Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynys Môn yn cau mannau ymwelwyr i atgyfnerthu’r neges am aros gartref

Wedi'i bostio ar 22 Mawrth 2020

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Môn yn cau rhai parciau a gwarchodfeydd natur i atal lledaeniad y Coronafeirws.

O'r prynhawn yma, bydd y ffordd i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn cau i bob ymwelydd newydd a bydd y maes parcio yn cael ei glirio'n raddol.

O yfory, bydd maes parcio GNG Niwbwrch, yn ogystal â Pharc Gwledig Morglawdd Caergybi, Gwarchodfa Natur Leol Nant y Pandy, yn Llangefni, Pier Biwmares a Phier St Sior ym Mhorthaethwy ar gau i ymwelwyr. Bydd y meysydd parcio ymwelwyr poblogaidd ym Menllech, Bae Trearddur, Porthdafarch a Phorth Swtan yn cau hefyd.

Dywedodd deilydd portffolio Datblygu’r Economi ar gyfer Môn, y Cynghorydd Carwyn Jones: "Mae'r rhain yn fesurau anodd ond mae'n hanfodol ein bod yn eu cymryd. Mae'n rhaid i ni weithredu a rhwystro ymwelwyr rhag dod i'r Ynys ar unwaith. Rwyf hefyd yn annog twristiaeth a darparwyr lletygarwch lleol i gau eu safleoedd er mwyn atal coronafeirws a helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd. "

"Bydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn rhoi straen ychwanegol enfawr ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys yr ysbytai lleol a'r GIG ehangach."

Ychwanegodd Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau CNC yng ngogledd orllewin Cymru, "Er ein bod yn gwybod y bydd pobl am dreulio amser yn yr awyr agored dros yr wythnosau nesaf, rydym yn gofyn i bobl ddilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymbellhau cymdeithasol.

"Ein cyngor ni yw gofalu amdanoch eich hun ac ymlacio a phan fo'n bosibl cadw'n iach drwy fwynhau mannau lleol yn agos at eich cartref.

"Nid oedd pobl yn dilyn y canllawiau hyn yn Niwbwrch  ac felly roedd yn rhaid i ni gymeryd y mesur llym o gau er mwyn amddiffyn y gymuned leol."

Bydd Ynys Môn yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl i'r rhan hardd hon o'r wlad wedi i'r sefyllfa wella.

Diwedd 22.3.20


Wedi'i bostio ar 22 Mawrth 2020