Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Penderfyniad i gau’r holl adeiladau nad ydynt yn rhai hanfodol

Wedi'i bostio ar 19 Mawrth 2020

O ganlyniad i bryderon iechyd y cyhoedd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i gau’r holl adeiladau nad ydynt yn rhai hanfodol o 5:00pm heddiw (dydd Iau, 19 Mawrth).

O 5pm HEDDIW, Dydd Iau, 19 Mawrth, bydd

  •  Oriel Ynys Môn, Llangefni
  • Archifau Ynys Môn, Llangefni
  • Pob Llyfrgell (Amlwch, Biwmares, Benllech, Caergybi, Llangefni, Porthaethwy a Rhosneigr)
  • Pob Canolfan Hamdden ar Ynys Môn (Llangefni, Amlwch, Caergybi a Phorthaethwy)

yn cau i’r cyhoedd tan yr hysbysir fel arall. 

Nid yw hwn yn benderfyniad yr ydym wedi’i wneud ar chwarae bach ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir. Fodd bynnag, rhaid rhoi blaenoriaeth i iechyd a llesiant ein defnyddwyr gwasanaeth a’n staff. 

Rydym ar hyn o bryd yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio ein staff er mwyn ymateb i’r gofynion ychwanegol sylweddol a ragwelir mewn meysydd craidd o wythnos nesaf ymlaen.

Mae hwn yn gyfnod na welwyd ei fath o’r blaen a byddwn yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gefnogi’r rhai mwyaf bregus ar yr Ynys.

Gellir dod o hyd i ddiweddariadau am wasanaethau’r Cyngor yn ystod y Coronafeirws drwy fynd i’n gwefan www.ynysmon.gov.uk/coronafeirws

 

Diwedd 19.3.20


Wedi'i bostio ar 19 Mawrth 2020