Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Ceir ail law - ystyriaethau cyn prynu

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Mae prynu cerbyd a ddefnyddiwyd yn bryniant sylweddol felly mae'n hanfodol eich bod yn cynnal archwiliadau ar y gwerthwr, y cerbyd a'r ddogfennaeth cyn i chi fynd yn eich blaen.

Chwiliwch ar-lein, ymwelwch â masnachwyr lleol, darllenwch gylchgronau moduro a gwiriwch adolygiadau i gymharu modelau, manylebau a phrisiau. Gosodwch gyllideb ac ymgyfarwyddwch â'r dewisiadau ariannu sydd gennych cyn prynu.

Gall cerbyd sy'n cael ei brynu gan fasnachwr gostio mwy nag un a brynwyd yn breifat ond gall ddod gyda manteision. Mae'r gyfraith yn rhoi hawliau ychwanegol i chi wrth brynu gan fasnachwr, mae llawer o fasnachwyr yn cynnig archwiliadau cyn gwerthu ac efallai y byddwch yn gallu manteisio ar wasanaeth ôl-werthu, cynigion gwarant, trefniadau rhan-gyfnewid a chyfleusterau credyd.

Prynu cerbyd modur a ddefnyddir: beth yw fy hawliau?

Pan fyddwch yn prynu cerbyd a ddefnyddiwyd gan fasnachwr, rydych yn gwneud contract cyfreithiol rwymol sy'n dod o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi hawliau i chi; mae gennych hawl i ddisgwyl bod y cerbyd o ansawdd boddhaol, yn addas i'r diben ac fel y disgrifiwyd. Os nad yw eich hawliau yn cael eu bodloni, mae'r gyfraith yn rhoi rhwymedïau i chi. Dylai'r cerbyd fod yn deilwng o'r ffordd. Mae gennych lai o hawliau pan fyddwch yn prynu'n breifat. Gweler y canllaw ' Cerbydau modur a ddefnyddiwyd: eich hawliau ' i gael rhagor o wybodaeth.

Pan rydych yn penderfynu prynu cerbyd ail law ar safle busnes y masnachwr (contract ' ar y safle '), oddi ar y safle (er enghraifft, lle mae'r masnachwr yn danfon cerbyd i'ch cartref ac rydych yn llofnodi'r contract yno) neu gan fasnachwr o bell (er enghraifft, contract a wneir drwy wefan y masnachwr) mae Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol i chi. Mae'r llawlyfrau 'Prynu o adeiladau busnes: esbonio contractau ar y safle'Prynnu o'r cartref: egluro contractau oddi ar y safle ' a 'Phrynu drwy'r rhyngrwyd, ffôn a phost: esbonio contractau o bell' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Os ydych chi'n talu am gerbyd ail law gan ddefnyddio cerdyn credyd neu gyllid wedi'i drefnu gan y masnachwr, mae gennych hawliau o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974.

Prynu o fasnachwr modur

Mae llawer o fasnachwyr yn cynnig archwiliadau cyn gwerthu ac efallai y byddwch yn gallu manteisio ar wasanaeth ôl-werthu, cynigion gwarant, trefniadau rhan-gyfnewid a chyfleusterau credyd. Bydd gennych well amddiffyniad gan fod yna gyfreithiau sy'n berthnasol i fasnachwyr ond nid i werthwyr preifat.

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod gyda phwy rydych yn prynu. Darganfyddwch a yw'r masnachwr yn unig fasnachwr, yn bartneriaeth neu'm gwmni cyfyngedig ac yn bwysicaf oll darganfyddwch gymaint ag y gallwch am enw da'r masnachwr cyn prynu'r modur. Os yw masnachwr yn honni ei fod yn aelod o gymdeithas fasnach, gwiriwch hyn gyda'r gymdeithas fasnach ei hun. Chwiliwch am fasnachwr sy'n aelod o gynllun wedi'i gymeradwyo gan safonau masnach neu un sy'n aelod o'r Ombwdsmon Moduron. Cymeradwyir cod ymarfer yr Ombwdsmon Moduron gan y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig (CTSI) o dan Cynllun Cymeradwyo Codau Defnyddwyr (gallwch chwilio am Aelodau Cod Cymeradwy ar wefan CTSI). 

