Crynodeb o'r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd â chloddiadau archeolegol o safle treftadaeth sylweddol yn Nhirwedd Ynys Cybi. Byddwn yn comisiynu sefydliad sydd â'r profiad a'r arbenigedd gofynnol i gyflawni'r gwaith cloddio a'r gwaith dadansoddi a chofnodi sy'n deillio o hynny. Byddwn hefyd yn ymgysylltu ac yn cynnwys aelodau o'r gymuned a gwirfoddolwyr i gymryd rhan ym mhob agwedd o’r prosiect trwy ysgolion, grwpiau a phartneriaid.
Partneriaid allweddol
Allbynnau'r prosiect
- Cloddio archeolegol
- Dadansoddi a chofnodi canfyddiadau
- Arddangosfa o'r canfyddiadau
Canlyniadau'r prosiect
- Safle treftadaeth heb ei archwilio o'r blaen wedi'i astudio
- Treftadaeth a guddiwyd o'r blaen yn cael ei dwyn i sylw'r cyhoedd
Amcanion y cynllun
- Gwarchod nodweddion allweddol cymeriad treftadaeth y dirwedd
- Cynyddu ymwybyddiaeth leol o dreftadaeth Ynys Cybi
- Cynyddu cyfranogiad cymunedol mewn gweithgareddau treftadaeth lleol
Prosiectau eraill