Wrth i'r rheolau cyfyngu ar symudiadau barhau, mae rhai busnesau bwyd cymwys yn ailagor ac eraill yn arallgyfeirio i ddarparu gwasanaethau cludo a dosbarthu.
Mae’r tîm Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn yn atgoffa busnesau bod nifer o faterion i'w hystyried yn ofalus cyn agor.
Prif bwyntiau i’w hystyried:
- Rhaid i chi sicrhau bod gennych ddarpariaethau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol i gwsmeriaid, a sicrhau bod cwsmeriaid yn cydymffurfio/parchu'r mesurau
- Gan fod busnesau wedi bod ar gau ers nifer o wythnosau, mae'n bwysig cyn agor eich bod yn gwirio'r holl stoc e.e. dyddiadau arddangos a bwyta’r cynnyrch, a sicrhau na chafwyd unrhyw weithgaredd pla tra roeddech ar gau
- Os ydych chi'n dechrau cynnig gwasanaeth cludo neu ddanfon am y tro cyntaf, mae'n bwysig bod gennych system o nodi alergenau, prydau heb alergenau, a fod y wybodaeth a ddarperir yn gywir
- Yn ystod yr amser hwn efallai y byddwch yn derbyn cynhwysion amgen neu ddim yn defnyddio'ch cyflenwr arferol, felly mae'n bwysig iawn gwirio bod y wybodaeth sydd gennych mewn perthynas ag alergenau yn gywir
I gael cyngor ac arweiniad ar fesurau pellhau cymdeithasol, yn ogystal â phosteri y gellir eu lawr lwytho ar gyfer eich busnes, ewch i:
https://www.ynysmon.gov.uk/cy/Busnes/Iechyd-amgylcheddol/COVID-19-Cyngor-cadw-pellter-cymdeithasol-ar-gyfer-trigolion-busnesau-a-gweithleoedd.aspx
neu am gymorth ynglŷn â’ch busnes, cysylltwch â safonaumasnach@ynysmon.llyw.cymru.
Diwedd 1.5.20
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Gethin Jones, Uned Gyfathrebu (01248) 752130