Ymchwiliwch gwerth y modelau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a darganfyddwch faint yw gwerth eich cerbyd chi (os oes gennych un) er mwyn ytyried ei ran-gyfnewid. Byddwch yn barod i fargeinio.

Prynu oddi wrth werthwr preifat

Os ydych yn prynu'n breifat, mae'n hanfodol gwirio bod y person sy'n gwerthu yn berchen ar y cerbyd. Cysylltwch â chwmni sy'n gallu cynnal archwiliad o hanes y cerbyd. Bydd hyn yn dweud wrthych os mae'r cerbyd wedi ei ddwyn, ei ddileu, bod ganddo gyllid heb ei dalu arno neu ei fod wedi'i sgrapio. Cadwch gopi o'r hysbyseb neu, os caiff ei hysbysebu ar-lein, cadwch gopi o'r manylion a gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod enw a chyfeiriad y gwerthwr. Ceisiwch osgoi trefnu i gyfarfod â'r gwerthwr mewn unrhyw le heblaw'r cyfeiriad a roddir fel ei gyfeiriad cartref. Croesgyfeiriwch y manylion a roddir i chi gyda'r rhai sydd ar ddogfen gofrestru cerbyd V5C (a elwir hefyd yn llyfr log).

Prynu cerbyd ar-lein

Darganfyddwch gymaint ag y gallwch chi am y gwerthwr - er enghraifft, p'un a ydyn nhw'n unigolyn preifat neu'n fasnachwr - a defnyddiwch safle diogel, dibynadwy yn unig. Cofiwch, efallai na fydd y gwerthwr wedi'i leoli yn y DU; byddai'n rhaid ichi bwyso a mesur manteision prynu'r cerbyd yn y ffordd hon yn erbyn y peryglon posibl o ddelio â gwerthwr dramor. Pan fyddwch yn prynu oddi wrth fasnachwr ar-lein, mae'n rhaid iddynt roi gwybodaeth benodol cyn y contract i chi, megis manylion am y cerbyd, trefniadau talu, cyflawni a pherfformio a gofynion canslo.

Gwiriwch delerau ac amodau'r masnachwr am unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r pryniant. Mae'n arbennig o bwysig canfod pa wasanaethau ôl-werthu a gwarantau y gall y masnachwr eu cynnig i chi, yn enwedig os ydych yn byw gryn bellter i ffwrdd oddi wrth fasnachwr yr ydych yn ystyried prynu oddi wrtho. P'un a ydych yn prynu gan fasnachwr neu gan unigolyn preifat, dylech bob amser gadw copïau o'r dudalen we sy'n cario'r hysbyseb a dylech gadw unrhyw negeseuon e-bost a anfonir rhyngoch chi a'r gwerthwr. Edrychwch ar hanes a chyflwr y cerbyd cyn ymrwymo i'r fargen. Mae'r canllaw ' Prynu drwy'r rhyngrwyd, ffôn a phost: esbonio contractau pellter ' yn rhoi mwy o wybodaeth am bryniannau ' pellter ' gan fasnachwr.

Prynu cerbyd mewn arwerthiant moduron

Mae mynychu ocsiwn moduron yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, ond byddwch yn ymwybodol ei bod yn annhebygol o gael ei ystyried yn werthiant defnyddiwr felly ni fydd y rhan fwyaf o'ch hawliau o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn berthnasol.

