Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Anhwylder ar y côf: Gwasanaethau


Mae dementia yn gyflwr sy’n cael ei achosi gan nifer o ffactorau.

Gall arwyddion a symptomau gynnwys colli cof, dryswch, newid mewn personoliaeth a rhai newidiadau mewn ymddygiad. Yn aml, mae’n golygu dirywiad yng ngallu person i ddeall ac i gyfathrebu. Er bod y cyflwr yn cael ei gysylltu’n bennaf â phobl hŷn, gall hefyd effeithio pobl sy’n ieuengach.

Fel mae’r cyflwr yn gwaethygu bydd yr unigolyn yn llai galluog i wneud penderfyniadau o ddydd i ddydd ac o bosib bydd y cyflwr hefyd gyda sgil effeithiau corfforol.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r salwch wedi gwella. Er mwyn sicrhau bod unigolyn yn derbyn y driniaeth orau ac er mwyn bod o gymorth i bawb gyllunio ar gyfer y dyfodol mae’n bwysig fod y cyflwr yn cael ei adnabod â’r diagnosis yn un cywir.

Symptomau cyffredin

Mae sawl gwahanol fath o ddementia ond mae i’r rhan fwyaf ohonynt symptomau tebyg. Mae’n bwysig cofio y bydd gan bawb sydd â dementia eu symptomau unigol eu hunain hefyd.

Symptomau mwyaf cyffredin dementia yw:

  • Newidiadau o ran sgiliau byw o ddydd i ddydd megis gwisgo, bwyta a glendid personol a all gynnwys cymryd llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau arferol megis hobïau a gweithgareddau amser hamdden
  • Colli cof tymor byr megis anghofio enwau
  • Yn fwy blinedig, arafu, anweithgarwch cyffredinol
  • Newidiadau mewn ymddygiad cymdeithasol fel mynd yn fwy tawedog, pengaled, oriog a bod yn fwy emosiynol
  • Newid o ran dealltwriaeth a chyfathrebu megis anhawster i gael gafael ar y geiriau iawn, ailadrodd geiriau neu siarad llai
  • Ffwndro a drysu gydag amseroedd, llefydd, pobl ac eitemau, crwydro a chodi yn ganol y nos

Diagnosis

Hyd yn hyn, nid oes yna brawf meddygol ar gael ar gyfer y ffurfiau mwyaf cyffredin o ddementia. Gwneir diagnosis trwy allgau’r posibilrwydd o gyflyrau eraill sydd â symptomau tebyg trwy arsylwi ymddygiad pobl yn ofalus a thrwy siarad â phobl sy’n adnabod y person yn dda.

Fe all person, o bosib, ddangos arwyddion o ddementia am nifer o resymau, a bydd angen i’r Meddyg Teulu ymgymryd ag asesiad er mwyn cwblhau diagnosis ac efallai cyfeirio’r claf at Arbenigwr i drefnu asesiad mwy manwl.

Os cadaernheir y diagnosis yn fuan mae meddygaeth ar gael a all oedi’r salwch rhag gwaethygu.

Gwasanaethau gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol

Trefnir gwasanaethau penodol ar gyfer pobl sydd â dementia a’u gofalwyr gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd hefyd yn cyflogi staff sydd wedi eu hyfforddi ac yn berchen ar wybodaeth arbenigol i’r maes hwn.

Oherwydd natur y cyflwr mae angen paratoi i’r dyfodol ac mae phwysigrwydd cydlynu gwasanaethau, bydd staff y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos gyda staff Iechyd er mwyn trefnu pecynnau gofal fydd yn darparu cefnogaeth i’r unigolyn ac i’r gofalydd / teulu.

Mae’r Adran yn gallu trefnu nifer o wasanaethau gan gynnwys y rhai canlynol:-

  • Gofal Cartref
  • Gofal Dydd
  • Darparu cyfarpar neu addasu’r cartref
  • Gwasanaethau gwarchod sy’n rhyddhau’r gofalwyr
  • Gofal dros-dro neu gofal tymor hir mewn cartrefi preswyl/nyrsio
  • Gofal Ysbaid yn eich cartref neu mewn Cartref Gofal o’ch dewis chwi
  • Gofal Tymor Hir mewnCartref preswyl neu nyrsio o’ch dewis chwi

Rydym hefyd yn darparu rhywfaint o wasanaethau arbenigol sydd wedi eu llunio i anghenion y person sydd â dementia ynghyd a’u gofalwyr. Dylid trafod hyn â Gweithiwr Cymdeithasol. Bydd yr holl wasanaethau yn ddibynnol ar asesiad o anhenion yr unigolyn a’u hamgylchiadau.

Dementia Actif Môn

Ariennir Cynllun Dementia Actif Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, trwy Gronfa Gofal Integredig Rhanbarthol Cymru.

Mae Dementia Actif Môn yn helpu pobl sy'n byw gyda dementia. Mae hyn yn cynnwys teulu a gofalwyr. Mae'r cynllun yn rhoi mynediad i raglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth o ansawdd uchel sy'n helpu i wella iechyd a lles.

Gwasanaethau iechyd

Yn ogystal bydd y Gwasanaeth Iechyd yn trefnu gwasanaethau penodol i gefnogi a chynorthwyo pobl dementia a’u gofalwyr megis:-

  • Asesiad gan Dim Arbenigol
  • Cefnogaeth Nyrs Seiciatryddol yn y Gymuned
  • Gofal Dydd mewn Ysbyty
  • Gofal Ysbaid mewn Ysbyty ar gyfer y rhai hynny sy’n gymwys i dderbyn Gofal Iechyd Parhaus y gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Clinig y Cof

Gofalwyr

Gall gofalu am berson gyda dementia fod yn straen enfawr ar ofalwyr (ffrindiau a theuluoedd sy’n edrych ar ôl person â dementia). Wrth gynllunio a threfnu gwasanaethau sy’n galluogi hwy i gael ysbaid ystyrion oddi wrth ofalu fe gydnabyddir pwysigrwydd ystyried anghenion a dymuniadau gofalwyr gan Adran Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gall y gwasanaethau hyn gynnwys:

  • Gwasanaeth Gwarchod
  • Gofal Cartref
  • Cefnogaeth i gael mynediad i gyfleodd cymdeithasol a hamdden
  • Gwasanaeth Ysbaid, Cwnsela a Chefnogaeth
  • Cefnogaeth i barhau mewn gwaith neu ddychwelyd i weithio

Mae gan Ofalwyr yr hawl i ofyn am asesiad ar wahân o’u hanghenion eu hunain a dylent drafod hyn gyda’u Meddyg Teulu neu gyda’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cefnogaeth gan fudiadau gwirfodol

Mae’n bosib y gall nifer o fudiadau gwirfoddol allu darparu cymorth a chefnogaeth. Gall y mudiadau hyn ddarparu gwybodaeth arbenigol, manylion cyswlly defnyddiol ac, mewn rhai sefyllfaoedd, cymorth uniongyrchol megis:

  • Eiriolaeth Annibynnol
  • Gwasanaeth Ymgyfeillio
  • Gofal Dydd
  • Gwasanaethau Gwarchod

Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol neu gyngor am unrhyw un o’r gwasanaethau yma, cysylltwch ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.