Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Canllawiau safonau masnach


Teithio ar drenau - eich hawliau chi

Yn y canllawiau

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Pan fyddwch yn prynu tocyn trên rydych yn gwneud contract ar gyfer darparu gwasanaeth teithio ar y trên gyda'r cwmnïau trenau sy'n dod o dan y tocyn. Os prynwch eich tocyn drwy fanwerthwr trwyddedig, mae'r cwmni trenau yn atebol ichi i gyflawni telerau'r contract ac i ddarparu'r gwasanaeth teithio ar y rheilffyrdd yr ydych wedi talu amdano.

Yn ogystal â'ch hawliau statudol, mae gennych hawliau a rhwymedigaethau sydd wedi'u nodi yn Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol a Siarter Teithwyr pob cwmni trenau.

Y gyfraith

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol. Yn achos teithio ar y rheilffyrdd, rydych yn gwneud contract gyda chwmni trenau i ddarparu gwasanaeth ac mae gennych y hawliau allweddol canlynol:

  • mae'n rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal gyda 'gofal a sgil rhesymol'. Er enghraifft, mae methiant i ddarparu bwyd yng ngherbydau dosbarth cyntaf pan oedd hyn yn rhan o'r contract gael ei ystyried yn fethiant i gyflawni'r gwasanaeth gyda gofal a sgiliau rhesymol
  • mae 'gwybodaeth am fasnachwr neu wasanaeth' yn gyfreithiol rwymedig. Mae unrhyw beth sy'n cael ei ddweud neu ei ysgrifennu gan gwmni trên (neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran) am ei hun neu am y gwasanaeth yn ffurfio rhan o'r contract, os ydych chi'n ystyried y wybodaeth cyn i chi gytuno ar y contract neu os ydych yn gwneud penderfyniad am y gwasanaeth ar ôl i'r contract gael ei wneud
  • 'pris rhesymol' i'w dalu. Mae'n ofynnol i chi dalu pris ' rhesymol ' am y gwasanaeth oni bai fod y pris (neu'r ffordd y mae'r pris wedi'i gyfrifo) yn cael ei bennu fel rhan o'r contract
  • mae'n rhaid i'r gwasanaeth gael ei gynnal o fewn 'amser rhesymol', os nad yw amser yn cael ei bennu gan y contract

Os byddwch yn ymuno â chontract teithio ar y rheilffordd ar ôl i gwmni trenau neu fanwerthwr trwyddedig eich camarwain neu am eu bod wedi defnyddio arfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau iawn i chi: yr hawl i ddadddirwyn y contract i ben, yr hawl i ddisgownt a'r hawl i gael iawndal. Mae'r hawliau hyn yn ychwanegol at eich hawliau a'ch rhwymedigaethau a nodir yn Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol. Mae'r canllaw 'Arferfion camarweiniol ac ymosodol: hawliau i wneud iawn' yn rhoi mwy o wybodaeth.

Taliadau gordaliadau

O dan Reoliadau Hawliau Defnyddwyr (Gordaliadau Talu) 2012, a ddiwygiwyd gan Reoliadau Gwasanaethau Talu 2017, gwaherddir masnachwyr rhag gosod gordaliadau ar ddefnyddwyr am ddefnyddio'r dulliau talu canlynol:

  • cardiau credyd, debyd neu dâl
  • gwasanaethau e-dalu fel PayPal
  • Tâl Apple, tâl Android neu ddulliau talu eraill tebyg

Gall masnachwyr orfodi tâl ychwanegol am ddulliau eraill o dalu, ond rhaid i'r swm beidio â bod yn ormodol; rhaid iddynt adlewyrchu'r gost wirioneddol i'r masnachwr o brosesu'r taliad. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r rhan fwyaf o gontractau gwerthu a gwasanaethau, gan gynnwys teithio ar drên.  

Mae'r Rheoliadau yn rhoi hawliau iawndal i chi. Ni ellir gorfodi unrhyw ofyniad i dalu tâl ychwanegol gwaharddedig, neu'r rhan o dâl ychwanegol sy'n ormodol, gan y masnachwr. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu. Os ydych eisoes wedi talu'r gordal neu'r gormodedd, mae gennych hawl i gael ad-daliad.