Mae'n bwysig:

  • manteisio ar y cyfle i weld y cerbydau cyn yr arwerthiant
  • mynd â rhywun gyda chi sy'n gwybod am gerbydau ac sydd â phrofiad o werthiannau ocsiwn
  • ymgyfarwyddwch â thelerau ac amodau yr ocsiwn
  • darganfyddwch gwerth marchnad y cerbyd yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdano
  • peidiwch a chael eich temtio i wneud cais am y swm yr oeddech yn barod i'w dalu yn y lle cyntaf
  • gwiriwch hysbysiad a bennwyd i'r cerbyd gan y bydd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am ei gyflwr a'i hanes
  • sicrhewch fod gan y gwerthwr yr hawl gyfreithiol i werthu'r cerbyd

Os nad ydych yn siwr, peidiwch â gwneud cais. Os ydych yn gwneud y cais uchaf ar gyfer y cerbyd, ni allwch ei dynnu'n ôl ac mae'n rhaid i chi fwrw ymlaen â'r pryniant.

Prynu cerbyd o arwerthiant ar y rhyngrwyd

Mae'r term hwn yn disgrifio gwefan sy'n paru prynwyr â gwerthwyr (unigolion preifat a masnachwyr) ac yn cynnwys cynigion cystadleuol.

Fel prynwr, dylech gymeryd cymryd i leihau'r risg o bethau'n mynd o chwith:

  • gwnewch eich hun yn gyfarwydd â'r gwefannau. Darllenwch yr holl delerau ac amodau perthnasol, yn enwedig y rhai sy'n egluro beth y gallwch ei wneud os bydd pethau'n mynd o chwith
  • mae'n debyg y bydd angen i chi gofrestru cyn i chi allu prynu
  • gwiriwch a yw'r gwerthwr yn fasnachwr neu'n unigolyn preifat
  • darganfyddwch cymaint ag y gallwch am y gwerthwr/masnachwr cyn ymrwymo eich hun i'r cerbyd. Darllenwch adolygiadau os oes rhai ar gael
  • ymchwiliwch i'r cerbyd yr ydych yn ystyried ei brynu cyn mynd yn eich blaen
  • darganfyddwch beth yw'r trefniadau casglu, cyflwyno a thalu
  • os ydych yn prynu gan fasnachwr, darganfyddwch pa drefniadau ôl-werthu sydd ar gael
  • byddwch yn ofalus o werthu ffug a pheidiwch byth â chael eich temtio i fasnachu oddi ar y safle

Mae gennych yr un hawliau cyfreithiol wrth brynu oddi wrth fasnachwr mewn arwerthiant ar y rhyngrwyd ag sydd gennych pan fyddwch yn prynu o'u safle. Mae gennych lai o hawliau wrth brynu oddi wrth werthwyr preifat ar-lein.

Sut ydych chi'n mynd i dalu am y cerbyd?

Os ydych yn prynu gan fasnachwr, efallai y bydd amryw o ddewisiadau ar gael i chi, megis:

Arian parod. Efallai eich bod mewn sefyllfa gryfach i fargeinio am ddisgownt ar bris y cerbyd os ydych yn brynwr arian.

Hurbwrcas (HP). Telir blaendal (gall hyn gael ei orchuddio gan werth cerbyd rhan-gyfnewid) ac rydych yn talu'r gweddill ynghyd â llog mewn rhandaliadau misol dros gyfnod cytunedig. Fel arfer telir ffi weinyddol gyda'r rhandaliad cyntaf a ffi 'opsiwn i brynu' gyda'r un olaf. Mae eich contract gyda'r darparwr cyllid, nid y masnachwr ac nid ydych yn dod yn berchen ar y cerbyd nes i chi wneud y taliad olaf. Ni allwch ei werthu heb ganiatâd y darparwr cyllid. Gall y darparwr cyllid ailfeddiannu'r cerbyd os byddwch yn methu â gwneud y taliadau. Mae gennych hawl cyfreithiol i setlo cytundeb yn gynnar a chael ad-daliad, ond rhaid i chi wirio cyn llofnodi'r cytundeb a fyddai'r ad-daliad cynnar yn berthnasol i unrhyw gynhyrchion ychwanegol yr ydych wedi'u hariannu gyda'r cerbyd.

Arwerthiant amodol. Yn debyg i gytundeb hurbwrcas, daw'r cerbyd i'ch heiddo pan fydd yr holl daliadau wedi'u gwneud; fodd bynnag, nid oes taliad ' opsiwn i brynu ' terfynol.

