Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyflwyno Hysbysiad Gwella o dan y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) ar ôl i dafarn leol dorri rheolau diogelwch.
Daeth yr Hysbysiad Gwella ar ôl i wiriadau a gynhaliwyd gan Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd a Heddlu Gogledd Cymru mewn nifer o dafarndai ar ddiwrnod gem gyntaf tîm Cymru yn erbyn Y Swistir yng nghystadleuaeth pêl-droed Ewro 2020 (Dydd Sadwrn 12 Mehefin).
Canfu archwiliad ar y cyd fod nifer o reolau wedi cael eu torri yn Nhafarn Tŷ Gwyn, Llanfairpwll, a oedd wedi methu â chymryd camau digonol i leihau’r risg bod cwsmeriaid a staff ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws ar y safle.
Roedd achosion o dorri’r rheolau yn cynnwys methu â
- chasglu gwybodaeth tracio ac olrhain digonol
- cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw at ofynion cadw pellter cymdeithasol
- cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod cwsmeriaid yn eistedd pan oeddent yn bwyta neu’n yfed a chaniatáu iddynt archebu wrth y bar a gweini wrth y bar
- cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod cwsmeriaid yn gwisgo gorchuddion wyneb pan oeddent du mewn i’r adeilad (ac eithrio pan oeddent yn eistedd wrth fwrdd)
- cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod mynediad i’r safle yn cael ei reoli
- darparu cyfleusterau golchi dwylo digonol yn y toiledau i gwsmeriaid
Dywedodd Prif Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Les Pursglove, “Mae mwyafrif y mannau lletygarwch ar Ynys Môn yn gweithio’n ofnadwy o galed er mwyn cadw cwsmeriaid, staff a chymunedau yn ddiogel drwy sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau Covid-19.
“Yn anffodus, nid oedd y dafarn yma wedi cadw at y rheoliadau, a golygai hyn fod rhaid i ni gyflwyno’r Hysbysiad Gwella yma. Bydd y dafarn nawr yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi yn eu lle.”
Ychwanegodd, “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i fusnesau ac mae ein swyddogion wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad os oes angen. Byddwn yn parhau i gydweithio â deiliaid trwydded er mwyn eu cefnogi i wneud gwelliannau a chadw pawb yn ddiogel.”
Gallai eiddo sy’n methu â gweithredu mesurau diogelwch Covid-19 wynebu camau pellach, gan gynnwys derbyn Rhybudd i Gau.
Gellir dod o hyd i gefnogaeth ac arweiniad i gyflogwyr yma: https://llyw.cymru/busnesau-a-chyflogwyr-coronafeirws
Diwedd 18.6.21