Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Ynys Môn wedi ymrwymo i gefnogi gwirfoddolwyr sy’n helpu pobl fregus yr Ynys

Wedi'i bostio ar 17 Mawrth 2020

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Menter Môn wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi’r rhai mwyaf bregus ar yr Ynys yn ystod cyfnod y Coronafeirws. 

Bu Uwch Swyddogion y sefydliadau gyfarfod ddoe (dydd Llun, 16 Mawrth) gan gytuno i gymryd camau ar y cyd a fydd yn darparu cymorth ac arweiniad i grwpiau gwirfoddol sydd eisiau helpu’r rhai hynny sydd mewn angen ac a fydd yn gorfod hunan-ynysu.

Meddai Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Mrs Annwen Morgan, “Mae hwn yn amser critigol i bawb ac mae’n bwysig bod pobl a chymunedau yn gofalu am ei gilydd. Gyda phobl dros 70 oed a’r rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd cronig yn cael eu cynghori i hunan-ynysu am gyfnodau hir, rydym wedi cymryd mesurau arbennig ar y cyd â’n partneriaid er mwyn helpu’r rhai hynny a fydd mewn angen.”

“Mae dau achos eisoes wedi eu cadarnhau ar yr Ynys ac rydym yn gwbl ymwybodol fod trigolion yn bryderus. Fel Awdurdod, rydym yn gwneud popeth posibl i sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, rydym yn debygol o wynebu heriau ychwanegol sylweddol dros y misoedd nesaf a byddwn yn ceisio cymorth ein Cynghorau Tref a Chymuned ynghyd a’n cymunedau yn ystod y cyfnod hwn.”

Bydd y Cyngor Sir, mewn partneriaeth â Medrwn Môn a Menter Môn yn cydweithio â chymunedau lleol a gwirfoddolwr er mwyn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i’r rhai mwyaf bregus, adnabod pa gymorth cymunedol sydd eisoes ar gael a mapio’r galw posibl y mae’r Ynys yn ei hwynebu. 

Nod hyn fydd creu canllaw ar gyfer unrhyw unigolyn/gwirfoddolwr, grŵp cymunedol neu Gyngor Tref a Chymuned a hoffai ddarparu cymorth yn ystod y cyfnod hwn ynghyd â chynnig arweiniad i’r rhai hynny sy’n dymuno helpu, gosod targedau realistig ac amlinellu mesurau rhagofalus a fydd yn diogelu pawb perthnasol.

Mae’r Cyngor Sir yn dilyn cyngor a chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cymryd camau rheolaidd mewn ymateb i’r newidiadau dyddiol. Mae’r Deyrnas Unedig bellach wedi symud i’r cyfnod ‘oedi’ er mwyn ceisio rheoli lledaeniad yr haint gan annog pobl i olchi eu dwylo yn fwy aml ac i unrhyw un sydd â gwres neu sy’n tagu o’r newydd aros adref am 14 diwrnod.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, “Ar adeg fel hyn mae’n bwysig fod Menter Môn yn ymateb i’r argyfwng sydd yn gwynebu yr Ynys.  Mae gennym staff, sgiliau ac adnoddau a byddwn yn cydweithio gyda eraill i sicrhau fod rhain yn cael ei rhoi ar waith er budd ein cymunedau.”  

Ychwanegodd Annwen, “Rydym yn cynghori pawb i fod yn ofalus. Ein nod rŵan yw sicrhau bod cefnogaeth ar gael ar gyfer y rhai mwyaf bregus ar yr Ynys. Mae gwytnwch cymunedol yn hanfodol ac mae gan bawb rôl i’w chwarae er mwyn amddiffyn ei gilydd. Ein nod yw sicrhau ein bod yn darparu ein cymunedau â’r cyfarpar cywir a fydd yn eu galluogi nhw i helpu’r rhai hynny sydd mewn angen.”

“Bydd y cynlluniau cefnogi cymunedau yn barod cyn gynted â phosib er mwyn galluogi cymunedau i ddarparu cymorth mewn modd cyson ledled yr Ynys. Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb a hoffwn ddiolch i’r grwpiau cymunedol hynny, megis y rhai hynny yn Amlwch, Cemaes, Porthaethwy, Caergybi a Llanfairpwll sydd eisoes wedi eu sefydlu er mwyn cynorthwyo eu cymunedau.”

“Mae llawer mwy a fydd yn gallu helpu mewn gwahanol ffyrdd ac rwy’n eich annog i gysylltu â Linc Cymunedol Môn a fydd yn eich cyfeirio at y cyswllt priodol yn eich cymuned.”

Os hoffech chi neu grŵp cymunedol neu Gyngor Tref a Chymuned fwy o wybodaeth dylech gysylltu drwy ffonio 01248 725745, 01248 724944 neu 01248 725700 neu gallwch anfon e-bost at   linc@medrwnmon.org.

DIWEDD: 17.03.2020


Wedi'i bostio ar 17 Mawrth 2020