Benthyciad personol. Siopiwch o gwmpas am y gyfradd llog orau dros y cyfnod ad-dalu mwyaf priodol i chi. Gan eich bod yn talu'n llwyr am y cerbyd, bydd yn perthyn i chi ar unwaith.

Benthyciad wedi'i ddiogelu. Gall cyfraddau llog fod yn isel o'u cymharu â rhai benthyciad personol ond mae'r benthyciad wedi'i sicrhau ar eich cartref. Gallai gostio mwy o log i chi os y byddech yn ad-dalu dros gyfnod hir.

Cynlluniau contract personol. Rydych yn talu blaendal cychwynnol yna taliadau misol isel dros gyfnod cytunedig. Ar ôl y tymor hwnnw, cewch ddewis wneud taliad ' balwn ' a chadw'r cerbyd, defnyddio'r cerbyd fel blaendal tuag at eich cerbyd nesaf, neu ddychwelyd y cerbyd. Mae'n bosibl y bydd gan y cynllun contract personol delerau ac amodau sy'n ymwneud â therfynau milltiroedd a chynnal cyflwr y cerbyd.

Prydlesu. Mae'r cerbyd ar brydles felly nid ydych byth yn berchen arno. Mae'r dull hwn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda defnyddwyr. Rydych chi'n penderfynu pa gerbyd rydych chi am ei gadw ac am ba hyd rydych chi eisiau cadw a chytuno ar derfyn milltiroedd. Caiff y taliadau misol wedyn eu cyfrifo.

Cyllid di-log. Fel arfer, telir blaendal mawr, ac yn dilyn hynny bydd taliadau misol cymharol uchel yn cael eu talu dros gyfnod byr.

Cerdyn credyd. Gallech ddewis talu'r blaendal neu bris llawn y cerbyd gan ddefnyddio eich cerdyn credyd. Os byddwch yn talu am y cerbyd drwy gerdyn credyd, ac os yw'n costio mwy na £100 ond yn llai na £30,000, cewch eich diogelu gan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Mae adran 75 o'r Ddeddf yn gwneud darparwr y cerdyn yr un mor gyfrifol â'r masnachwr am dorri contract neu gamliwio. Os aiff pethau o chwith, mae gennych hawl i weithredu yn erbyn y masnachwr, darparwr y cerdyn neu'r ddau.

Pa bynnag ddull talu y dewiswch, siopiwch o gwmpas am y fargen orau bob tro. Gallai cymharu'r APR (cyfradd ganrannol flynyddol) a chyfanswm y tâl am gredyd arbed cannoedd o bunnoedd i chi mewn llog, o bosibl. Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen ac yn deall y dogfennau cyn i chi lofnodi.

Mewn arwerthiant preifat mae'n bwysig eich bod yn talu'r person a enwir ar y V5C ac yn cael derbynneb bob tro.

Mae posibilrwydd bob amser y gall twyll ddigwydd wrth wneud pryniannau ar-lein, felly sicrhewch eich bod yn defnyddio dull diogel o dalu neu'n defnyddio cerdyn credyd.

Beth i'w wirio cyn prynu

Mae cerbydau sy'n cael eu clocio yn ffordd o leihau milltiroedd a ddangosir ar odomedr y cerbyd. Mewn rhai achosion, mae'n anodd dweud a yw'r milltiroedd a nodir yn gywir ai peidio. Mae'n arfer cyffredin i fasnachwyr ddadhawlio cywirdeb y milltiroedd drwy osod ' sticer ymwadiad ' ar yr odomedr neu'n agos ato neu ddihawlio'r milltiroedd mewn hysbyseb, ar-lein neu yn y ddogfennaeth.

