Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Yr arddangosfa unigol gyntaf erioed o waith William Roos yn Oriel Môn

Wedi'i bostio ar 29 Ionawr 2020

William Roos (1808-1878) oedd un o arlunwyr portreadau mwyaf llwyddiannus Cymru. Roedd yn adnabyddus am ei bortreadau o bobl enwog y bedwaredd ganrif ar bymtheg – byddai’n aml yn gwneud y gwaith o’r cof, ond roedd hefyd yn paentio tirluniau a gwaith comisiwn yn darlunio teuluoedd a hoff anifeiliaid. Dyma fydd y tro cyntaf i gymaint o baentiadau gan William Roos gael eu harddangos gyda’i gilydd – wedi eu dewis a’u dethol gan yr hanesydd celf, Peter Lord. Bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o 1 Chwefror i 5 Gorffennaf 2020 yn Oriel Môn, Llangefni, Ynys Môn.

Yn sgil derbyn cefnogaeth gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd â’r Art Fund, roedd modd benthyg a sicrhau cadwraeth o waith William Roos o gasgliadau cenedlaethol Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rhaglen Fenthyca Weston, a grëwyd gan Sefydliad Garfield Weston a’r Art Fund, yw’r cynllun ariannu cyntaf erioed ar draws y DU sy’n caniatáu i amgueddfeydd llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol fenthyg gweithiau celf ac arteffactau o gasgliadau cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Deilydd Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant y Sir; “Mae’n bwysig bod modd i weithiau o gasgliadau cenedlaethol sy’n berthnasol i Ynys Môn a Chymru gael eu harddangos mewn lleoliad tebyg i Oriel Môn. Bydd cael benthyg gwaith William Roos a’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at waith artist lleol a gyfrannodd cymaint i’n stori ni fel Cymry. Rydym yn ddiolchgar i Raglen Fenthyca Weston ar y cyd â’r Art Fund, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am ein cynorthwyo i wireddu hyn.”

Dywedodd Sophia Weston, Ymddiriedolwr Sefydliad Garfield Weston:

 “Mae hwn yn gyfle bendigedig i arddangos gwaith William Roos i gynulleidfa llawer ehangach. Rydym yn hynod o falch y bydd yr arddangosfa’n taflu goleuni newydd ar dalentau Roos ac yn cyflwyno ei waith i ymwelwyr nad ydynt o bosib yn gyfarwydd â’i baentiadau a’u harwyddocâd i ddiwylliant Cymru.”

Mae un o’r pedwar darlun sydd ar fenthyg gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn baentiad o John Jones, Talhaiarn, dan y teitl ‘The Bard in Mediation’ sy’n dyddio o thua 1850-1864. Roedd John Jones, Talhaiarn yn fardd enwog a gomisiynodd nifer o bortreadau ohono’i hun gan Roos. Roedd hefyd yn gyfaill iddo ac yn edmygu’i waith. Mae’r ‘Bardd yn Myfyrio’ yn bortread trawiadol o’r eisteddwr ond mae hefyd yn amlygu gwybodaeth Roos am draddodiad gweledol Cymreig - gan fod cyfeiriadau ynddo at ddelweddau cynharach o feirdd. Mae’r darlun o Margaret Thomas, Llangaffo yn un o 20 darn o waith fydd ar fenthyg gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n un o’i weithiau mwyaf gorffenedig ac yn enghraifft o’r teuluoedd amaethyddol cefnog yr oedd Roos yn derbyn comisiynau ganddynt wrth iddo deithio i chwilio am waith. Paentiodd lun o’i Gŵr Hugh a’i meibion.

