Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Paratoi ar gyfer oedi posibl yng Nghaergybi

Wedi'i bostio ar 18 Rhagfyr 2020

Mae arwyddion wedi’u rhoi yn eu lle heddiw (dydd Gwener, 18 Rhagfyr) i gynghori gyrwyr o oedi posibl ar yr A55 yng Nghaergybi o 1 Ionawr pan fydd y cyfnod pontio yn dod i ben.

Bydd gwrthlif dros dro yn cael ei roi yn ei le ar yr A55 rhwng Cyffyrdd 2 – 4 o 28 Rhagfyr fel rhan o gynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosibl, gan barhau i ganiatáu mynediad i’r porthladd yn ogystal â chaniatáu i’r gymuned leol symud o gwmpas yn ddidrafferth.

Bydd gweithredwyr fferïau yn ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid sy’n cludo llwythi sy’n teithio i Iwerddon ddarparu gwybodaeth tollau gyda’u harcheb ac os ydynt yn cyrraedd heb wneud hynny, ni fyddant yn gallu cael mynediad i’r porthladd.

Bydd pob cerbyd nwyddau trwm sy’n cael eu gwrthod yn cael eu cyfeirio yn ôl i’r gwrthlif dros dro yng Nghyffordd 4 ar yr A55 lle y byddant yn ymuno â’r gerbytffordd tua’r gorllewin i naill ai mynd i’r safleoedd eraill ger Cyffordd 2 i aros tra’u bod yn paratoi’r gwaith papur, neu os nad oes unrhyw le yn y safleoedd hyn, byddant yn gorfod aros yma ond y dewis olaf un fydd hynny.

Mae trafodaethau ar y gweill i ddefnyddio Roadking fel ardal stacio ac mae gwaith eisoes yn cael ei wneud ar Blot 9 Parc Cybi fel y gellir ei ddefnyddio yn yr un modd o ganol mis Ionawr ymlaen.

Mae disgwyl y bydd nifer y cerbydau nwyddau trwm a fydd yn cael eu gwrthod ar ei uchaf erbyn canol mis Ionawr.

Er y gall y gwrthlif achosi rhywfaint o oedi i deithwyr, byddai peidio â chael cynllun wrth gefn yn ei le ar gyfer cerbydau nwyddau trwm yn achosi mwy o broblemau ac anghyfleustra wrth i’r rheini a wrthodir yn y porthladd chwilio am le i barcio, megis cilfan neu ffyrdd lleol.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Nod ein cynlluniau wrth gefn yw sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu ar weithrediad y porthladd ac ar fywydau cymunedau lleol Caergybi ac Ynys Môn.

“Er ein bod wedi rhagweld faint o gerbydau nwyddau trwm fydd yn cael eu gwrthod yn yr wythnosau cyntaf ar ddiwedd y cyfnod pontio, mae hyn yn sefyllfa hollol newydd inni gyd. Y peth cyfrifol ac angenrheidiol i’w wneud yw paratoi ac adolygu ein cynlluniau yn rheolaidd.

“Mae’r arwyddion wedi’u gosod i gynghori gyrwyr y gallai fod oedi o 1 Ionawr ymlaen. Rydym yn disgwyl i’r oedi hwnnw fod ar ei waethaf tua chanol mis Ionawr ond byddwn yn cynghori teithwyr a’r gymuned leol i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am y traffig o 1 Ionawr ymlaen rhag ofn y bydd unrhyw broblemau.

“Byddwn yn adolygu’r cynlluniau yn rheolaidd a byddwn yn cael gwared ar y gwrthlif dros dro cyn gynted ag y bydd yn ddiogel inni wneud hynny.”

Mae’r senario waethaf sy’n rhesymol ei thybied sydd wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth y DU yn pwysleisio y gallai 40-70% o gerbydau nwyddau trwm sy’n cyrraedd porthladdoedd ar ôl diwedd y cyfnod pontio gael eu gwrthod am nad oes ganddynt y dogfennau cywir.

Cyhoeddir y datganiad yma ar ran Llywodraeth Cymru.


Wedi'i bostio ar 18 Rhagfyr 2020