Gall y canlynol ddynodi bod gan y cerbyd filltiroedd uwch na ddangosir ar yr odomedr: 

  • gormod o ôl traul ar y rwbwr y pedalau, y sifft gêr, gwregysau diogelwch ac olwyn lywio
  • sedd sydd wedi suddo neu orchudd o sedd y gyrrwr wedi treulio a charpedi wedi'u gwisgo ar ochr y gyrrwr
  • difrod ormodol gan gerryg mân

A yw'r rhifau ar y deialu odomedr yn cyfateb i waith papur y cerbyd? Edrychwch ar y milltiroedd ar y cerbyd yn erbyn y gwasanaeth a'r cofnodion MOT. Gellir hefyd rholio odomedrau digidol neu electronig yn ôl, yn aml heb unrhyw arwyddion amlwg. Os yn bosibl, gofynnwch i'r ceidwad blaenorol am wybodaeth.

Gallwch wirio hanes MOT cerbyd ar wefan GOV.UK; mae'n dal dyddiad y prawf, dyddiad dod i ben, canlyniad y prawf a milltiroedd y cerbyd (mae darlleniadau milltiroedd ar gael ar gyfer MOTau a wnaed o 1 Awst 2011 ymlaen).

Gellir cael tystysgrifau MOT newydd trwy wefan GOV.UK os yw'r gwreiddiol yn cael ei golli neu ei ddifrodi. Mae angen rhif cofrestru'r cerbyd a'r rhif 11 digid arnoch o lyfr log V5C cyn i chi fynd ymlaen.

Gwiriwch gyflwr cyffredinol y gwaith corff. Gall paneli wedi'u camlinio neu eu hail beintio gwael ddangos bod y cerbyd wedi'i drwsio ar ôl damwain. Chwiliwch am arwyddion o rwd a weldio. Dylai'r cyflwr adlewyrchu oedran y cerbyd a'r pris a ofynnir amdano. Mae'n well cynnal y gwiriadau hyn yn ystod golau dydd a phan fo'r tywydd yn sych; efallai y bydd yn anoddach adnabod problemau os yw'r gwaith ar y corff yn wlyb.

Gwnewch yn siwr bod gan yr holl deiars, gan gynnwys y rhai sbar, y gwasgedd a'r drol gywir.

Ewch am yriant prawf trylwyr.

Argymhellir yn gryf eich bod yn gofyn wrth awtobeirianydd i wirio'r cerbyd (naill ai peiriannydd annibynnol neu drwy sefydliad moduro) os nad oes gennych yr arbenigedd i wirio cyflwr y cerbyd eich hun. Cofiwch y gallech effeithio ar eich hawl i ddal y masnachwr yn gyfrifol am nam ar y cerbyd os oedd y nam yn amlwg ac y dylid bod wedi sylwi arno cyn ei brynu.

Gwiriwch yr holl waith papur perthnasol i fodloni eich hun bod popeth mewn trefn.

Rhoddir dogfen cofrestru cerbydau (llyfr llog) i bob cerbyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), sy'n cynnwys gwybodaeth unigryw amdano. Gelwir hyn y V5C. Dylech bob amser ofyn am gael gweld y V5C. Edrychwch am y dyfrndod 'DVL' a sicrhewch bod y VIN (rhif adnabod y cerbyd) a rhif yr injan yr un fath â'r hyn a nodir ar modur a'r V5C. Gwiriwch mai'r person sy'n gwerthu'r cerbyd yw'r person sy'n cael wedi'i gofrestru fel y ceidwad blaenorol. Byddwch yn ymwybodol, os yw'r gwerthwr yn honni nad oes ganddynt y V5C neu eu bod wedi ei anfon at y DVLA neu fod gennych bryderon am y wybodaeth ar y V5C, gallai fod yn arwydd bod y cerbyd wedi cael ei ddwyn.

Gallwch wirio ar wefan GOV.UK i weld a yw tystysgrif MOT yn ddilys drwy groesgyfeirio'r wybodaeth ar y copi papur gyda'r wybodaeth ar-lein.

A oes gan y cerbyd gwasanaeth hanes llawn? Gofynnwch am gael ei weld a gwiriwch gyda'r masnachwyr sydd wedi stampio'r llyfr gwasanaethau yn y gorffennol i sicrhau bod y cofnodion yn gywir.