Ochr yn ochr â gweithiau ar fenthyg o’r casgliadau cenedlaethol a gan unigolion preifat, bydd dau ychwanegiad newydd i gasgliad Oriel Môn. Ysgrifennodd Esther Roberts, Uwch Reolwr yn Oriel Môn, “Fel rhan o brosiect ehangach i dynnu sylw at athrylith William Roos, mae Oriel Môn wedi llwyddo i sicrhau dau baentiad gan William Roos ar gyfer y casgliad. Cyn hynny, nid oedd y casgliad yn cynnwys enghreifftiau o’i waith. Mae cefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi ein galluogi i brynu dau baentiad gan William Roos ar gyfer casgliad Oriel Môn ac i wneud gwaith cadwraeth arnynt, a bydd yn sicrhau y byddant yn cael eu harddangos yn yr arddangosfa newydd arloesol hon ac y gofelir amdanynt mewn casgliad cyhoeddus yn yr hir dymor.”

Dywedodd Stephen Barlow, Pennaeth Ymgysylltu Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Oriel Môn yn gallu ychwanegu at eu casgliad cyhoeddus trwy brynu a gwarchod dau baentiad gan yr arlunydd lleol, William Roos. Bydd Oriel Môn nawr yn arddangos ac yn dehongli gwaith William Roos i'r rhai sy'n ymweld ac yn byw yn Ynys Môn gan annog unigolion a grwpiau o'r gymuned i ddehongli ei fywyd a'i waith gan ddysgu mwy am hanes arlunydd lleol a oedd yn un o beintwyr portreadau mwyaf llwyddiannus Cymru”.

Wedi ei eni yn Amlwch, Ynys Môn, teithiodd William Roos yn eang i ennill ei fara menyn – ar draws Cymru, Lerpwl a Llundain ac mae ei waith yn un o’r esiamplau mwyaf cadarn o arferion paentio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrydain. Er nad yw nifer o bobl yn ymwybodol o arwyddocâd William Roos heddiw, bydd yr arddangosfa unigol hon, y cyntaf o’i math, yn cynnig cyfle i ddysgu ac i gael ysbrydoliaeth o’i gyfraniad i hanes celf Cymru. Bydd yr arddangosfa hon, y gyntaf erioed i ddwyn ynghyd gymaint o weithiau gan William Roos, yn ysbrydoledig. Cynhelir yr arddangosfa o 1 Chwefror tan 5 Gorffennaf 2020 ac mae mynediad am ddim. Mae Oriel Môn ar agor bob dydd, rhwng 10am a 5pm.

Bydd copïau wedi’u llofnodi o lyfr newydd Peter Lord, ‘William Roos a’r Bywyd Crwydrol’, a gyhoeddwyd gan Oriel Môn, 2020 ar gael. Mae Ymddiriedolaeth Oriel Môn wedi cefnogi’r cyhoeddiad.

Cynhelir nifer o weithdai cymunedol a gweithdai ar gyfer ysgolion yn ogystal â digwyddiadau i’r cyhoedd eu mwynhau, gan gynnwys darlithoedd, digwyddiad i rannu gwybodaeth a delweddau yn ymwneud â Roos yn ogystal â sesiynau arlunio portreadau.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Oriel Môn

Mae Oriel Môn yn newid bywydau drwy ofalu am, dehongli a hyrwyddo treftadaeth a diwylliant unigryw Ynys Môn. Mae’n ceisio ysbrydoli creadigrwydd a darparu cyfleoedd dysgu a mwynhad i bawb. Ei nod yw bod yn sefydliad sydd yn:

  1. Denu ymwelwyr gyda chasgliadau ac arddangosfeydd ysbrydoledig ar stepen y drws
  2. Creu atyniad blaenllaw sy’n diffinio’r ynys a’i phobl
  3. Cynnig lleoliad cymdeithasol ar y cyd gyda chyfleoedd cyffroes i gymryd rhan
  4. Datblygu canolfan ragoriaeth wydn, gynaliadwy ac arloesol.

