Mae’r Cyngor Sir yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod cyfnod y Coronafeirws.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yn ystod y cyfnod heriol hwn ar gael ar wefan y Cyngor Sir, www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws, a bydd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol i sicrhau bod trigolion Môn yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Ar ben hyn bydd y Cyngor Sir yn:
- Paratoi bwletinau rheolaidd ar gyfer gorsaf radio leol MônFM
- Ac yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth bwysig ar ein cyfryngau cymdeithasol- Facebook, Twitter ac Instagram
Mewn ymateb i’r Coronafeirws, mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cymryd camau i addasu’r system ffôn bresennol er mwyn delio â’r galw am wasanaethau hanfodol.
Y rhif presennol fydd yn parhau i fod y rhif cyswllt yw, 01248 750057, a bydd y system newydd yn cynnwys dewislen argyfwng yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Cynghorir aelodau o’r cyhoedd i ymweld â gwefan y Cyngor Sir yn y lle cyntaf ar gyfer gwybodaeth, www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws. Er hynny, os nad yw’r ateb i’r ymholiad ar gael ar-lein, gall y cyhoedd bellach ddefnyddio’r ddewislen argyfwng newydd ar y system ffôn.
Bydd gan y ddewislen newydd deg opsiwn:
- Cymorth cyllid busnesau
- Gwasanaethau Oedolion
- Gwasanaethau Plant (gan gynnwys Teulu Môn)
- Mynediad i’r system gymorth leol
- Canolfannau gofal ysgolion
- Treth Cyngor a Refeniw
- Gwastraff ac Ailgylchu
- Budd-dal a gostyngiad Treth Cyngor
- Llythyr Cysgodi
- Pob ymholiad arall
Eglurodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan, “Nod y ddewislen argyfwng fydd sicrhau bod pawb a effeithir gan y Coronafeirws yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth perthnasol cyn gynted â phosibl. Mae staff eisoes wedi eu hadleoli er mwyn sicrhau bod nifer helaeth ohonynt ar gael i ateb galwadau cyn gynted â phosibl.”
“Mae’r Cyngor Sir yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyhoedd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y Coronafeirws.”
Cofiwch ddilyn y canllawiau diweddaraf a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraethau’r DU a Chymru.
Arhoswch Adref, Cadwch yn Ddiogel, Achubwch Fywydau.
DIWEDD: 01.04.2020