Neidio i'r prif gynnwys

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

George Cockram - Artist wedi’i ailddarganfod yn Oriel Môn

Wedi'i bostio ar 30 Tachwedd 2020

Mae morluniau a thirluniau mawr George Cockram yn llenwi galeri Kyffin yn Oriel Môn mewn arddangosfa sy’n rhoi sylw i artist y mae ei enw da wedi dirywio ers ei farwolaeth drasig yn ei stiwdio yn Ynys Môn. Am y tro cyntaf, mae’r arddangosfa yn dod â lluniau Cockram, o’i yrfa rhwng y 1880au i’r 1940au ynghyd, gan gynnwys lluniau a ddaeth ag ef i amlygrwydd yn y 1890au. Ganwyd George Cockram ym Mhenbedw ond gweithiodd yn Rhosneigr am dros 50 mlynedd. Roedd Rhosneigr yn bwysig i Cockram a bu’n ysbrydoliaeth i’r rhan fwyaf o’i yrfa broffesiynol.

Charles Nugent, cyn Guradur yn Whitworth Art Gallery, Manceinion sydd wedi rhoi’r arddangosfa at ei gilydd. Cafodd ei swyno gan Cockram dros ddeg mlynedd yn ôl pan ddaeth ar draws dyfrlliw ganddo mewn ocsiwn. Ers hynny, mae Charles Nugent wedi prynu a gwarchod ei luniau ac wedi rhoi gwaith ymchwil at ei gilydd mewn llyfr sy’n cynnwys lluniau. Mae Charles Nugent yn ysgrifennu yn ei lyfr; “Cockram was a successful and highly regarded artist who regularly commanded three figure sums for his works – substantial amounts for the period. In his day, Cockram’s reputation stood high. Having trained at the Liverpool School of Art, his pictures were exhibited in London, Glasgow and elsewhere, and even as far afield as New Zealand. His paintings can be found in public collections throughout Britain.”

Meddai Esther Roberts, Uwch Reolwr Oriel Môn ‘Rydym yn falch iawn o allu cynnal arddangosfa sy’n dod â chynifer o luniau George Cockram ynghyd. Fel artist llwyddiannus - sy’n haeddu cael ei gydnabod heddiw - mae ei luniau yn ddramatig ac yn deimladwy ac yn parhau i ysgogi pobl.” Mae nifer o’r lluniau ar werth. Mae mynediad i’r arddangosfa am ddim. Gellir hefyd prynu copi o’r llyfr ‘George Cockram 1861 - 1950’ a ysgrifennwyd gan Charles Nugent yn y galeri. Gall ymwelwyr archebu amser i weld yr arddangosfa drwy fynd ar-lein neu gellir troi fyny a rhannu manylion ar gyfer y cynllun olrhain, profi, diogelu wrth gael mynediad. Mae rheoliadau yn eu lle er mwyn sicrhau ymweliad diogel i bawb. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am yr arddangosfa a chymorth i gynllunio eich ymweliad drwy fynd i www.orielmon.org. Bydd yr arddangosfa yn dechrau ddydd Sadwrn 28 Tachwedd ac yn para tan 7 Mawrth 2021. Yr amseroedd agor yw dydd Mercher i ddydd Sul, 10am – 4pm.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Oriel Môn drwy ffonio 01248 724444 neu anfonwch neges e-bost at orielynysmon@ynysmon.llyw.cymru

 

DIWEDD 30.11.20


Wedi'i bostio ar 30 Tachwedd 2020