Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Y Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol yma i helpu

Wedi'i bostio ar 8 Mehefin 2020

Mae Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol Ynys Môn wrth law i helpu trigolion os ydynt yn profi anawsterau ariannol o ganlyniad i’r Coronafeirws.

Mae’r galw am ein Gwasanaethau Cynhwysiant Ariannol wedi bod yn uchel iawn o ganlyniad i’r argyfwng.

Mae’r tîm yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol ar amrywiaeth o wahanol faterion.  

Mae Swyddogion y Cyngor, sydd ar hyn o bryd wedi eu lleoli adref, yn defnyddio technoleg arloesol er mwyn sefydlu perthynas waith gyda’r rhai hynny maent yn eu cefnogi.

Gall y Tîm Cynhwysiant Digidol helpu efo:

  • Cael mynediad i wybodaeth am filiau a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i’ch helpu chi dalu eich biliau dŵr/nwy a thrydan; yn cynnwys cael mynediad i gredyd ar gyfer mesuryddion talu ymlaen llaw i’r rhai hynny sy’n gorfod hunan-ynysu ac nad ydynt yn gallu cael mynediad i bwynt talu.
  • Mynediad i fanciau bwyd os nad oed gan rywun unrhyw incwm/arian wrth gefn i brynu bwyd.
  • Cyngor ar gyllidebu o ganlyniad i newidiadau mewn incwm yn dilyn colli eich swydd neu gael eich rhoi ar furlough.
  • Adrodd ar unrhyw newidiadau i Gredyd Cynhwysol yn y llyfryn neu wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein.

Mae’r tîm hefyd yn parhau â’r gwaith o ddydd i ddydd, sy’n cynnwys cynnig cyngor ar gael mynediad i gyfrifon banc, trafod opsiynau tai megis symud i rywle llai er mwyn cael llety mwy fforddiadwy. Gall y Tîm hefyd helpu gyda chyngor ar ddyledion a datblygu hyder ariannol a galluoedd - beth bynnag yw sefyllfa’r unigolyn.

Yn ychwanegol, at hynny, os ydych yn denant gyda’r Cyngor ac eich bod yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent, cysylltwch â’ch Swyddog Rheoli Tai drwy ffonio 01248 752200 i drafod eich pryderon.

Gall Swyddogion eich cynghori ar y ffordd orau i ddelio â’ch sefyllfa, boed hynny er mwyn gwneud trefniant, trafod sut i gael y gorau o’ch incwm, cynghori ar sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, Budd-dal Tai, Taliad Disgreswinm Tai neu eich cyfeirio at asiantaeth arbenigol megis Canolfan JE O’Toole neu Cyngor Ar Bopeth.

Meddai’r Aelod Portffolio Tai a Chymuned, y Cynghorydd Alun Mummery: “Mae ein tîm yn gweithio’n galed er mwyn gallu cynnig cymorth ac arweiniad i drigolion Ynys Môn. Dwi’n falch iawn o ymdrechion ein staff sy’n gweithio’n hynod o galed wrth iddynt ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn ar gyfer cynifer o bobl ar yr Ynys.” 

Ychwanegodd “Os oes angen cyngor arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhwysiant Ariannol. Maen nhw yma i’ch helpu chi”.

Er mwyn cael mynediad i gymorth ffoniwch y Tîm Cynhwysiant Ariannol a Digidol ar 01248 752200 neu gallwch anfon neges e-bost at Financialinclusion@ynysmon.llyw.cymru

Diwedd 05.06.2020.

LLUN: Katie Jones, Swyddog Cynhwysiant Ariannol.


Wedi'i bostio ar 8 Mehefin 2020