Cynhaliwyd seremoni swyddogol yn gynharach heddiw er mwyn cyhoeddi dechrau’r gwaith o adeiladu Ysgol Corn Hir yn Llangefni (dydd Gwener, 11 Mehefin).
Ymunodd disgyblion, Llywodraethwyr a Phennaeth Ysgol Corn Hir â chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn ac Wynne Construction er mwyn nodi’n swyddogol y bydd y gwaith yn dechrau ar adeiladu ysgol newydd ddiweddaraf Ynys Môn.
Bydd cost yr ysgol newydd oddeutu £10m; gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ynys Môn a Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg: “Rydw i’n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar Ysgol Corn Hir ac yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect o ysgol newydd ar gyfer ardal Llangefni drwy ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.
“Nod y rhaglen yw creu mannau dysgu ar gyfer cymunedau a bydd y prosiect hwn yn siŵr o ddarparu ar gyfer dysgwyr a’r gymuned yma yn Ynys Môn.”
“Rydym yn dymuno rhoi’r amgylchedd orau i’n dysgwyr allu dysgu a bydd yr ysgol hon yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni. Edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn datblygu.”
Dechreuodd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn yn 2012. Ei nod yw creu’r amgylchedd addysgol gorau posibl ar gyfer penaethiaid, athrawon a phlant er mwyn iddynt allu llwyddo a hynny gan hyrwyddo safonau uchel.
Dywedodd Deilydd Portffolio Addysg Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones, “Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar adeiladu’r Ysgol Corn Hir newydd.”
Ychwanegodd, “Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn ased go iawn i’r ardal, y teuluoedd sy’n ei ddefnyddio a’r gymuned ehangach. Bydd yr ysgol newydd yn darparu ein plant â’r cyfle gorau i allu cyflawni eu llawn botensial.”
Hyd yma, mae tair ysgol 21ain ganrif wedi eu hadeiladu a’u hagor ym Môn a hynny yng Nghaergybi, Llanfaethlu a Niwbwrch – buddsoddiad o £22m mewn Addysg ar yr Ynys.
Eglurodd Pennaeth Ysgol Corn Hir, Mr Rhys Roberts: “Rydym ni gyd – yn blant, rhieni, llywodraethwyr a staff wrth ein boddau bod yr ysgol yn cael adeilad newydd a bod y gwaith adeiladu wedi dechrau. Mae’n gyfnod cyffrous yn hanes yr ysgol.”
“Bydd adeilad newydd, modern ac addas i bwrpas yn sicrhau’r cyfleusterau a’r amgylchedd gorau ar gyfer ein plant. Gallwn rŵan adeiladu ymhellach ar ein cynlluniau cyffrous ar gyfer dyfodiad y cwricwlwm newydd. Rydym yn hynod o ddiolchgar fod y Cyngor – y swyddogion a’r aelodau etholedig wedi gweithio mor galed i sicrhau ysgol fydd yn gwasanaethu’r ardal am sawl cenhedlaeth i ddod.”
Penodwyd Wynne Construction fel y Contractwr Dylunio ac Adeiladu ac fe ddylai’r ysgol newydd – sydd wedi’i lleoli dros y ffordd i stad Bryn Meurig ar ffordd y B5109 – fod yn barod erbyn Chwefror 2023.
Dywedodd Chris Wynne, Rheolwr Gyfarwyddwr Wynne Construction: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio â Chyngor Sir Ynys Môn unwaith eto a hynny ar y cynllun mawreddog hwn yn Llangefni. Fel bob amser, drwy gydol y gwaith o adeiladu’r ysgol newydd byddwn yn edrych i adael etifeddiaeth a fydd yn para a hynny drwy gyfleoedd am swyddi a hyfforddiant yn lleol, gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi leol ac ymgysylltu â’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol.
“Mae darparu cyfleuster addysg ar gyfer cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif lle gall plant ifanc ddysgu a datblygu mewn amgylchedd a fydd yn eu hysgogi yn hanfodol ac mae’n atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu etifeddiaeth ar gyfer Ynys Môn yn ei chyfanrwydd. Edrychwn ymlaen at gael cychwyn ar y prosiect.”
Am fwy o wybodaeth ac er mwyn dilyn y datblygiadau diweddaraf, cliciwch ar y ddolen isod: https://www.facebook.com/ysgolionmonschools
Diweddd 11.6.21