Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Hawlio iawndal gan y cyngor


Mae’n bosib eich bod yn ystyried hawlio iawndal gan y cyngor oherwydd anaf personnol, difrod i neu golli eiddo.

Darllenwch y wybodaeth bwysig isod.

Mae’n bosib eich bod yn ystyried hawlio iawndal gan y Cyngor oherwydd anaf personnol, difrod i neu golli eiddo.

Tydi hawlio ddim o reidrwydd yn arwain at iawndal yn cael ei dalu, mewn llawer i achlysur nid yw iawndal yn cael ei dalu. Mae pob hawliad yn cael ei ystyried ar sail â yw’r Cyngor yn gyfreithiol atebol am y digwyddiad. Yn aml, mae pethau’n digwydd sy’n anffodus ond nid oherwydd bod unrhyw un wedi bod yn esgeulys.

Rhaid i’r Cyngor ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n gyfrifol am. Gall unrhyw wybodaeth a ddarperir mewn perthynas â’ch cais gael ei rannu ag yswirwyr, cyfreithwyr a sefydliadau eraill, megis yr heddlu, i ganfod ac atal twyll. Bydd unrhyw berson sy’n gwneud hawliad twyllodrus (neu cynorthwyo rhywun i wneud)yn agored i erlyniad troseddol.

Er mwyn rhoi gwybod am ddigwyddiad ac i’ch hawliad gael ei ystyried ymhellach bydd angen i chi lenwi’r ffurflen isod neu ysgrifennu at y Cyngor yn rhoi digon o wybodaeth i esbonio’r hyn sydd wedi digwydd, pryd a ble y digwyddodd, pa anaf, difrod neu golled sydd wedi ei ddioddef o ganlyniad, a pham yr ydych yn ystyried bod y Cyngor ar fai am yr anaf, difrod neu golled. Fel arall, mi fedrwch ystyried penodi cyfreithwyr i weithredu ar eich rhan.

Rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am y digwyddiad gan fod hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o orfod gofyn am wybodaeth ychwanegol a creu oedi wrth benderfynnu yr hawliad. Mae lluniau a map yn dangos union leoliad y digwyddiad yn ddefnyddiol.

Fe ddylai ffurflenni sydd wedi’u cwblhau neu lythyrau hawlio gael ei anfon drwy’r post neu e-bost i’r cyfeiriad a ddangosir isod.

Gall cyfreithwyr sy’n cyflwyno hawliadau gan ddefnyddio’r Porth y Weinyddiaeth Gyfiawnder nodi bod y Cyngor yn cael ei yswirio gan Zurich Municipal (rhif porth: C00108) o dan rhif y polisi QLA-04U002-0013.

Bydd y Cyngor neu ein yswiriwr yn cydnabod eich hawliad o fewn 21 diwrnod o gael ei dderbyn neu fel sy’n ofynnol o dan y broses Porth y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gan ddibynnu ar natur yr hawliad bydd y Cyngor yn ymchwilio i’r honiad a phenderfynu os yw ar fai neu fydd yn anfon y cais at ein yswiriwr a fydd yn gwneud yr un peth. Efallai bydd rhaid gofyn am wybodaeth pellach cyn y gellir gwneud penderfyniad.

Efallai bydd gofyn am dderbynebau gwreiddiol, a / neu amcangyfrifon ar gyfer adnewyddu eiddo sydd wedi ei ddifrodi neu ei golli, a hefyd i gadarnhau oed eitemau o’r fath. Mae hyn oherwydd y bydd unrhyw iawndal yn cymryd i ystyriaeth traul a gwisgo.

Cysylltu:

Drwy Post: Rheolwr Risg ac Yswiriant
Cyngor Sir Ynys Môn
Swyddfa’r Cyngor
Llangefni
Ynys Môn
LL77 7TW
Drwy E-bost: yswiriant@ynysmon.llyw.cymru
Dros Ffôn: 01248 752609 / 752674
Drwy DX: DX701771 Llangefni

Os oes angen fersiwn mwy hygyrch arnoch, anfonwch neges at digidol@ynysmon.llyw.cymru er mwyn i ni allu eich helpu.