Ddoe, (Dydd Llun 13 Gorffennaf) cytunodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar ei thema ar gyfer y cyfnod adfer yn dilyn y Cornafeirws, wrth i’r cyfyngiadau ar symudiadau barhau i gael eu llacio.
Mae’r ymateb argyfwng i’r Coronafeirws dros y pedwar mis diwethaf wedi bod yn gyfnod dwys ac eang sydd wedi effeithio ar drigolion, cymunedau ac economi leol Ynys Môn ynghyd â’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor Sir ac eraill.
Mae camau cynllunio adfer wrthi’n cael eu datblygu ar hyn o bryd a hynny ochr yn ochr â’r ymateb parhaus ar lefelau rhanbarthol a lleol; gyda dyletswydd ar Gyngor Sir Ynys Môn i arwain yr Ynys drwy’r cyfnod adfer.
Clywodd Aelodau’r Pwyllgor Gwaith y byddai’r cyfnod adfer yn canolbwyntio ar dri phrif faes, sef:
- Iechyd a Gofal
- Galluogi’r economi leol i ddatblygu a
- Sicrhau gwytnwch cymunedol
Eglurodd y Dirprwy Brif Weithredwr, Dylan Williams, “Rydym wedi ymrwymo i gynllunio ar gyfer y cyfnod adfer a byddwn yn gweithio mewn modd cadarnhaol â’n partneriaid yn y gymuned leol yn ogystal ag yn rhanbarthol a gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod trigolion yn elwa mor fuan â phosib.”
“Ni ddylid tanbrisio anferthedd a chymhlethdod y cyfnod adfer. Mae hyd yn oed yn fwy heriol oherwydd yr ansicrwydd a’r risg y gallai nifer yr achosion o coronafeirws gynyddu’n sylweddol eto.”
“Fodd bynnag, os yw nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yn cael ei reoli, fel yr ydym yn gobeithio, bydd y wlad yn addasu ymhellach a byddwn yn symud i’r cyfnod adfer.”
Mae’r Cyngor Sir yn amcangyfrif fod yr argyfwng Coronafeirws eisoes wedi arwain at £1.4 Miliwn o gostau ychwanegol ynghyd â cholli incwm o £1.2 Miliwn.
Bydd adnoddau a chyllid felly yn hanfodol wrth i’r cyfnod adfer ddatblygu ac fe gytunodd Swyddogion i ddod ag adroddiad manwl gerbron y Pwyllgor Gwaith fis nesaf.
Amlygodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Llinos Medi, a nifer o’i chyd-aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, y berthynas waith ragorol sydd wedi ei datblygu â Menter Môn a Medrwn Môn wrth ymateb i’r cyfnod hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Medi, “Bydd cynnal y cysylltiadau agos hyn, gyda chefnogaeth y gymuned leol i ddarparu’r rhwydweithiau gwirfoddoli cryf sydd eisoes yn eu lle, unwaith eto yn allweddol yn ystod y cyfnod adfer.
“Ddoe, cytunodd y Pwyllgor Gwaith ar y thema a fydd yn darparu’r sylfaen ar gyfer y cyfnod adfer a fydd, wrth gwrs, yn dod a newidiadau, heriau a chyfleoedd. Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweithio i sicrhau ein bod yn datblygu’r thema allweddol hyn er mwyn creu adferiad cadarn ar gyfer Ynys Môn, ei chymunedau a’i thrigolion.”
Ychwanegodd, “Ar hyn o bryd, bydd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar y flaenoriaeth sef yr ymateb argyfwng i’r pandemig a’r gwaith o godi’r cyfyngiadau yn ddiogel.”
Diwedd 14.7.20