Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Cyngor labelu bwyd


Sut i labelu'ch cynhyrchion bwyd wedi'i becynnu a'r gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu bodloni fel busnes bwyd.

Sut i labelu'ch cynhyrchion bwyd wedi'i becynnu a'r gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu bodloni fel busnes bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf 19 Ionawr 2018

Mae labelu wedi'i reoleiddio er mwyn amddiffyn defnyddwyr a ddylai gael yr wybodaeth gywir i wneud dewisiadau bwyd hyderus a gwybodus yn seiliedig ar ddeiet, alergeddau, chwaeth bersonol neu gost.

Mae gan bawb yr hawl i wybod bod y bwyd maent yn ei brynu yn cyd-fynd â'r disgrifiad sydd ar y label. Rhan o'n rôl ni yw helpu i atal cam-labelu neu ddisgrifiadau camarweiniol o fwydydd. 

Mae cam-labelu'n fwriadol yn dwyll troseddol, p'un a yw'n peri bygythiad diogelwch bwyd ai peidio.

Mae disgrifio, hysbysebu neu gyflwyno bwyd ar gam yn drosedd ac mae yna lawer o gyfreithiau sy'n diogelu defnyddwyr rhag labelu anonest a disgrifiadau camarweiniol. 

Cwrs labelu ar-lein

Mae'n rhaid arddangos gwybodaeth orfodol benodol ar labeli bwyd yr holl fwyd sydd wedi'i becynnu ymlaen llaw. Bydd yr holl fwydydd yn destun gofynion labelu bwyd cyffredinol ac mae'n rhaid i unrhyw labelu a ddarperir fod yn gywir ac nid yn gamarweiniol.

Mae rhai bwydydd penodol yn cael eu rheoli gan reoliadau cynnyrch penodol sy'n cynnwys:

  • bara a blawd
  • coco a siocled
  • coffi toddadwy
  • llaeth wedi'i anweddu a llaeth sych
  • mêl
  • llaeth powdr
  • jamiau
  • cynhyrchion cig - selsig, byrgyrs a phasteiod
  • dyfroedd mwynol naturiol
  • brasterau taenadwy
  • siwgr  
  • bwyd wedi'i arbelydru 
  • bwydydd yn cynnwys addasiad genetig

Am fwy o wybodaeth ar sut i labelu y cynnyrch uchod, cliciwch ar y linc isod; https://www.tradingstandardswales.org.uk/help/welsh-business.cfm

Mae rhai gofynion labelu gorfodol ar gyfer pob label bwyd.

Dyma'r gofynion:

  • enw'r bwyd 
  • rhestr gynhwysion
  • cynhwysion neu gymhorthion prosesu sy'n achosi alergeddau neu anoddefiadau a nodir yn yr 14 Alergen  
  • maint cynhwysion penodol neu gategorïau o gynhwysion
  • maint net y bwyd
  • dyddiad y lleiafswm gwydnwch neu'r dyddiad 'defnyddio erbyn'
  • amodau storio arbennig a/neu amodau defnydd
  • enw neu enw busnes a chyfeiriad gweithredwr y busnes bwyd 
  • gwlad tarddiad neu le tarddiad 
  • cyfarwyddiadau defnyddio o dan amgylchiadau lle y byddai'n anodd defnyddio'r bwyd yn briodol heb y cyfarwyddiadau
  • cryfder alcohol yn ôl cyfaint ar gyfer diodydd sy'n cynnwys mwy na 1.2% o alcohol
  • datganiad maeth


Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y Ddogfen ganllaw Cynllun Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau hon

Mae gofynion labelu ychwanegol ar gyfer rhai cynhyrchion bwyd a diod penodol fel:

  • bwydydd sy'n cynnwys rhai nwyon penodol
  • bwydydd sy'n cynnwys melysyddion
  • bwydydd sy'n cynnwys asid glycyrrhizinig neu ei halen amoniwm
  • diodydd â chynnwys caffein uchel neu fwydydd â chaffein ychwanegol
  • bwydydd â ffytosterolau ychwanegol, esters ffytosterol, ffytostanolau neu ffytostanolesters
  • cig wedi'i rewi, paratoadau cig wedi'u rhewi a chynhyrchion pysgodfeydd heb eu prosesu wedi'u rhewi

Mae lleiafswm maint ffont yn berthnasol i wybodaeth orfodol. Mae maint ffont yn cael ei bennu gan y llythyren 'x' ac os yw'r un uchder neu'n fwy na 1.2mm.

