cyfrif yn defnyddio’r system y Cyntaf i’r Felin. 

Darganfod mwy am Cyntaf i'r Felin - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.