Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Neuadd y Farchnad, Caergybi - Digwyddiad Drysau Agored

Wedi'i bostio ar 16 Medi 2019

Dyddiad: Dydd Sadwrn, 28 Medi 2019. 

Amser: Dechrau am 1yh. Pum taith dywys 45 munud, yn dechrau am 1yh, 2yh, 3yh a 4yh gyda’r daith olaf am 5yh. 

Digwyddiad: Teithiau tywys o amgylch adeilad newydd Neuadd y Farchnad. Uchafswm o 20 o bobl ym mhob grŵp. Mae’n hanfodol eich bod yn cysylltu i gadw eich lle drwy anfon neges at neuaddyfarchnad@ynysmon.llyw.cymru  neu ffonio 01248 752407.

Cyfeiriad: Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH gan ddefnyddio’r brif fynedfa yn unig.

Mae Neuadd y Farchnad yn hygyrch i bawb gyda ramp mynediad ger y drws ffrynt, lifft a ramp tu mewn i’r adeilad, toiledau i’r anabl a chyfleuster ‘changing places’. 

Ynglŷn â Neuadd y Farchnad:

Mae Neuadd y Farchnad wedi bod wrth wraidd canol tref a bywyd cymunedol Caergybi ers blynyddoedd. Comisiynwyd yr adeilad rhestredig Gradd II ar gyfer masnachwyr lleol gan y tirfeddiannwr William Owen Stanley. Wedi’i hadeiladu yn 1855 mae Neuadd y Farchnad wedi’i defnyddio ar gyfer llawer o wahanol bethau dros y blynyddoedd, yn farchnad, llyfrgell peirianyddion, cynnal sesiynau Llys, barics milwrol a lleoliad diddanwch fel lleoliad bocsio a wreslo cyn bod yn lle gwerthu dodrefn a siop ffrwythau cyn cau ei giatiau yn y flwyddyn 2000.

Gyda chyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, arweiniodd y Cyngor Sir y prosiect o achub yr adeilad rhag disgyn, sicrhau perchnogaeth yn dilyn Gorchymyn Prynu Gorfodol yn 2015 a hwyluso cynlluniau ar gyfer ei adnewyddu gan roi Neuadd y Farchnad wrth wraidd y gymuned unwaith eto.

Yn dilyn naw mlynedd o drafod, datblygu cynigion, sicrhau cyllid a chynllunio’r gwaith o adnewyddu Neuadd y Farchnad, cychwynnwyd ar y gwaith ddechrau 2016 wrth i’r giatiau haearn gwreiddiol gael eu hadnewyddu. Agorodd yr adeilad ei ddrysau unwaith eto i’r cyhoedd ar 2 Medi 2019 i Lyfrgell Caergybi sydd hefyd yn cynnwys canolfan hanes lleol, ystafelloedd cyfarfod ac ardal fasnachol a siop goffi sydd ar gael i’w rhentu gyda chynigion ar gyfer gwaith dehongli sylweddol wrth ddatblygu.  


Wedi'i bostio ar 16 Medi 2019