Os oes gennych gwyn ynglyn â gordaliadau, dylid ei hadrodd i wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.

Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol

Mae'r hawliau sydd gennych pan fyddwch yn teithio ar wasanaethau trên rheolaidd ar y rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol wedi'u nodi yn Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol. Crynhoir rhai o'r amodau allweddol isod:

TOCYNNAU 

Rhaid bod gennych docyn dilys i deithio cyn i chi fynd ar drên. Os nad yw hyn yn bosibl, am resymau a nodir yn yr Amodau Teithio Rheilffyrdd Cenedlaethol, rhaid i chi brynu tocyn i gwblhau eich taith cyn gynted ag y gallwch. Er enghraifft, os na allwch brynu tocyn yn yr orsaf oherwydd nad yw'r swyddfa docynnau ar agor neu nad yw'r peiriant tocynnau hunanwasanaeth yn gweithio. Mae tocynnau ar gael o swyddfeydd tocynnau â staff, peiriannau tocynnau hunanwasanaeth, gan y cwmnïau trenau a gan fanwerthwyr trwyddedig ar-lein a dros y ffôn. Os nad oes gennych docyn dilys, efallai y byddwch yn atebol i dalu pris cosb neu godi tâl sengl ar unrhyw adeg heb ei ostwng ar orsaf a wasanaethir gan y trên yr ydych arno; fe allech chi gael eich erlyn hefyd.

Gall tocynnau bennu:

  • eu bod ond yn ddilys i'w defnyddio ar drenau cwmni penodol neu ar gyfer gwasanaeth trên penodol. Tynnir hyn i'ch sylw pan brynwch y tocyn
  • y cyfnod o amser y gallwch ddefnyddio'r tocyn
  • cyfyngiadau teithio
  • unrhyw gyfyngiadau sy'n eich atal rhag defnyddio cyfuniad o ddau docyn neu fwy i wneud taith
  • y llwybr y mae gennych yr hawl i'w gymryd
  • bod rhaid cynhyrchu cerdyn rheilffordd dilys (os prynwyd y tocynnau drwy ddefnyddio cerdyn rheilffordd)
  • bod rhaid cynhyrchu math penodol o huniaethiad (tocynnau tymor, tocynnau hunan-brint, tocynnau electronig, ac ati) wrth deithio. Gwneir hyn yn glir pan fyddwch yn prynu'ch tocyn

Gall plant o dan bump oed deithio am ddim gyda theithiwr yn dal tocyn dilys neu gyda awdurdod arall i deithio. Mae'n rhaid i blant rhwng pump a 15 oed deithio gyda thocyn dilys ond mae ganddynt hawl i gael disgownt ar y rhan fwyaf o docynnau.

Chewch chi ddim defnyddio cerbydau dosbarth cyntaf gyda thocyn dosbarth safonol oni bai bod staff cwmni trenau neu hysbysiadau ar y trên yn rhoi caniatâd penodol i chi. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu uwchraddio eich tocyn.

Os ydych am dorri eich taith, neu efallai gorffen y daith ar ddiwrnod gwahanol, mae'r rhan fwyaf o docynnau (ac eithrio tocynnau gellir eu prynu ymlaen llaw) yn caniatáu i chi wneud hynny. Gwiriwch am unrhyw gyfyngiadau teithio neu docynnau ymlaen llaw. 

Weithiau mae gwasanaethau amnewid rheilffyrdd-yn amnewid siwrne gyda bws neu goets-yn weithredol oherwydd gwaith peirianyddol. Dylech gael gwybod ar yr adeg y byddwch yn prynu'ch tocyn os bydd gwasanaeth amnewid rheilffyrdd ar waith i ganiatáu i chi benderfynu a ydych am deithio ai peidio. Os bydd gwasanaeth rheilffordd cyfnewid yn gweithredu ar fyr rybudd ac na allwch deithio ar y ffordd oherwydd eich bod methu a chludo eich bagiau, anifeiliaid, erthyglau neu feiciau, mae gennych hawl i wneud cais am ad-daliad ar eich tocyn.

