Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Pyllau nofio Ynys Môn y cyntaf yng Nghymru i ennill gwobr safon

Wedi'i bostio ar 11 Ionawr 2022

Gall nofwyr sy’n defnyddio unrhyw un o dri phwll nofio Ynys Môn fod yn hyderus eu bod yn nofio mewn pwll sy’n cyrraedd y safonau ansawdd gorau.

Mae pyllau nofio’r Cyngor Sir yn Amlwch, Caergybi a Llangefni y cyntaf yng Nghymru i ennill y Safon PoolMark - Safon Genedlaethol y DU ar gyfer gweithredu pyllau iach.

Y Grŵp Ymgynghorol ar Drin Dŵr Pwll (PWTAG - The Pool Water Treatment Advisory Group) - yw’r awdurdod arweiniol ar redeg pyllau nofio, trin dŵr a gwybodaeth dechnegol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Fe wnaeth Mike Shuff, aseswr a hyfforddwr sydd wedi ei gymeradwyo gan PWTAG, ymweld â Chanolfan Hamdden Amlwch yn ddiweddar i gyflwyno gwobr Ynys Môn.

Eglurodd Mike, “PoolMark yw Safon Genedlaethol y DU ar gyfer pyllau nofio iach ac o ansawdd. Mae’n rhoi sicrwydd i weithredwyr ac aelodau o’r cyhoedd fod y pyllau nofion hyn yn cwrdd â’r safonau gweithredu uchaf.”

“Pyllau nofio Ynys Môn yw’r cyntaf yng Nghymru i gwrdd â’r safon hon. Mae’n gyflawniad wirioneddol arwyddocaol i’r ynys!”

Ychwanegodd, “Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda staff hamdden Ynys Môn yn ystod y misoedd diwethaf. Mi wnaeth y cyfyngiadau a’r cyfnodau clo a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 yn sicr wneud y broses gydymffurfio yn anodd, ond mae’r tair Canolfan Hamdden wedi gweithio’n galed i sicrhau’r safonau uchaf o weithrediad technegol ar gyfer eu pyllau nofio.”

Mae Cod Ymarfer PWTAG yn sicrhau bod gweithrediad technegol y pwll yn cwrdd â safonau ansawdd sy’n darparu profiad iach ar gyfer nofwyr gan ddefnyddio arferion, technegau, peirianneg a dylunio cydnabyddedig a sefydledig.

Mae Rheolwr Cyfleusterau Hamdden Ynys Môn, Mair Eluned, a’i thîm o Reolwyr Dyletswydd Canolfan Hamdden, wedi gweithio’n agos gyda Mike i sicrhau bod ymwelwyr yn gallu defnyddio pyllau nofio sy’n cyrraedd y safonau ansawdd uchaf.

Dywedodd y deilydd portffolio ar gyfer Datblygiad Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones, “Roeddwn wrth fy modd yn cael clywed am gyrhaeddiad Mair a staff ein canolfannau hamdden. Rwy’n gwybod o’m mhrofiad fy hun faint o falchder sydd ganddynt yn eu gwaith ac mae bod y cyntaf yng Nghymru i ennill safon PoolMark yn gyflawniad gwych.”

“Mae ein tîm hamdden hefyd newydd gwblhau gwaith cynnal a chadw hanfodol yn ein holl byllau dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Edrychwn ymlaen at groesawu ein cwsmeriaid yn ôl yn 2022 fel y gallant unwaith eto fwynhau ein pyllau a’r buddion o gadw’n heini ac iach.”

Diwedd 11 Ionawr 2022


Wedi'i bostio ar 11 Ionawr 2022