Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Alergenau bwyd


Labelu alergenau 

Canllawiau ar ofynion labelu alergenau bwyd a sut maent yn berthnasol i'r diwydiant gweithgynhyrchu.

Mae'n rhaid datgan alergenau bwyd a ddefnyddir fel cynhwysion neu gynorthwyon prosesu ar y pecyn neu ar y pwynt gwerthu. Edrychwch ar Reoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr Undeb Ewropeaidd (UE) Rhif 1169/2011 a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (UE) Rhif 78/2014.  

Ni ddylid rhoi bwyd ar y farchnad os ystyrir ei fod yn niweidiol i iechyd.

Mae rhagor o ganllawiau ar labelu alergenau ar draws y Deyrnas Unedig ar gael ar GOV.UK.

Sut i labelu alergenau

Gellir labelu cynhyrchion sy'n cynnwys alergenau mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, gallwch chi eu rhestru mewn print trwm, mewn lliw gwahanol neu drwy eu tanlinellu.

Mae Atodiad II canllawiau Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE (EU FIC) yn rhestru'r prif fwydydd a all achosi adwaith alergaidd. Os yw eich cynnyrch yn cynnwys unrhyw eitem ar y rhestr hon, mae'n rhaid ei chynnwys ar y label.

Dyma enghraifft o sut i restru alergenau ar eich cynnyrch:

Cynhwysion: Dŵr, Moron, Nionod, Corbys Coch (4.5%), Tatws, Blodfresych, Cennin, Pys, Blawd Corn, Blawd Gwenith, Halen, Hufen, Rhin Burum, Past Tomato Crynodedig, Garlleg, Siwgr, Hadau Seleri, Olew Blodyn yr Haul, Perlysiau a Sbeisys, Pupur Gwyn, Persli.

Mae'n rhaid datgan cynhwysion alergenaidd drwy gyfeirio'n glir at yr alergen fel y rhestrwyd yn Rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE, i sicrhau dealltwriaeth glir a chyson. 

Dyma enghreifftiau o gynhwysion lle mae angen cyfeirio at yr alergen:

  • tofu (soia)
  • past tahini (sesame)
  • maidd (llaeth)

Gellir hefyd rhoi datganiad sy'n rhoi cyngor am alergenau ar label y cynnyrch i esbonio sut caiff gwybodaeth am alergenau ei chyflwyno ar y label, er enghraifft:

  • 'Cyngor ar alergenau: i weld yr alergenau, gweler y cynhwysion mewn print trwm'
  • 'Cyngor ar alergenau: i weld yr alergenau, gan gynnwys grawnfwydydd sy'n cynnwys glwten, gweler y cynhwysion mewn coch'

O ran diodydd alcoholaidd lle nad oes rhestr o gynhwysion yn bresennol, gellir nodi alergenau drwy ddefnyddio'r geiriau 'yn cynnwys' ac yna enw'r alergen.

Ceir esboniad o Reoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr yr UE Rhif 1169/2011 gan gynnwys Rheoliad Dirprwyedig Comisiwn yr UE Rhif 78/2014 yn yr hysbysiad technegol ar labelu alergenau mewn bwyd.

https://www.food.gov.uk/allergen-labelling-changes-for-prepacked-for-direct-sale-ppds-food?navref=main Saesneg yn unig

Labelu alergenau wrth weithgynhyrchu 

Os oes perygl bod cynnyrch bwyd wedi'i groeshalogi ag alergenau, dylai'r label gynnwys un o'r datganiadau canlynol: 

  • gallai gynnwys X 
  • nid yw'n addas i unigolyn sydd ag alergedd i X

Dim ond yn dilyn asesiad risg trylwyr pan fo risg wirioneddol o groeshalogi alergenau ac na ellir cael gwared ohono y dylid defnyddio labeli rhybuddio am alergenau.

Bwydydd wedi'u labelu â 'rhydd rhag' (free-from)

Mae bwydydd 'rhydd rhag' yn gasgliad arbennig o fwydydd sydd wedi'u cynhyrchu heb alergenau. Os yw label yn nodi bod eich cynnyrch yn 'rhydd rhag llaeth' neu 'dim pysgnau' (peanut free), mae'n rhaid ei fod yn seiliedig ar fesurau rheoli llym. Mae hyn yn cynnwys gwirio nad yw'r holl gynhwysion a'r deunyddiau pecynnu yn cynnwys yr alergen penodol, a bod mesurau ar waith i atal croeshalogi o fwydydd eraill sy'n cael eu paratoi ar y safle.