Lleiafswm maint ffont ar gyfer labelu (99.14 KB)

Mae'n rhaid i wybodaeth orfodol am fwyd fod yn hawdd ei gweld. Rhaid iddi hefyd fod yn ddarllenadwy ac yn anodd cael gwared ohoni, lle bo hynny'n briodol. Rhaid sicrhau nad yw'r wybodaeth wedi'i chuddio'n fwriadol, ei chuddio o'r golwg yn anfwriadol, ac ni chaiff unrhyw ddeunydd ysgrifenedig neu ddarluniol arall darfu arni mewn unrhyw ffordd. 

Rhaid nodi manylion gorfodol gyda geiriau a rhifau. Gellir eu dangos hefyd trwy ddefnyddio pictogramau a symbolau. 

Nid oes rhaid i fusnesau arlwyo bwyd labelu bwyd yn yr un modd â gwneuthurwyr a busnesau bwyd eraill. 

Mae'n ofynnol i fusnesau ddarparu gwybodaeth am alergenau ac anoddefiad i gwsmeriaid. 

Gellir arddangos gwybodaeth am alergenau ar gyfer bwyd nad yw'n cael ei becynnu ymlaen llaw, neu 'fwydydd rhydd' drwy amrywiaeth o ddulliau sy'n addas ar gyfer sut rydych chi'n arddangos gwybodaeth yn eich busnes. Mae'n rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am ddefnydd cynhwysion alergenaidd mewn bwyd.  Nid oes gofyn i chi ddarparu rhestr gynhwysion llawn.

Mae Rheoliad Gwybodaeth Am Fwyd Ewropeaidd i Ddefnyddwyr 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr yn dwyn ynghyd rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar labelu bwyd cyffredinol a labelu maeth mewn un rhan o ddeddfwriaeth. 

Cymru

Mae gennym ni ganllawiau cryno ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd a swyddogion gorfodi yng Nghymru yn ôl Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014.

Mae'r canllawiau'n darparu cyngor anstatudol a dylid eu darllen ochr yn ochr â Rheoliad 1169/2011 a Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 ar gyfer y genedl berthnasol.

Canllawiau Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd (273.32 KB)

Os ydych chi'n lapio neu'n pecynnu bwyd fel rhan o'ch busnes yna mae'n rhaid i chi:

  • ddefnyddio deunydd na fydd yn halogi'r deunydd lapio a phecynnu 
  • storio deunyddiau lapio fel nad ydynt mewn perygl o gael eu halogi
  • lapio a phecynnu'r bwyd mewn modd sy'n osgoi halogi cynhyrchion
  • sicrhau bod unrhyw gynwysyddion yn lân a heb eu difrodi, yn enwedig os ydych chi'n defnyddio caniau neu jariau gwydr
  • gallu cadw'r deunydd lapio neu'r deunydd pecynnu'n lân

Cwrs e-ddysgu ar becynnu dan wactod (Saesneg yn unig)

Weithiau, gall disgrifiadau camarweiniol effeithio ar eich iechyd neu'ch diogelwch. Gall y rheiny nad ydynt yn gallu bwyta rhai bwydydd oherwydd bod ganddynt anoddefiad neu alergedd iddynt ddioddef adwaith difrifol neu adwaith a all lladd.

Mae'n llawer anoddach osgoi'r bwydydd hyn os nad yw'r labelu'n fanwl gywir. Gallai cynnyrch wedi'i halogi achosi salwch hefyd pe byddai'n cael ei gyflwyno'n fwriadol fel cynnyrch dilys.

Mae gennym ni hefyd raglen ymchwil sydd wedi'i neilltuo i ddatblygu dulliau a thechnegau newydd i gefnogi'r rhaglen wyliadwriaeth.

Dilysrwydd bwyd yw pan fydd bwyd yn cyfateb i'w ddisgrifiad. Mae bwyd wedi'i gamlabelu yn twyllo'r defnyddiwr ac yn creu cystadleuaeth annheg gyda gweithgynhyrchwyr neu fasnachwyr. 

Mae disgrifiad bwyd yn cyfeirio at yr wybodaeth a roddwyd am ei:

  • enw
  • cynhwysyn 
  • tarddiad 
  • prosesu

Os ydych chi'n credu nad yw cynnyrch bwyd yn ddilys, gweler y wybodaeth ar drosedd bwyd

 

Labelu bwyd