Agorwyd Oriel Môn yn 1990 fel cartref i gasgliadau Charles Tunnicliffe ac wedi hynny mae wedi datblygu i fod yn ased cyhoeddus sylweddol i Gyngor Môn sy’n cynnwys casgliad mawr o weithiau Kyffin Williams, casgliadau celf ac arteffactau hanesyddol sy’n cyflwyno stori Ynys Môn a Chymru i bobl leol ac ymwelwyr. Mae Oriel Môn yn croesawu rhwng 80-90,000 o ymwelwyr i’w arddangosfeydd a’i digwyddiadau bob blwyddyn. Mae Oriel Môn hefyd yn gweithio gyda nifer o grwpiau addysgol a chymunedol. Mae Oriel Môn yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac yn cynhyrchu incwm hefyd drwy werthu gwaith celf a nwyddau yn ein siop. 

Sefydliad Garfield Weston

Mae Sefydliad Garfield Weston, a sefydlwyd 60 mlynedd yn ôl, yn sefydliad teuluol sydd yn rhannu grantiau sy’n cefnogi achosion ar draws y DU ac maent yn rhannu tua £70miliwn o grantiau bob blwyddyn. Ers ei sefydlu, mae wedi rhoi dros £1 biliwn i elusennau.

Dyma un o’r sefydliadau elusennol uchaf ei barch yn y DU, ac mae Ymddiriedolwyr y Teulu Weston yn ddisgynyddion i’r sefydlydd ac maent yn chwarae rôl hynod o weithgar ac ymarferol. Daw arian y Sefydliad o waddol o gyfranddaliadau ym musnes y teulu sy’n cynnwys Twinings, Primark, Kingsmill (sydd oll yn rhan o Associated British Foods Plc) a Fortnum & Mason, ymgysg eraill – model lwyddiannus sy’n parhau hyd heddiw; ac wrth i’r busnesau dyfu, felly hefyd y rhoddion elusennol.

O sefydliadau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr, mae’r sefydliad yn cefnogi ystod eang o elusennau a gweithgareddau sy’n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Mae dros 1,800 o elusennau ar draws y DU yn elwa o grantiau’r Sefydliad bob blwyddyn. 

Art Fund

Art Fund yw’r elusen codi arian genedlaethol ar gyfer celf. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Art Fund wedi rhoi £34 miliwn i helpu amgueddfeydd ac orielau sicrhau gweithiau celf ar gyfer eu casgliadau. Mae Art Fund yn cael ei ariannu’n annibynnol ac mae ei incwm craidd yn cael ei ddarparu gan ei 151,000 o aelodau sy’n derbyn y Tocyn Celf Cenedlaethol ac yn cael mynediad am ddim i dros 240 o amgueddfeydd, orielau a lleoedd hanesyddol ar draws y DU, yn ogystal â 50% o ostyngiad ar bris mynediad i brif arddangosfeydd a thanysgrifiad i’r cylchgrawn Art Quarterly. Yn ogystal â rhoi grantiau, mae cefnogaeth Art Fund i amgueddfeydd yn cynnwys gwobr Amgueddfa'r Flwyddyn yr Art Fund (a enillwyd gan Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ger Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019) a nifer o lwyfannau digidol. www.artfund.org 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

Gan ddefnyddio arian a godwyd gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau i dreftadaeth y DU er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, yn awr ac yn y dyfodol. https://www.heritagefund.org.uk/cy

Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLotteryHeritageFund 

Ymddiriedolaeth Oriel Môn Trust

Mae Ymddiriedolaeth Oriel Môn Trust yn elusen gofrestredig a sefydlwyd yn 2020 i hyrwyddo’r celfyddydau, diwylliant, treftadaeth ac addysg er budd y cyhoedd, yn benodol, ond heb ei gyfyngu i, hyrwyddo gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o hanes, diwylliant a chelfyddydau gweledol Ynys Môn drwy gasgliadau, arddangosfeydd a gweithgareddau Oriel Môn.


Wedi'i bostio ar 29 Ionawr 2020