Mae'n ddoeth cynnal archwiliad o ddata'r cerbyd. Mae yna sefydliadau sy'n cadw data ar gerbydau ac sy'n gallu dweud wrthych, am ffi, a oes gan y cerbyd gyllid dyledol arno, os yw wedi'i ddwyn neu os yw wedi'i ddileu gan gwmni yswiriant. Gallwch hefyd ganfod a yw'r milltiroedd yn gywir ac a yw'r rhif cofrestru a'r VIN yn cyfateb.

Darllenwch y contract yn ofalus cyn i chi ei lofnodi. Dylid ysgrifennu unrhyw beth y cytunwyd arno rhyngoch chi a'r masnachwr, fel trwsio cyn prynu, ar y contract.

Darllenwch y cytundeb cyllid (os oes un) yn ofalus a gwnewch yn siwr bod y ffigurau'n gywir.

Os ydych yn cael cynnig yswiriant diogelu taliadau neu warant estynedig, gwiriwch y telerau a'r amodau (yn arbennig y gwaharddiadau) i wneud yn siwr eu bod yn addas ar eich cyfer. Cofiwch, mae'r rhain yn ychwanegiadau dewisol; mae gennych hawliau cyfreithiol yn erbyn y masnachwr o hyd. 

Unwaith y byddwch wedi gyrru eich cerbyd oddi ar safle y masnachwr gall ei werth ddisgyn yn ddramatig. Yn y tymor byr, petaech yn prynu'r cerbyd ar gyllid, efallai y byddai werth cryn dipyn yn llai na'r swm sy'n ddyledus gennych i'r cwmni cyllid. Gall gwarant diogelwch asedau (neu yswiriant ' bwlch ') gynnig amddiffyniad i chi os caiff eich cerbyd ei ddileu a bod ei werth gweddilliol yn llai na'r cyllid sy'n weddill. Mae gwahanol gynhyrchion yswiriant yn cynnig gwahanol lefelau o warchodaeth ond yn gyffredinol byddant yn cwmpasu'r gwahaniaeth rhwng y swm sy'n ddyledus gennych a gwerth cyn damwain y cerbyd. Fel gyda phob polisi yswiriant, bydd yn rhaid i chi bwyso a mesur y risgiau o beidio â llunio polisi yn erbyn y manteision posibl. Os ydych chi'n dewis yr opsiwn yma, gwnewch yn siwr eich bod yn mynd am y polisi mwyaf priodol i chi, byddwch yn ymwybodol o beth mae'r cytundeb yn ei gynnig i chi a nodwch y gwaharddiadau cyn i chi ymrwymo.

Cofiwch, os byddwch yn penderfynu diddymu yswiriant diogelu taliadau, bydd gennych gyfnod ystyried o 30 diwrnod. Ar gyfer unrhyw gynnyrch yswiriant arall, y cyfnod ystyriedyw 14 diwrnod.

Peidiwch â thybio y gallwch newid eich meddwl os byddwch yn llofnodi archeb i brynu cerbyd. Gallech dorri'r contract os byddwch yn canslo. Efallai y byddwch yn colli eich blaendal a gallai'r masnachwr geisio adennill unrhyw golledion ychwanegol gennych. Mae eithriadau i hyn. Os ydych yn cytuno i brynu'r cerbyd ar gyllid a drefnir gan y masnachwr, efallai y byddwch yn gallu tynnu'n ôl o'r cytundeb cyn iddo gael ei ' weithredu ', sy'n golygu bod pob parti perthnasol wedi'i lofnodi. Yna, dylech allu adfer eich blaendal.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu canslo o fewn cyfnod canslo 14 diwrnod os cafodd y cerbyd ei brynu o bell (heb unrhyw gyswllt wyneb-yn-wyneb) neu oddi ar y safle (contract wedi'i wneud i ffwrdd o safle'r masnachwr). Gweler y canllawiau ' Prynu drwy'r rhyngrwyd, ffôn a phost: esbonio contractau o bell ' a Prynu o gartref: egluro contractau oddi ar y safle ' i gael rhagor o wybodaeth.

Deddfwriaeth allweddol 

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Medi 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.