Hysbysiad o Ardystio Cwblhau’r Archwiliad o’r Cyfrifon ar gyfer y Flwyddyn yn Gorffen 31 Mawrth 2023
Rhoddir rhybudd drwy hyn, yn unol â Rheoliad 13 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygiadau) 2018, fod Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio bod yr archwiliad o gyfrifon Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 wedi'i gwblhau.
Caiff etholwr ar gyfer yr ardal, arolygu a gwneud copi o’r Datganiad Cyfrifon terfynol wedi’i archwilio ar gyfer 2022 i 2023 ar y dudalen we hon.
Os hoffech archwilio’r cyfrifon, yn y cyfeiriad a welir isod rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc ffoniwch 01248 752602 neu anfonwch neges e-bost at ClaireKlimaszewski@ynysmon.llyw.cymru
Adain Cyfrifeg, Swyddogaeth Adnoddau, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW.
22 Rhagfyr 2023