Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Trwydded safleoedd carafanau a gwersylla


Rydych angen trwydded gan yr awdurdod lleol i redeg safle carafanau neu safle gwersylla.

Mae’n bosibl y bydd amodau ynghlwm wrth drwydded i ofalu am unrhyw rai o’r canlynol:

  • Cyfyngu ar amseroedd pan fydd carafanau ar safle i bobl fyw ynddynt neu gyfyngu ar niferoedd y carafanau a ganiateir ar safle ar unrhyw un adeg.
  • Rheoli’r mathau o garafanau sydd ar y safle
  • Rheoli lle gosodir y carafanau neu reoli’r defnydd o strwythurau a cherbydau eraill gan gynnwys pebyll.
  • Sicrhau y cymerir camau i wella ymddangosiad y tir, gan gynnwys plannu/ail-blannu perthi a choed.
  • Dulliau o sicrhau diogelwch rhag tân ac adnoddau ymladd tân.
  • Sicrhau bod cyfleusterau iechydol a chyfleusterau eraill, gwasanaethau a chyfarpar, yn cael eu darparu a’u cynnal.

Meini prawf cymhwyster

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod â hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafanau.

Ni roddir trwyddedau i ymgeiswyr y gwrthodwyd trwydded iddynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol.

Gair am y rheoleiddio

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n ymwneud â’r drwydded hon

Y broses o werthuso ceisiadau

Dylid cyflwyno cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol y mae’r tir wedi ei leoli yn ei ardal.

Mae’n rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig, yn rhoi manylion y tir sy’n berthnasol i’r cais ac unrhyw wybodaeth arall y bydd yr awdurdod lleol ei angen.

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?

Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gwneud cais

Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW 

Ffôn: 0044(0)1248 750057

Gweithredu pan fydd cais yn methu

Cysylltwch â’ Iechyd yr Amgylchedd yn gyntaf. Os gwrthodir unrhyw gais, gall y ceisydd wneud apêl i’r Llys Ynadol lleol.

Rhaid cyflwyno’r apel o fewn 28 diwrnod o hybysiad ysgrifenedig gwrthod y cais a dylai hysbysiad o’r apel gael ei gyflwyno i’r cyngor lleol.

Camau gan ddeiliad trwydded

Cysylltwch â’ Iechyd yr Amgylchedd yn gyntaf.

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sydd yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm wrth ei drwydded wneud apêl i’w Llys Ynadon lleol.

Rhaid cyflwyno’r apêl o fewn 28 diwrnod o ganiatáu’r drwydded..

Gall y cyngor lleol newid amodau ar unrhyw adeg ond mae rhaid rhoi cyfle i ddeiliad trwyddedau gwneud cyflwyniadau am y newidiadau arfaethedig. Os bydd deiliad y drwydded yn anghytuno gyda’r newidiadau gall apelio i’r Llys Ynadon lleol . Rhaid cyflwyno’r apêl o fewn 28 diwrnod o hysbysiad ysgrifenedig am y newidiadau a dylai hysbysiad o’r apêl gael ei gyflwyno i’r cyngor lleol.

Cwynion gan ddefnyddwyr

Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU(UK European Consumer Centre).