Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Pwyllgor Gwaith yn cytuno i ddiddymu penderfyniadau moderneiddio ysgolion yn Ardaloedd Llangefni a Seiriol

Wedi'i bostio ar 20 Mai 2019

Heddiw (Dydd Llun, Mai 20fed) fe gytunodd Bwyllgor Gwaith Môn i ddiddymu ei benderfyniadau blaenorol ar ddyfodol darpariaeth addysg yn Ardaloedd Llangefni a Seiriol.

Pledleisiodd aelodau o blaid yr argymhelliad, ddaethpwyd ger eu bron gan swyddogion y Cyngor, ar ôl i adolygiad mewnol o’r broses ymgynghori statudol yn y ddwy ardal amlygu pryderon am ddiffyg cydymffurfiad gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion (Llywodraeth Cymru) 2013.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yn golygu y bydd nawr angen ail-ystyried dyfodol Ysgol Talwrn, Ysgol y Graig, Ysgol Bodffordd, Ysgol Henblas ac Ysgol Corn Hir (Llangefni) ac Ysgol Biwmares, Ysgol Llandegfan ac Ysgol Llangoed (Seiriol).

Cychwynnodd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion Ynys Môn yn 2012. Nod y rhaglen foderneiddio yw creu’r amgylchiadau addysgol i benaethiaid, athrawon a phlant lwyddo fydd yn ei dro yn hybu safonau uchel.

Mae’r broses wedi bod yn un heriol dros ben hyd yma gyda thair ysgol gynradd 21ain ganrif wedi eu hadeiladu ac agor yng Nghaergybi, Llanfaethlu a Niwbwrch - buddsoddiad o £22m mewn Addysg ar yr Ynys. Mae hefyd wedi golygu penderfyniadau anodd o ran rhesymoli ysgolion er mwyn adeiladu ysgolion newydd ac addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Môn, Dr Gwynne Jones, “Heddiw, daethpwyd a’r mater yma, yn briodol, yn ôl gerbron y Pwyllgor Gwaith a chytunodd yr aelodau i ddiddymu'r penderfyniadau hynny a wnaed mewn perthynas ag ardaloedd Llangefni a Seiriol. Byddwn yn sicrhau y bydd y gwersi a ddysgwyd o'n hadolygiadau mewnol yn atgyfnerthu’n proses moderneiddio ysgolion wrth i ni nawr edrych i symud ymlaen.”

Ychwanegodd, “Rydym yn dal i gredu bod ein rhaglen moderneiddio ysgolion yn cynrychioli gyrrwr hanfodol ar gyfer newid positif mewn addysg ar draws y sir gyfan. Drwy fuddsoddi yn nyfodol ein plant, byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu haddysgu mewn ysgolion sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, yn y lle iawn, ac yn cwrdd ag anghenion disgyblion a staff. Bydd hyn, yn y pen draw, yn helpu i gynyddu safonau ac amddiffyn yr iaith Gymraeg. ”

Gofynnodd y Pwyllgor Gwaith i swyddogion edrych o’r newydd ar y gwahanol faterion yn ymwneud â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, yn ardal Llangefni a Seiriol, ac i ddychwelyd ag adroddiad priodol i aelodau maes o law.

Diwedd 20.5.19


Wedi'i bostio ar 20 Mai 2019