Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynys Môn yn falch o gefnogi’r strategaeth olrhain cysylltiadau hanfodol

Wedi'i bostio ar 28 Mai 2020

Mae Ynys Môn yn falch o chwarae ei ran wrth gefnogi strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.

Bydd Profi, Olrhain, Diogelu yn cyflwyno mesurau goruchwylio iechyd drwy olrhain cysylltiadau ar draws Cymru mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws ac yn darparu modd o allu ymlacio rhai o’r cyfyngiadau ar symudiadau yn y dyfodol.

Bydd y strategaeth yn cynnwys gofyn i bobl roi gwybod am symptomau, profi unrhyw un yn y gymuned sy’n dangos symptomau o’r feirws ac olrhain y rhai hynny maent wedi dod i gysylltiad agos â nhw.

Ddydd Mawrth (Mai 26) Cyngor Ynys Môn oedd yr awdurdod lleol diweddaraf i ymuno â’r cynllun peilot cyn i’r cynllun Profi, Olrhain, Diogelu gael ei lansio gan Lywodraeth Cymru dydd Llun, Mehefin 1af. 

Bydd Ynys Môn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd ei gynllun peilot olrhain cysylltiadau yn canolbwyntio’n bennaf ar staff y Cyngor, yn enwedig y rhai hynny sy’n gweithio yn y maes gofal ac sy’n profi’n bositif am Coronafeirws. Bydd staff yn cael eu cyfeirio at y broses olrhain cysylltiadau yn dilyn profion mewnol.

Mae cynlluniau peilot eraill hefyd wedi gweld byrddau iechyd Hywel Dda, Powys a Chwm Taf Morgannwg yn cydweithio ag awdurdodau lleol ers 18 Mai.

Eglurodd Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydym wedi adleoli nifer o staff i ymgymryd â’r broses olrhain cysylltiadau ac er mwyn cysylltu â chydweithwyr sy’n profi’n bositif am y Coronafeirws. Bydd eu gwaith, a’r gwaith a wneir mewn ardaloedd peilot eraill, yn hanfodol er mwyn creu strategaeth genedlaethol ac yn y pen draw, helpu tuag at lacio rhai o’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar hyn o bryd.”

Ychwanegodd, “Rydym yn falch o fod yn rhan o’r cynllun peilot pwysig hwn a’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu cenedlaethol a fydd yn helpu i achub bywydau. Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, ein cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid awdurdod lleol am eu harweiniad a’u cefnogaeth yn ystod y broses beilot – hoffwn hefyd, yn fwy na dim, ddiolch i’n staff sy’n gweithio’n ddiddiwedd i gyflawni’r gwaith peilot hwn ar Ynys Môn.”

Mae olrhain cysylltiadau yn ddull iechyd cyhoeddus sydd wedi hen sefydlu ei hun fel dull effeithiol o reoli heintiau ac mae wedi profi’n effeithiol wrth reoli coronafeirws mewn gwledydd eraill. Bydd y rhai hynny a gysylltir â nhw yn cael eu cynghori i hunanynysu er mwyn stopio lledaeniad y feirws ymysg teulu, ffrindiau a’r gymuned.

Ychwanegodd Prif Weithredwr y Cyngor Sir, Annwen Morgan, “Mae'r ffrwd gwaith Profi, Olrhain, Diogelu  yn flaenoriaeth i'r Cyngor Sir. Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn ein galluogi ni i gyfrannu tuag at yr ymdrech genedlaethol i ddiogelu iechyd a lles pobl Cymru yn ogytsal a'n trigolion ni yma yn Mon."

Bydd dull Llywodraeth Cymru yn dod ag arbenigedd gwahanol fyrddau iechyd ar olrhain cysylltiadau at ei gilydd ac yn defnyddio awdurdodau lleol i gyflawni ei strategaeth ar y llawr.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, “Mae holl aelodau’r bwrdd iechyd a’r awdurdodau lleol wedi ymateb gyda phenderfynoldeb ac ymrwymiad i weithredu’r cynllun olrhain sydd wedi’i osod allan gyda Phrofi, Olrhain, Diogelu. Y realiti yw y bydd y strategaeth ond yn gweithio os yr ydym yn gwneud defnydd llawn o’r wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd sydd eisoes yn bodoli ac rwy’n ddiolchgar i Gyngor Sir Ynys Môn am y rôl allweddol maent yn ei chwarae er mwyn gwneud y peilot hwn yn llwyddiant.”

Diwedd 28.5.20


Wedi'i bostio ar 28 Mai 2020