Skip to content

Cyngor Sir Ynys Môn - Isle of Anglesey County Council

Llwybrau twristiaeth newydd wedi eu lansio yng Ngogledd Cymru cyn wythnos dwristiaeth cymru 2019

Wedi'i bostio ar 15 Mai 2019

Dewch o hyd i lwybrau newydd i’w harchwilio yr haf hwn.

Mae llwybrau twristiaeth newydd sbon ar draws gogledd ddwyrain Cymru wedi eu lansio cyn Wythnos Dwristiaeth Cymru sy’n dechrau ar 11 Mai 2019. Mae’r llwybrau ar gael fel map rhyngweithiol, y gellir eu lawrlwytho AM DDIM ar ein wefan Croeso Môn.

Mae’r mapiau yn rhai y gellir eu lawrlwytho yn rhyngweithiol ac yn galluogi pori ar draws amrywiaeth o ddyfeisiadau. Mae yna hefyd opsiwn i ymestyn yr ardal a llywio gan ddefnyddio Google Maps. Mae’r llwybrau newydd ar draws gogledd ddwyrain Cymru yn rhan o gasgliad newydd o saith o fapiau digidol sy’n tynnu sylw ar rai o’r prif fannau twristiaeth na ellir eu methu yng ngogledd Cymru. Yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, mae’r mapiau wedi eu dylunio a’u cynhyrchu gan y bedair ardal farchnata cyrchfannau ar draws gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy a gogledd ddwyrain Cymru (Newydd)). Mae’r mapiau yn rhyng-gysylltu â Ffordd Gogledd Cymru sy’n 75 milltir – un o'r tri llwybr twristiaeth a lansiwyd gan Croeso Cymru o dan y brand Ffordd Cymru.

Gydag amrywiaeth eang o drysorau cudd ledled gogledd Cymru, mae gan bob map ei thema a’i llwybr unigryw ei hun sy’n estyn o Ynys Môn i ogledd ddwyrain Cymru. Ar yr agenda, gall defnyddwyr archwilio llwybr forwrol gogledd Ynys Môn.

Mae’r mapiau newydd wedi bod yn ymdrech gymunedol gan i fusnesau gael eu gwahodd i weithdai ledled gogledd Cymru i drafod eu syniadau am lwybrau twristiaeth newydd a fyddai’n helpu i hyrwyddo’r ardal ac yn darparu cylchdeithiau a llwybrau amgen oddi ar Ffordd y Gogledd.

Mae’r mapiau yn rhan o ymgyrch twristiaeth ehangach a lansiwyd gan Awdurdodau Lleoli Gogledd Cymru, sydd – ynghyd â chyllid gan Croeso Cymru a'r Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF) – wedi ymdrechu i roi hwb i ffigyrau twristiaeth yn ystod misoedd y gaeaf, sydd wedi bod yn is na’r hyn a ddymunir yn y gorffennol.

Profodd yr ymgyrch yn llwyddiannus gyda busnesau lleol, gyda digon o ymatebion positif a pharodrwydd i ddefnyddio’r hashnod #DarganfodGogleddCymru ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r hashnod poblogaidd yn dal i gael ei ddefnyddio’n rheolaidd i hyrwyddo’r ardal.

Thema Wythnos Dwristiaeth eleni yw “Cryfder drwy Bartneriaeth”, sy’n adlewyrchu ar yr ymdrechion a wnaed gan y ddau gyngor yng ngogledd Cymru er mwyn ymgysylltu â’r diwydiant twristiaeth yn yr ardal drwy gydol yr ymgyrch gyfan – gyda’r nod o gydweithio er mwyn sicrhau’r buddion economaidd o hyrwyddo’r ardal gyfan a manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Ffordd Cymru.

Bydd yr wythnos o ddigwyddiadau yn dechrau yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 14 Mai gyda mwy na 20 o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos ledled Cymru.

Mae mapiau ar gael i’w lawrlwytho o'r wefan Croeso Môn.

Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid drwy’r Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol ac fe’i cefnogir drwy Raglen Datblygiad Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru, y Gronfa i wella profiadau ymwelwyr a chreu cyrchfannau cryfach drwy gydweithio.


Wedi'i bostio ar 15 Mai 2019