Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded maes gwersylla


Os ydych yn caniatáu i’ch tir gael ei ddefnyddio fel maes gwersylla gan y cyhoedd am gyfnod mwy na 42 diwrnod yn olynol - neu 60 diwrnod mewn blwyddyn - byddwch angen trwydded oddi wrth eich awdurdod lleol.

Mae’n bosibl y bydd amodau ynghlwm wrth y drwydded. Mae eithriadau ar gyfer sefydliadau sydd yn berchen trwyddedau gwersylla eithriedig.

Gair am y rheoleiddio

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r drwydded hon

Y broses o werthuso ceisiadau

Pan gyflwynir trwydded, cymerir yn ganiataol ei bod yn ddiamod oni bai bod yr awdurdod lleol yn rhoi rhybudd bod y cais yn cael ei wrthod neu bod amodau ynghlwm wrtho.

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Bydd - Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gwneud cais

Am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â:

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW 

Ffôn: 0044(0)1248 01248 750057

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â Iechyd yr Amgylchedd yn gyntaf. Os gwrthodir unrhyw gais, gall y ceisydd wneud apêl i’r Llys Ynadol lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â echyd yr Amgylchedd yn gyntaf.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sydd yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth ei drwydded wneud apêl i’w Llys Ynadon lleol.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).