Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi

Mae Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi yn gweithio gyda cymunedau lleol i gyflawni rhaglen o weithredau a fydd yn cyfeirio at flaenoriaethau a nodwyd yn lleol.

Mae'r rhain yn cynnwys rheoli treftadaeth naturiol a chymeriad hanesyddol yr ynys yn gynaliadwy, a chreu 'ymdeimlad o le' drwy gynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad lleol o dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Ynys Cybi.

A hefyd, sicrhau bod treftadaeth tirwedd wrth wraidd yr ymgyrch bresennol i ddatblygu Ynys Cybi fel porth ymwelwyr rhyngwladol i Gymru.

Bydd y cynllun yn annog ac yn galluogi cymunedau lleol i ddeall, rheoli a dathlu tirwedd treftadaeth Ynys Cybi.

Prosiectau diweddar

Prosiect6
Bydd y prosiect hwn yn adfer strwythurau ffiniau traddodiadol. Fel y nodwedd tirwedd nodweddiadol amlwg byddwn yn canolbwyntio ar waliau cerrig sych traddodiadol, ond bydd cloddiau a gwrychoedd hefyd yn cael eu hystyried os bydd yr amgylchiadau yn codi.
Prosiect10
Rhaglen trwy gydol y flwyddyn o weithgareddau a phrosiectau a arweinir gan y gymuned, a ddatblygwyd gan bobl leol ar gyfer pobl leol. Hyrwyddo'r dreftadaeth leol, sut a pham y mae wedi'i rheoli, ei gwerth, a'r buddion lleol y mae'n eu darparu. Mae'r ffocws ar ymgysylltu â chynulleidfa eang ac amrywiol, galluogi cyfranogi mewn prosiectau treftadaeth, a recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol.
Prosiect11
Cefnogi gweithgareddau'r cynllun a arweinir gan wirfoddolwyr yn uniongyrchol, a datblygu gallu lleol cynaliadwy ar gyfer rheoli'r dirwedd dreftadaeth a'i nodweddion arbennig yn y dyfodol.

Adfywio

Mae tîm Partneriaeth Tirwedd Ynys Gybi yn cael eu cyflogi drwy swyddogaeth Adfywio Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd y cyngor, sy’n darparu amrywiaeth o brosiectau treftadaeth, cymunedol, canol tref, amgylcheddol a phrosiectau adfywio eraill.