EICH HAWL I GAEL AD-DALIAD

Os nad ydych wedi defnyddio'ch tocyn i wneud y daith gyfan neu dim on rhan o'ch taith am eich bod wedi penderfynu peidio â theithio, gallwch wneud cais am ad-daliad (neu ran-ad-daliad am y rhan o'r tocyn na defnyddiwyd) gan y cwmni trenau neu'r manwerthwr trwyddedig o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r tocyn ddod i ben. Dylech fod yn ymwybodol y gall telerau ac amodau rhai tocynnau, fel tocynnau ymlaen llaw, nodi na ellir ei ad-dalu. Gellir codi ffi weinyddol o hyd at £10 fesul tocyn a dylech dderbyn ad-daliad o fewn mis i'r dyddiad y derbyniwyd eich cais.

Os yw'r trên yn cael ei ganslo, ei oedi neu os nad yw eich archeb yn cael ei hanrhydeddu a'ch bod yn dewis peidio â theithio, gallwch ddychwelyd eich tocyn i gwmni'r trên neu fanwerthwr trwyddedig am ad-daliad; ni chodir ffi weinyddol. Mae'n rhaid i chi wneud eich cais o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad teithio gwreiddiol a dylech dderbyn eich ad-daliad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r cwmni trenau gytuno arno. Os wnaethoch chi brynu eich tocyn yn syth cyn teithio, dylech allu cael ad-daliad yn syth oddi wrth y swyddfa docynnau.

Os nad oes angen tocyn tymor arnoch mwyach, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am ad-daliad gan y cwmni trenau neu fanwerthwr trwyddedig. Fodd bynnag, rhaid i docynnau tymor saith niwrnod gael o leiaf tri diwrnod o ddilysrwydd yn weddill a rhaid i docynnau tymor sy'n ddilys am un mis neu fwy fod ag o leiaf saith diwrnod o ddilysrwydd ar ôl. Mae Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn nodi'r dull ar gyfer cyfrifo'r ad-daliad.

EICH HAWL I IAWNDAL AM OEDI

Os na allwch gwblhau eich taith oherwydd diddymiad, neu oedi gwasanaeth trên, gallwch hawlio arian yn ôl naill ai trwy drefniadau diwydiant fel y nodir yn Amodau Teithio Rheilffyrdd Cenedlaethol a Siarter Teithwyr y cwmni trenau neu trwy ddefnyddio'ch hawliau statudol, er enghraifft o dan Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015.

Ar gyfer hawliadau a wneir o dan drefniadau'r diwydiant, rhaid i chi ysgrifennu at y cwmni trenau cyn pen 28 diwrnod ar ôl gwneud y siwrnai. Dylai eich cais gael ei brosesu o fewn mis a thelir iawndal i chi cyn pen 14 diwrnod o'r dyddiad y cytunwyd arno gan y cwmni trenau.

Pan fydd oedi, canslo neu wasanaeth gwael yn digwydd mae gennych hawl i gael iawndal, cyn belled â fod y broblemau o fewn rheolaeth y cwmni trenau neu'r cwmni gwasanaeth rheilffordd. Nodir hyn yn Siarter i Deithwyr y cwmni trenau. Mae pob cwmni trenau yn pennu lefel yr iawndal y mae'n ei dalu, ond mae'r isafswm ar gyfer oedi o fwy na 60 munud wedi'i nodi isod:

Math o docyn

Swm yr iawndal

tocyn sengl neu tocyn dychwelyd gydag oediad ar y trip allan a'r daith yn ôl

50% o'r pris a dalwyd

tocyn dychwelyd (saib ar daith allan neu ddychwelyd)

50% o'r pris a dalwyd am y rhan o'r daith a ohiriwyd

tocyn tymor

gwirio'r trefniadau disgownt/iawndal yn SiarterTeithwyr y cwmni trenau

Gallwch ofyn am iawndal arian, y gellir ei dalu drwy siec, trosglwyddiad banc neu gerdyn credyd, neu i ddigolledu gael eu talu mewn talebau teithiau trên.

Os hoffech wneud hawliad yn erbyn cwmni trenau neu ddarparwr gwasanaeth rheilffordd am anaf personol neu unrhyw golled neu ddifrod i eiddo, neu unrhyw gwyn arall, ysgrifennwch atynt yn y lle cyntaf.  Os yw'r hawliad yn erbyn cwmni trên arall neu barti arall, bydd y cwmni trenau yr ydych wedi ysgrifennu ato yn anfon y manylion ymlaen. 

