Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Oriel Môn i ail agor ar y 5ed o Awst

Wedi'i bostio ar 31 Gorffennaf 2020

Oriel Môn i ail agor ar y 19eg o Awst

Bydd Oriel Môn yn croesawu’r cyhoedd yn ôl ddydd Mercher 5 Awst a hynny yn dilyn caniatâd diweddar Llywodraeth Cymru i orielau ac amgueddfeydd allu ail agor.

Yn dilyn cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru am ail agor orielau ac amgueddfeydd yng Nghymru, mae cynlluniau wedi eu rhoi at ei gilydd er mwyn gallu ail agor Oriel Môn yn Llangefni.

Mae llawer iawn o amser wedi ei dreulio yn rhoi cynllun at ei gilydd er mwyn gallu agor yr Oriel yn raddol yn Llangefni gyda’r pwyslais yn cael ei roi ar ddiogelwch staff ac ymwelwyr fel ei gilydd.

I ddechrau, ar ddydd Mercher 5 Awst, bydd Oriel Môn yn agor y siop a’r caffi sydd ar y safle, caffi Dewi, ac yn darparu gwasanaeth tecawê.

Bydd y brif neuadd arddangos yn ail agor ar ddydd Mercher 19 Awst.

Mae staff wedi bod yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod modd i’r Oriel ail agor yn ddiogel – ond bydd rhai newidiadau wrth i chi ymweld.

Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Am y tro, bydd Oriel Môn ar agor rhwng dydd Mercher a dydd Sul rhwng 10am a 4pm. Fel arfer, bydd mynediad am ddim.
  • Bydd niferoedd ymwelwyr yn cael eu cyfyngu er mwyn sicrhau y gellir cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ddiogel.
  • Bydd yr holl ymweliadau â’r arddangosfeydd angen eu trefnu ar-lein ymlaen llaw.

Bydd manylion llawn canllawiau diogelwch Oriel Môn ar gael yn fuan, ynghyd â'r ffurflen archebu ar-lein.

Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau’r amrywiaeth o arddangosfeydd, yn cynnwys lluniau godidog Lisa Eurgain o’r mynyddoedd, gwaith Eta Ingham sydd wedi’i greu drwy wehyddu, astudiaethau adar Charles Tunnicliffe a sioe sylweddol sy’n edrych ar William Roos - un o arlunwyr y 19eg Ganrif mwyaf uchel ei barch. Yn y Stiwdio gelf bydd ysgythriadau Carloe Randall ac yn y siop bydd modd prynu crefftau a nwyddau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol. Bydd digon i weld, ei fwynhau a’i brynu.

Meddai Deilydd Portffolio Addysg, Diwylliant, Llyfrgelloedd ac Ieuenctid Cyngor Ynys Môn, y Cynghorydd Meirion Jones, “Rydw i mor falch y bydd yr Oriel yn gallu ail agor ei drysau a chroesawu ymwelwyr yn ôl cyn hir. Mae’r staff wedi bod yn gweithio’n ddiddiwedd er mwyn sicrhau bod yr oriel yn ddiogel i bawb pan fydd yn ail agor ac rwy’n hyderus y bydd staff yn darparu’r un croeso cynnes. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at allu ymweld eto!”

Meddai Rhys Hughes, Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc Cyngor Ynys Môn, “Rydym yn falch o allu ail agor Oriel Môn ac rydym yn edrych ymlaen at allu croesawu pobl leol ac ymwelwyr yn ôl.”

“Mae mesurau diogelwch wedi eu gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru – mae’r rhain, wrth gwrs, yno i gadw pawb yn ddiogel a gofynnwn yn garedig i bawb ddilyn y canllawiau pan fyddant yn ymweld.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu ag Oriel Môn drwy anfon neges at Orielmon@ynysmon.llyw.cymru neu gallwch ffonio 01248 724444.

Diwedd 31.07.2020


Wedi'i bostio ar 31 Gorffennaf 2020