Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hysbysiad o etholiad: Ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Gogledd Cymru - 2 Mai 2024

Bydd etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cael ei chynnal ar 2 Mai, 2024.
  1. Cynhelir etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Heddlu Gogledd Cymru.

  2. Rhaid cyflwyno Papurau Enwebu drwy apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw i Swyddog Canlyniadau’r Ardal Heddlu yn Neuadd y Dref, Wrecsam LL11 1AY rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, ond erbyn 4pm ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024 fan bella

  3. Mae papurau enwebu i’w cael yn y lleoliad ac yn ystod yr amseroedd a nodir uchod. Bydd Swyddog Canlyniadau’r Ardal Heddlu yn paratoi papur enwebu i’w lofnodi ar gais unrhyw etholwr. 

  4. Gellir talu’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd, sef swm o bum mil o bunnoedd (£5,000.00), i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4pm ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig).

  5. Os bydd mwy nag un ymgeisydd, cynhelir y bleidlais ddydd Iau, 2 Mai 2024. 

  6. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddfa Gofrestru Etholiadol isod erbyn dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar lein yn cofrestru i bleidleisio.

  7. Dylai etholwyr a’u dirprwyon nodi bod rhaid i unrhyw gais am bleidlais bost newydd, neu gais i newid neu ganslo pleidlais bost, gyrraedd y Swyddfa Gofrestru Etholiadol berthnasol isod erbyn 5pm ddydd Mercher, 17 Ebrill 2024. Mae hyn yn cynnwys etholwyr neu ddirprwyon sy’n dymuno newid eu trefniadau presennol yn barhaol.

  8. Rhaid i unrhyw gais i benodi dirprwy gyrraedd y Swyddfa Gofrestru Etholiadol berthnasol isod erbyn 5pm ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. 

  9. Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Anhysbys sy'n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ar ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein.

  10. Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol (fel y dangosir isod) erbyn 5pm ddydd Iau, 2 Mai 2024. Mae’n rhaid bod yr analluedd corfforol wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. I wneud cais ar sail gwaith / gwasanaeth mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol ar ôl 5pm ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024. 
Swyddfa Gofrestru Etholiadol Sir neu Fwrdeistref Sirol:
Conwy Bodlondeb, Conwy. LL32 8DU 01492 575 570
Sir Ddinbych Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun. LL15 1YN 01824 706 000
Sir y Fflint Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. CH7 6NR 01352 702 300
Gwynedd Swyddfeydd y Sir, Caernarfon. LL55 1SH 01286 679 623
Ynys Môn Swyddfeydd y Sir, Llangefni. LL77 7TW 01248 752 519
Wrecsam Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY 01978 292 020
  • Dyddiedig: Dydd Llun, 25 Mawrth 2024
  • Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau’r Ardal yr Heddlu (ardal Gogledd Cymru) Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY / The Guildhall, Wrexham, LL11 1AY