Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Tafarndai yn derbyn Hysbysiadau Gwella Covid-19 er mwyn amddiffyn staff, cwsmeriaid a chymunedau

Wedi'i bostio ar 23 Hydref 2020

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi rhoi Hysbysiadau Gwella o dan reoliadau Covid-19 i dri eiddo trwyddedig ar ôl iddyn nhw dorri rheolau diogelwch.

Daeth yr Hysbysiadau Gwella ar ôl i wiriadau a gynhaliwyd gan Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd a Heddlu Gogledd Cymru.

Y mannau sydd wedi derbyn Hysbysiadau Gwella yw:

  • Bulkeley Arms, Porthaethwy
  • Gwesty’r Bull, Y Fali
  • Y Chester Inn, Caergybi

Byddent nawr yn cael eu monitro er mwyn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle. Bydd methu â gwneud hyn yn golygu y bydd y Cyngor Sir yn rhoi Rhybudd Cau Eiddo i’r mannau trwyddedig hynny.

Dywedodd Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Les Pursglove: “Mae mwyafrif y mannau lletygarwch ar Ynys Môn yn gweithio’n ofnadwy o galed er mwyn cadw cwsmeriaid yn ddiogel a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau Covid-19.”

“Yn anffodus, mae’r mannau a restrir uchod wedi anwybyddu rhybudd blaenorol a roddwyd iddynt gan olygu eu bod bellach wedi derbyn Hysbysiad Gwella.

Ychwanegodd, “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau ac mae ein swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad os oes angen.”

Mae Tîm Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor bellach yn cydweithio â deiliaid trwydded er mwyn eu cefnogi i wneud gwelliannau a chadw pawb yn ddiogel.

Gallai eiddo sy’n methu â gweithredu mesurau diogelwch Covid-19 pan fyddant yn ail agor yn dilyn y cyfnod clo byr wynebu camau pellach megis derbyn Rhybudd i Gau.

Eglurodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn o Heddlu Gogledd Cymru: “Byddwn yn parhau i gynnal ymweliadau ar y cyd â Swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn er mwyn sicrhau bod pob eiddo trwyddedig yn dilyn y rheolau a rheoliadau Coronafeirws.”

Ychwanegodd, “Mae’n bwysig cofio bod busnesau yn chwarae rôl hanfodol o ran helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Gellir dod o hyd i’r rheoliadau Coronafeirws a cwestiynnau a ofynnir yn aml yma:

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau

Diwedd 23.10.20


Wedi'i bostio ar 23 Hydref 2020