Os nad ydych yn fodlon ac yn dymuno mynd â'ch cwyn ymhellach, gallwch gysylltu â'r Ombwdsmon Rheilffyrdd.

TEITHWYR AG ANABLEDDAU

Os oes gennych anabledd neu os oes angen help ychwanegol arnoch, bydd y cwmni trenau yn rhoi cymorth penodol i chi ar gais, heb godi tâl ychwanegol. Gall hyn gynnwys defnyddio rampiau i gadeiriau olwyn ar gyfer mynd i mewn ac allan o drên. Mae Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol yn argymell y dylid rhoi rhybudd o 24 awr ymlaen llaw i'r cwmni trenau perthnasol os bydd angen cymorth, ond fe gynigir cymorth i chi hyd yn oed pan na wnaed unrhyw archeb o flaen llaw.

Siarter i Deithwyr y cwmni trenau

Rhaid i bob cwmni trenau gael siarter i deithwyr sy'n nodi eu hymrwymiadau i'w teithwyr. Gall cwmnïau trenau roi hawliau ychwanegol i chi i'r rhai y mae gennych hawl i'w disgwyl o dan Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol. Gallwch ddod o hyd i restr o gwmnïau trenau ar wefan National Rail Enquiries.

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau trenau yn gweithredu cynllun ' talu am oedi ' ac mae manylion i'w gweld yn eu Siarter i Deithwyr. Bydd rhai cwmnïau yn talu iawndal am oedi dros 30 munud ar lefel sy'n uwch na'r isafswm sy'n ofynnol o dan Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol beth bynnag fo achos yr oedi. 

Mae rhai cwmnïau trenau yn gweithredu cynllun ' iawndal cadw seddi '. Os byddwch yn cadw sedd ac nad yw ar gael ac nad oes modd dod o hyd i sedd arall ar y trên, yna mae'n bosibl y gallwch hawlio iawndal yn unol â Siarter i Deithwyr. Lle y bo'n bosibl, sicrhewch fod y giard trên yn cadarnhau eich bonyn yn y man cadw tocyn a sedd fel prawf.

Beth i'w wneud os oes gennych gwyn:

  • darllennwch Amodau Teithio'r Rheilffyrdd Cenedlaethol a Siarter i Deithwyr y cwmni trenau. Dylai'r Siarter i Deithwyr roi  manylion am sut i gwyno i'r cwmni trenau
  • cwynwch wrth y cwmni trenau a rhowch gyfle iddynt ymateb. Os byddwch yn cwyno dros y ffôn, anfonwch e-bost neu lythyr fel bod gennych dystiolaeth o'ch cwyn
  • rhowch esboniad llawn o'ch cwyn, gan gynnwys manylion y daith a faint wnaethoch chi ei dalu (anfonwch gopi o'ch tocyn), beth yw natur eich cwyn, beth yr hoffech i'r cwmni trenau ei wneud ac erbyn pryd
  • cadwch gopïau o negeseuon e-bost a llythyrau rydych yn eu hanfon a hefyd yr atebion a dderbyniwch. Gweler y canllaw ' Ysgrifennu llythyr cwyn effeithiol ' am fwy o wybodaeth

Nid yw fy nghwyn wedi ei ddatrys: Beth alla i ei wneud?

Os ydych wedi dod i gytundeb â'r cwmni trenau ac nad yw eich cwyn wedi'i datrys gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth; gallwch hefyd gysylltu â:

Ombwdsmon Rheilffyrdd

Ffôn: 0330 094 0362

Transport Focus
(ffurflen gwyn ar-lein ar gael
Ffôn: 0300 123 2350
www.transportfocus.org.uk

London TravelWatch
Ffôn: 020 3176 2999
Ebost: enquiries@londontravelwatch.org.uk
www.londontravelwatch.org.uk

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd
(ffurflen cyswllt ar-lein ar gael)

Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol
(adran cymorth ar-lein)
Ffôn: 03457 484950
www.nationalrail.co.uk

Deddfwriaeth allweddol 

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Rheoliadau Hawliau Defnyddwyr (Gordaliadau Talu) 2012

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Rheoliadau Gwasanaethau Talu 2017

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2020

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2021 itsa Ltd.